- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthyglau 2, 3, 4 a 5
Gwaith Rhif 1
Gorsaf gynhyrchu llanwol alltraeth sydd â chapasiti trydanol gros i gynhyrchu hyd at 240 megawat o fewn ardal yr araeau sy’n cynnwys:
(1) hyd at 620 o ddyfeisiau llanwol ar unrhyw un adeg benodol sy’n cynnwys
(a)dyfeisiau llanwol o dan yr wyneb ar wely’r môr sy’n cael eu hatodi i wely’r môr drwy:
(i)sylfaen disgyrchiant; neu
(ii)sylfeini o fath piler unigol; neu
(iii)sylfeini o fath aml-biler;
(b)dyfeisiau llanwol colofn dŵr canol ac sy’n cael eu clymu wrth wely’r môr drwy naill ai:
(i)sylfaen disgyrchiant;
(ii)sylfaen o fath piler unigol;
(iii)sylfaen o fath aml-biler; neu
(iv)eu hangori wrth sylfaen disgyrchiant; sylfaen o fath piler unigol neu sylfaen o fath aml-biler;
(c)dyfeisiau llanwol arnofiol neu sy’n codi o’r wyneb ac sy’n cael eu clymu wrth wely’r môr drwy naill ai:
(i)sylfaen disgyrchiant;
(ii)sylfaen o fath piler unigol;
(iii)sylfaen o fath aml-biler; neu
(iv)eu hangori wrth sylfaen disgyrchiant; sylfaen o fath piler unigol neu sylfaen o fath aml-biler;
(2) rhwydwaith o geblau ar gyfer trawsyrru trydan a chyfathrebu electronig a osodir ar neu o dan wely’r môr gan gynnwys croesfannau ceblau rhwng—
(a)unrhyw un o’r dyfeisiau llanwol sy’n cynnwys Gwaith Rhif 1(1);
(b)unrhyw un o’r dyfeisiau llanwol sy’n cynnwys Gwaith Rhif 1(1) a hybiau gweithredol sy’n cynnwys Gwaith Rhif 1(3) ac unrhyw un o’r gweithfeydd sy’n cynnwys Gwaith Rhif 2; neu
(c)unrhyw hwb sy’n cynnwys Gwaith Rhif 1(3) a chebl sy’n cynnwys Gwaith Rhif 2;
(3) hyd at 120 o hybiau gweithredol alltraeth sy’n cynnwys:
(a)hyd at 120 o hybiau ar wely’r môr, yn gyfan gwbl o dan y dŵr, hybiau sy’n cael eu clymu wrth wely’r môr drwy sylfaen disgyrchiant, sylfaen o fath piler unigol neu sylfaen o fath aml-biler; neu
(b)hyd at 93 o hybiau arnofiol sy’n codi o’r wyneb sy’n cael eu hangori wrth wely’r môr drwy sylfaen disgyrchiant, sylfaen o fath piler unigol neu sylfaen o fath aml-biler; neu
(c)hyd at 8 hwb gweithredol alltraeth ar wely’r môr sy’n codi o’r wyneb sy’n cael eu clymu wrth wely’r môr drwy sylfaen disgyrchiant, sylfaen o fath piler unigol neu sylfaen o fath aml-biler;
(4) hyd at 60 o fwiau mordwyol a marcio;
(5) hyd at 40 o broffilwyr ceryntau doppler acwstig;
(6) hyd at 8 o unedau monitro amgylcheddol ar wely’r môr;
(7) hyd at 5 o fwiau monitro amgylcheddol ar lefel y môr; a
(8) croesfannau ceblau a chysylltwyr i gysylltu Gwaith Rhif 1(2) a Gwaith Rhif 2.
Gwaith Rhif 2
Hyd at 9 cebl allforio, pob un yn cynnwys ceblau ar gyfer trawsyrru trydan a chyfathrebu sy’n cael eu gosod o fewn y coridor ceblau allforio ar neu o dan wely’r môr rhwng Gwaith Rhif 1 a Gwaith Rhif 3 gan gynnwys diogelwch ceblau, croesfannau ceblau a chysylltwyr.
Gwaith Rhif 3
Hyd at 9 cebl allforio, pob un yn cynnwys ceblau ar gyfer trawsyrru trydan a chyfathrebu o fewn yr ardal rynglanw naill ai wedi’u gosod o dan y ddaear, ar wyneb y blaendraeth neu o fewn hyd at 9 ffos agored wedi’u torri ynghyd â diogelwch ceblau a chysylltu Gwaith Rhif 2 a Gwaith Rhif 4.
Gwaith Rhif 4
Hyd at 9 cebl allforio, pob un yn cynnwys cebl ar gyfer trawsyrru trydan a chyfathrebu sy’n cael ei osod naill ai o dan y ddaear, dros arwyneb clogwyn y blaendraeth a phen y clogwyn neu o fewn hyd at 9 ffos agored wedi’u torri ynghyd â diogelwch ceblau rhwng Gwaith Rhif 3 a’r cyd-gilfachau trosglwyddo sy’n ffurfio Gwaith Rhif 5.
Gwaith Rhif 5
Gwaith sy’n cynnwys hyd at 9 cyd-gilfach drosglwyddo sy’n cysylltu Gwaith Rhif 4 â Gwaith Rhif 6.
Gwaith Rhif 6
Hyd at 9 cebl allforio, pob un yn cynnwys un neu fwy o gyfryngau dargludo ar gyfer trawsyrru trydan a chyfathrebu sy’n cael eu gosod o dan y ddaear ac yn cysylltu Gwaith Rhif 5 â’r is-orsaf drydanol y cyfeirir ati ym Mhennod 2 o Ran 2 o’r Atodlen 1 hon.
Gwaith Rhif 7
Hyd at 6 chebl allforio ar gyfer trawsyrru trydan a hyd at 2 gebl cyfathrebu sy’n cael eu gosod o dan y ddaear a chyd-gilfachau trosglwyddo a chysylltu’r is-orsaf drydanol â’r seilwaith offer switsio, y cyfeirir at bob un ym Mhennod 2 o Ran 2 o’r Atodlen 1 hon.
Gwaith Rhif 8
Hyd at 6 chebl allforio ar gyfer trawsyrru trydan, pob un yn cynnwys un neu ragor o gyfryngau dargludo a hyd at 2 gebl cyfathrebu sy’n cael eu gosod o dan y ddaear, gan gynnwys cyd-gilfachau trosglwyddo o’r seilwaith offer switsio y cyfeirir ato ym Mhennod 2 o Ran 2 o’r Atodlen 1 hon i Waith Rhif 9.
Gwaith Rhif 9
Hyd at 6 chebl allforio ar gyfer trawsyrru trydan, pob un yn cynnwys un neu ragor o gyfryngau dargludo a hyd at 2 gebl cyfathrebu sy’n cael eu gosod drwy ddriliau cyfeiriadol gorweddol o dan yr A55 a llinell reilffordd Llinell Arfordir Gogledd Cymru sy’n cysylltu Gwaith Rhif 8 â’r gweithfeydd cysylltu â’r grid y cyfeirir atynt ym Mhennod 2 o Ran 2 o’r Atodlen 1 hon.
(1) Caiff yr ymgymerwr o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y môr adeiladu, cynnal a chadw a gweithredu’r cyfryw weithfeydd canlynol ag sy’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd llanwol, neu at ddibenion ategol, sef—
(a)angorfeydd dros dro neu barhaol neu fodd arall i ddarparu ar gyfer cychod a llongau wrth adeiladu neu gynnal a chadw’r gweithfeydd awdurdodedig;
(b)bwiau, goleuadau, ffenders a gweithfeydd eraill sy’n rhoi rhybuddion mordwyol neu’n diogelu rhag trawiadau â llongau;
(c)gwaith i newid lleoliad cyfarpar, gan gynnwys ceblau;
(d)y cyfryw weithfeydd a chyfarpar, offer a pheiriannau eraill o ba natur bynnag y bo ag sy’n angenrheidiol neu’n hwylus.
(2) Caiff yr ymgymerwr o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir adeiladu, cynnal a chadw a gweithredu’r cyfryw weithfeydd canlynol ag sy’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd ar y tir, neu at ddibenion ategol, sef—
(a)gwaith tirlunio a sgrinio;
(b)caeadleoedd a mannau storio;
(c)creu pyllau tynnu ar gyfer llwybr y ceblau ar y tir;
(d)mannau arwyneb caled ar gyfer cyd-gilfachau trosglwyddo;
(e)cysylltiadau â’r rhwydwaith ffonau a’r rhwydwaith dŵr;
(f)gweithfeydd er budd y tir y mae’r gweithfeydd awdurdodedig yn effeithio arno neu er mwyn diogelu’r tir y mae’r gweithfeydd awdurdodedig yn effeithio arno;
(g)gwaith i newid lleoliad cyfarpar, gan gynnwys ceblau; neu
(h)y cyfryw weithfeydd a chyfarpar, offer a pheiriannau eraill o ba natur bynnag y bo ag sy’n angenrheidiol neu’n hwylus.
Heb ragfarnu cyffredinolrwydd Pennod 1 uchod caiff yr ymgymerwr o fewn y tir a bennir yng ngholofn (2) o’r tabl isod adeiladu’r gweithfeydd a grybwyllir yng ngholofn (3)
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Ardal | Rhif y parsel o dir a ddangosir ar blaniau’r tir | Disgrifiad o’r Gweithfeydd |
Sir Ynys Môn | 10 | Is-orsaf drydanol sy’n cynnwys—
|
Sir Ynys Môn | 38a | Seilwaith gan gynnwys gweithfeydd cysylltu’r grid â’r rhwydwaith dosbarth ac sy’n cynnwys—
|
Sir Ynys Môn | 48, 49 a 50 | Gweithfeydd cysylltu’r grid â’r rhwydwaith trydan presennol sy’n cynnwys—
|
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Cyfesurynnau grid ar gyfer | Hydredd | Lledredd |
Ardal Araeau (fel y’i dangosir yn Ffigur 1-1 o’r datganiad amgylcheddol) | ||
1 | 04° 44′ 8044″Gn | 53° 20′ 0232″G |
2 | 04° 45′ 8658″Gn | 53° 17′ 4900″G |
3 | 04° 45′ 8658″Gn | 53° 15′ 5400″G |
4 | 04° 41′ 4552″Gn | 53° 15′ 5400″G |
5 | 04° 41′ 0129″Gn | 53° 15′ 9503″G |
6 | 04° 42′ 5328″Gn | 53° 18′ 3882″G |
7 | 04° 41′ 2896″Gn | 53° 20′ 0232″G |
Coridor Ceblau Allforio (fel y’i dangosir ar Ffigur 1-1 o’r datganiad amgylcheddol) | ||
5 | 04° 41′ 0129″Gn | 53° 15′ 9503″G |
6 | 04° 42′ 5328″Gn | 53° 18′ 3882″G |
7 | 04° 41′ 2896″Gn | 53° 20′ 0232″G |
8 | 04° 40′ 8918″Gn | 53° 19′ 4553″G |
9 | 04° 42′ 1572″Gn | 53° 18′ 3923″G |
10 | 04° 41′ 4538″Gn | 53° 18′ 0234″G |
11 | 04° 41′ 3192″Gn | 53° 17′ 9827″G |
a rhwng y cyfesurynnau sy’n cynnwys pwynt 11 uchod yn dilyn lefel penllanw cymedrig y gorllanw a’r cyfesurynnau sy’n cynnwys pwynt 12 isod | ||
12 | 04° 41′ 0437″Gn | 53° 17′ 4793″G |
13 | 04° 41′ 4248″Gn | 53° 17′ 2703″G |
14 | 04° 41′ 1701″Gn | 53° 16′ 8109″G |
Ardal Gyfyngedig – Gogleddol (fel y’i dangosir ar blan yr ardal gyfyngedig) | ||
3 | 4° 42′ 1615″Gn | 53° 19′ 4682″G |
4 | 4° 44′ 0251″Gn | 53° 19′ 4682″G |
5 | 4° 44′ 9249″Gn | 53° 18′ 9282″G |
6 | 4° 44′ 9249″Gn | 53° 18′ 2196″G |
17 | 4° 42′ 5741″Gn | 53° 17′ 7330″G |
16 | 4° 42′ 9827″Gn | 53° 18′ 3882″G |
19 | 4° 43′ 7090″Gn | 53° 18′ 2230″G |
Ardal Gyfyngedig – UKC 20m (fel y’i dangosir ar blan yr ardal gyfyngedig) | ||
1 | 4° 41′ 2896″Gn | 53° 20′ 0232″G |
15 | 4° 44′ 8044″Gn | 53° 20′ 0232″G |
14 | 4° 45′ 8658″Gn | 53° 17′ 4900″G |
13 | 4° 45′ 8658″Gn | 53° 15′ 5400″G |
12 | 4° 41′ 4552″Gn | 53° 15′ 5400″G |
11 | 4° 41′ 0129″Gn | 53° 15′ 9503″G |
10 | 4° 41′ 1864″Gn | 53° 16′ 2282″G |
8 | 4° 44′ 0251″Gn | 53° 16′ 2282″G |
7 | 4° 44′ 9249″Gn | 53° 17′ 3082″G |
5 | 4° 44′ 9249″Gn | 53° 18′ 9282″G |
4 | 4° 44′ 0251″Gn | 53° 19′ 4682″G |
2 | 4° 41′ 7116″Gn | 53° 19′ 4682″G |
Ardal Gyfyngedig – UKC 8m (fel y’i dangosir ar blan yr ardal gyfyngedig) | ||
2 | 4° 41′ 7116″Gn | 53° 19′ 4682″G |
3 | 4° 42′ 1615″Gn | 53° 19′ 4682″G |
16 | 4° 42′ 9827″Gn | 53° 18′ 3882″G |
9 | 4° 41′ 6363″Gn | 53° 16′ 2282″G |
10 | 4° 41′ 1864″Gn | 53° 16′ 2282″G |
18 | 4° 42′ 5328″Gn | 53° 18′ 3882″G |
Erthygl 3
(1) | (2) |
---|---|
Dogfen | I’w chymeradwyo cyn y camau gweithredu hyn |
Cynllun Rheoli Ceblau | Cyn cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig |
Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu | Cyn cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig |
Rhaglen Ddatgomisiynu | Cyn datgomisiynu unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig |
Strategaeth gwella bioamrywiaeth forol fanwl | Cyn pob un o’r gweithgareddau a ganlyn:
|
Protocol ar Ddefnyddio Dyfeisiau | Cyn defnyddio unrhyw ddyfais lanwol neu hwb gweithredu a fydd—
|
Cynllun Lliniaru a Monitro Amgylcheddol | Cyn pob un o’r gweithgareddau a ganlyn—
|
Nodi Parthau Archaeolegol Neilltuedig | Cyn cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig |
Methodoleg Gosod | Cyn cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig pan fo angen torri ffosydd ar gyfer gosod ceblau |
Protocol Lliniaru Mamaliaid Morol | Cyn pob un o’r gweithgareddau a ganlyn—
|
Cynllun Llygredd Morol Wrth Gefn | Cyn cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig |
Asesiad Risg Mordwyol Wedi’i Ddiweddaru | Cyn pob un o’r gweithgareddau canlynol—
|
Cynllun Atal a Rheoli Llygredd | Cyn cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: