- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
34.—(1) Mae unrhyw weithgarwch awdurdodedig sy’n digwydd ar dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir (p’un a gynhelir y gweithgarwch gan yr ymgymerwr, neu gan unrhyw berson sy’n deillio teitl gan yr ymgymerwr neu gan gontractwyr, gweision neu asiantau’r ymgymerwr) wedi’i awdurdodi gan y Gorchymyn hwn os y’i gwneir yn unol â thelerau’r Gorchymyn hwn, er ei fod yn cynnwys—
(a)ymyrraeth â diddordeb neu hawl y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo neu iddi; neu
(b)torri cyfyngiad ynglŷn â’r defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “gweithgarwch awdurdodedig” yw—
(a)adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu unrhyw ran o’r gweithfeydd awdurdodedig;
(b)arfer unrhyw bŵer a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn; neu
(c)ddefnyddio unrhyw dir (gan gynnwys defnyddio tir dros dro).
(3) Mae’r buddiannau a’r hawliau y mae’r erthygl hon yn gymwys iddynt yn cynnwys unrhyw hawddfraint, rhyddid, braint, hawl neu fantais a atodir i dir ac sy’n effeithio’n andwyol ar dir arall, gan gynnwys unrhyw hawl naturiol i gymorth; ac yn cynnwys cyfyngiadau ynglŷn â’r defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract.
(4) Pan fo unrhyw fuddiant, hawl neu gyfyngiad yn cael ei drechu neu ei threchu gan baragraff (1), mae digollediad—
(a)yn daladwy o dan adran 7 (mesur digollediad yn achos gwahanu tir) neu adran 10 (darpariaeth bellach ynglŷn â digolledu am effeithiad andwyol) o Ddeddf 1965; a
(b)i’w asesu yn yr un modd ac yn ddarostyngedig i’r un rheolau ag yn achos digolledu arall o dan yr adrannau hynny—
(i)pan fo’r digollediad i’w amcangyfrif mewn cysylltiad â phryniant o dan y Ddeddf honno; neu
(ii)pan fo’r niwed yn codi o gwblhau gweithfeydd ar y tir a gaffaelwyd o dan y Ddeddf honno neu o ddefnyddio’r cyfryw dir.
(5) Pan fo person sy’n deillio teitl o dan yr ymgymerwr a gaffaelodd y tir dan sylw—
(a)yn atebol i dalu digollediad yn rhinwedd paragraff (4); a
(b)yn methu â chyflawni’r atebolrwydd hwnnw;
mae’r atebolrwydd yn orfodadwy yn erbyn yr ymgymerwr.
(6) Nid oes dim yn yr erthygl hon i’w ddehongli fel pe bai’n awdurdodi unrhyw weithred neu anwaith ar ran unrhyw berson sy’n agored i gyfraith drwy achos cyfreithiol unrhyw berson ar unrhyw seiliau heblaw am y cyfryw ymyrraeth neu’r tor cyfyngiad a grybwyllir ym mharagraff (1).
35.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, diddymir pob hawl tramwy breifat dros dir sy’n cael ei gaffael yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn—
(a)o’r dyddiad y mae’r ymgymerwr yn caffael y tir, boed hynny’n orfodol neu drwy gytundeb; neu
(b)ar y dyddiad y mae’r ymgymerwr yn mynd ar y tir o dan adran 11(1) (pwerau mynediad) o Ddeddf 1965,
pa un bynnag sydd gynharaf.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, diddymir pob hawl breifat dros dir sy’n ddarostyngedig i gaffael hawliau’n orfodol neu osod cyfamodau cyfyngol o dan y Gorchymyn hwn i’r graddau y byddai parhad y cyfryw hawliau preifat yn anghyson ag arfer hawl neu fyrdwn y cyfamod cyfyngol—
(a)o’r dyddiad y caffaelir hawl neu fuddiant y cyfamod cyfyngol sy’n cael ei osod o blaid yr ymgymerwr, boed hynny’n orfodol neu drwy gytundeb;
(b)ar y dyddiad y mae’r ymgymerwr yn mynd ar y tir o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965; neu
(c)ar adeg cychwyn unrhyw weithgarwch a awdurdodir gan y Gorchymyn sy’n ymyrryd â’r hawliau hynny sy’n eu torri,
pa un bynnag sydd gynharaf.
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, mae pob hawl breifat dros dir y mae’r ymgymerwr yn ei feddiannu dros dro o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei hatal a byddant yn anorfodadwy cyhyd ag y bo’r ymgymerwr yn parhau i feddiannu’r tir yn gyfreithlon.
(4) Mae gan unrhyw berson sy’n dioddef colled oherwydd diddymu neu atal unrhyw hawl breifat neu oherwydd gosod unrhyw gyfamod cyfyngol o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad, i’w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 (penderfynu ar gwestiynau sy’n ymwneud â digolledu y mae anghydfod yn ei gylch) o Ddeddf 1961.
(5) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hawl y mae adran 271 neu 272 (diddymu hawliau ymgymerwyr statudol etc.) o Ddeddf 1990(2) yn gymwys iddi.
(6) Mae paragraffau (1) i (3) yn cael effaith yn ddarostyngedig i—
(a)unrhyw hysbysiad a roddir gan yr ymgymerwr cyn—
(i)cwblhau caffael y tir neu gaffael yr hawliau neu osod cyfamodau cyfyngol dros y tir neu sy’n effeithio ar y tir;
(ii)i’r ymgymerwr ei feddiannu;
(iii)i’r ymgymerwr fynd arno; neu
(iv)i’r ymgymerwr ei feddiannu dros dro,
nad oes unrhyw un na phob un o’r paragraffau hynny yn gymwys i unrhyw hawl tramwy a bennir yn yr hysbysiad; nac
(b)unrhyw gytundeb a wneir ar unrhyw adeg rhwng yr ymgymerwr a’r person y mae’r hawl tramwy dan sylw wedi’i breinio ynddo neu’n perthyn iddo.
(7) Os yw’r cyfryw gytundeb ag y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b)—
(a)yn cael ei wneud â pherson y mae’r hawl tramwy wedi’i breinio ynddo neu’n perthyn iddo; ac
(b)yn cael ei fynegi i gael effaith hefyd er budd y rhai sy’n deillio teitl gan neu o dan y person hwnnw.
mae’n effeithiol mewn cysylltiad â’r personau sy’n deillio teitl felly, p’un a oedd y teitl yn deillio cyn neu ar ôl gwneud y cytundeb.
(8) Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at hawliau preifat dros dir yn cynnwys unrhyw hawl tramwy, ymddiriedolaeth, nodwedd, hawddfraint, rhyddid, braint, hawl neu fantais a atodir i dir ac sy’n effeithio’n andwyol ar dir arall, gan gynnwys unrhyw hawl naturiol i gymorth; ac yn cynnwys cyfyngiadau ynghylch y defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract, cytundeb neu ymgymeriad sy’n cael yr effaith honno.
36.—(1) Ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym—
(a)ni ellir cyflwyno unrhyw hysbysiad i drafod telerau o dan Ran 1 o Ddeddf 1965 fel y’i cymhwysir at gaffael tir gan erthygl 24 (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965); a
(b)ni ellir gweithredu unrhyw ddatganiad o dan adran 4 o Ddeddf 1981 fel y’i cymhwysir gan erthygl 25 (Cymhwyso Deddf 1981).
(2) Mae’r pwerau a roddir gan erthygl 28 (defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd) yn peidio ar ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ac eithrio nad oes dim yn y paragraff hwn yn atal yr ymgymerwr rhag parhau i feddiannu tir ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, os aethpwyd ar y tir a’i feddiannu cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
Diwygiwyd adran 11 gan adran 34(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) ac Atodlen 4 i’r ddeddf honno, adran 3 o Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p. 71) a Rhan 1 o Atodlen 1 i’r ddeddf honno, adran 14 o Fesurau Eglwys Loegr (Darpariaethau Amrywiol) 2006 (Rhif 1) a pharagraff 12(1) o Atodlen 5 i’r mesur hwnnw, adrannau 186(2), 187(2) a 188 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) a pharagraff 6 o Atodlen 14 a pharagraff 3 o Atodlen 16 i’r ddeddf honno ac O.S. 2009/1307.
Diwygiwyd adran 272 gan baragraff 103(1) a (2) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: