Search Legislation

Gorchymyn Parth Arddangos Morlais 2021

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 45

ATODLEN 11Darpariaethau Diogelu

RHAN 1Diogelu ymgymerwyr trydan, nwy, dŵr a charthffosiaeth

1.  Mae darpariaethau’r Rhan hon yn cael effaith oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng yr ymgymerwr a’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw.

2.  Yn y Rhan hon—

ystyr “cyfarpar amgen” yw cyfarpar amgen sy’n ddigonol i alluogi’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw i gyflawni ei swyddogaethau statudol mewn modd nad yw’n llai effeithlon na chynt;

ystyr “cyfarpar”—

(a)

yn achos ymgymerwr cyfleustod o fewn paragraff (a) o’r diffiniad o’r term hwnnw, yw llinellau trydan neu safle trydanol (fel y’u diffiniwyd yn Neddf Trydan 1989(1) sy’n eiddo i’r ymgymerwr cyfleustod neu sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan yr ymgymerwr cyfleustod;

(b)

yn achos ymgymerwr cyfleustod o fewn paragraff (b) o’r diffiniad o’r term hwnnw, yw unrhyw brif bibellau, pibellau neu gyfarpar arall sy’n eiddo i’r ymgymerwr cyfleustod neu sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan yr ymgymerwr cyfleustod at ddibenion cyflenwi nwy;

(c)

yn achos ymgymerwr cyfleustod o fewn paragraff (c) o’r diffiniad o’r term hwnnw, yw prif bibellau, pibellau neu gyfarpar arall sy’n eiddo i’r ymgymerwr cyfleustod neu sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan yr ymgymerwr cyfleustod at ddibenion cyflenwi dŵr; a

(d)

yn achos ymgymerwr cyfleustod o fewn paragraff (d) o’r diffiniad o’r term hwnnw—

(i)

yw—

(aa)

unrhyw ddraen neu weithfeydd a freiniwyd yn yr ymgymerwr cyfleustod o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991; a

(bb)

unrhyw garthffos y’i breiniwyd felly neu’n sy’n destun hysbysiad o fwriad i’w mabwysiadu a roddwyd o dan adran 102(4) o’r Ddeddf honno(2) neu gytundeb i fabwysiadu a wnaed o dan adran 104 o’r Ddeddf honno, a

(ii)

yn cynnwys prif bibell slwtsh, prif bibell waredu (o fewn ystyr adran 219 o’r Ddeddf honno) neu ollyngfa garthffosiaeth ac unrhyw dyllau archwilio, siafftiau awyru, pympiau neu ategolion eraill sy’n ffurfio rhan o unrhyw gyfryw garthffos, draen neu weithfeydd,

ac ym mhob achos yn cynnwys unrhyw strwythur y mae cyfarpar wedi’i osod neu i’w osod ynddo neu sy’n rhoi neu a fydd yn rhoi mynediad i gyfarpar;

mae “swyddogaethau” yn cynnwys pwerau a dyletswyddau;

mae “mewn”, yng nghyd-destun cyfeirio at gyfarpar neu gyfarpar amgen mewn tir, yn cynnwys cyfeiriad at gyfarpar neu gyfarpar amgen o dan, dros neu ar dir;

ystyr “ymgymerwr cyfleustod” yw—

(a)

unrhyw ddeiliad trwydded o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Trydan 1989;

(b)

cludwr nwy o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Nwy 1986(3);

(c)

ymgymerwr dŵr(4); a

(d)

ystyr ymgymerwr carthffosiaeth, ar gyfer ardal y gweithfeydd ar y tir, ac mewn perthynas ag unrhyw gyfarpar, yw’r ymgymerwr cyfleustod y mae’n eiddo iddo neu sy’n ei gynnal a’i gadw.

3.  Nid yw’r Rhan hon yn gymwys i—

(a)cyfarpar y mae cysylltiadau rhwng yr ymgymerwr a’r ymgymerwr cyfleustod mewn perthynas ag ef yn cael eu rheoleiddio gan Ran 3 o Ddeddf 1991; a

(b)y gweithfeydd llanwol.

4.  Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn neu unrhyw beth a ddangosir ar blan y tir, rhaid i’r ymgymerwr beidio â chaffael unrhyw gyfarpar ac eithrio drwy gytundeb.

5.—(1Os yw’r ymgymerwr, drwy arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn, yn caffael unrhyw fuddiant mewn unrhyw dir y mae unrhyw gyfarpar yn cael ei osod arno, ni chaniateir tynnu ymaith y cyfarpar hwnnw o dan y Rhan hon, ac ni chaniateir diddymu unrhyw hawl gan ymgymerwr cyfleustod i gynnal a chadw’r cyfarpar hwnnw yn y tir hwnnw, oni bai bod cyfarpar amgen wedi cael ei adeiladu a’i fod yn weithredol er boddhad rhesymol yr ymgymerwr cyfleustod dan sylw.

(2Os yw’r ymgymerwr, at ddiben gweithredu unrhyw weithfeydd mewn, ar neu o dan unrhyw dir sy’n caei brynu, ei ddal, ei feddiannu neu ei ddefnyddio o dan y Gorchymyn hwn, yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyfarpar a osodwyd yn y tir hwnnw gael ei dynnu ymaith, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o’r gofyniad hwnnw i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw, ynghyd â phlan a thrawslun o’r gwaith a gynigir a lleoliad arfaethedig y cyfarpar amgen sydd i’w ddarparu neu i’w adeiladu; ac yn yr achos hwnnw (neu os oes angen i ymgymerwr cyfleustod yn rhesymol dynnu ymaith unrhyw ran o’i gyfarpar o ganlyniad i arfer unrhyw un o’r pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn), rhaid i’r ymgymerwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) roi i’r ymgymerwr cyfleustod y cyfleusterau a’r hawliau angenrheidiol i adeiladu cyfarpar amgen mewn tir arall o eiddo’r ymgymerwr ac wedyn i gynnal a chadw’r cyfarpar hwnnw.

(3Os oes cyfarpar amgen neu unrhyw ran o’r cyfryw gyfarpar i’w adeiladu mewn man arall ac eithrio ar dir arall yr ymgymerwr, neu os na all yr ymgymerwr roi’r cyfryw gyfleusterau a’r hawliau ag a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn y tir y mae’r cyfarpar amgen neu ran o’r cyfryw gyfarpar i’w adeiladu ynddo, rhaid i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw, ar ôl cael hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw gan yr ymgymerwr, cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl, ddefnyddio ei ymdrechion gorau i gael y cyfleusterau a’r hawliau angenrheidiol yn y tir y mae’r cyfarpar i’w adeiladu ynddo.

(4Rhaid i unrhyw gyfarpar amgen sydd i’w adeiladu yn nhir yr ymgymerwr o dan y Rhan hon gael ei adeiladu yn y cyfryw fodd ac yn y cyfryw linell neu leoliad ag y cytunir arnynt rhwng yr ymgymerwr cyfleustod dan sylw a’r ymgymerwr neu, yn niffyg cytundeb, ag y’u setlir drwy gymrodeddu yn unol ag erthygl 49 (cymrodeddu).

(5Rhaid i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw, ar ôl cytuno ar y cyfarpar amgen sydd i’w ddarparu neu i’w adeiladu neu ei setlo drwy gymrodeddu yn unol ag erthygl 49 (cymrodeddu), ac ar ôl rhoi i’r ymgymerwr cyfleustod unrhyw gyfryw gyfleusterau a hawliau ag y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) neu (3), heb oedi diangen ddechrau adeiladu a gweithredu’r cyfarpar amgen ac wedyn dynnu ymaith unrhyw gyfarpar y mae’n ofynnol gan yr ymgymerwr ei dynnu ymaith o dan ddarpariaethau’r Rhan hon.

(6Er gwaethaf is-baragraff (5), os yw’r ymgymerwr yn rhoi hysbysiad yn ysgrifenedig i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw ei fod yn dymuno cwblhau ei hun unrhyw waith, neu ran o unrhyw waith mewn cysylltiad ag adeiladu neu dynnu ymaith gyfarpar mewn unrhyw dir sy’n eiddo i’r ymgymerwr, rhaid i’r gwaith hwnnw, yn lle cael ei gwblhau gan yr ymgymerwr cyfleustod, gael ei gwblhau gan yr ymgymerwr heb oedi diangen o dan oruchwyliaeth yr ymgymerwr cyfleustod, os y’i rhoddir, ac er boddhad rhesymol yr ymgymerwr cyfleustod.

(7Nid oes dim yn is-baragraff (6) yn awdurdodi’r ymgymerwr i gwblhau lleoli, gosod, sadio, gwasgu, tynnu, cysylltu neu ddatgysylltu unrhyw gyfarpar, neu gwblhau unrhyw lenwi o amgylch y cyfarpar (pan fo’r cyfarpar yn cael ei osod mewn ffos) o fewn 300 milimetr i’r cyfarpar.

6.—(1Pan fo’r ymgymerwr yn rhoi i ymgymerwr cyfleustod, yn unol â’r Rhan hon, gyfleusterau a hawliau i adeiladu a chynnal a chadw cyfarpar amgen yn nhir yr ymgymerwr yn lle’r cyfarpar sydd i’w dynnu ymaith, rhaid i’r cyfleusterau a’r hawliau hynny gael eu rhoi ar y cyfryw delerau ac amodau ag y cytunir arnynt rhwng yr ymgymerwr a’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw neu, yn niffyg cytundeb, ag y’u setlir drwy gymrodeddu yn unol ag erthygl 49 (cymrodeddu).

(2Wrth setlo’r telerau ac amodau hynny mewn cysylltiad â’r cyfarpar amgen sydd i’w adeiladu yn neu ar hyd y prosiect awdurdodedig, rhaid i’r cymrodeddwr—

(a)gweithredu pob un o ofynion rhesymol yr ymgymerwr o ran sicrhau diogelwch a gweithrediad effeithlon y prosiect awdurdodedig a sicrhau unrhyw newidiadau neu addasiadau canlyniadol i’r cyfarpar amgen ag sy’n ofynnol er mwyn atal ymyriadau â gweithfeydd awdurdodedig yr ymgymerwr; a

(b)i’r graddau y mae’n rhesymol ac yn ymarferol gwneud hynny o dan amgylchiadau’r achos penodol, weithredu telerau ac amodau, os o gwbl, sy’n gymwys i’r cyfarpar a adeiladwyd yn neu ar hyd y prosiect awdurdodedig y mae’r cyfarpar amgen i’w roi yn ei le.

(3Os yw’r cyfleusterau a’r hawliau sydd i’w rhoi gan yr ymgymerwr mewn cysylltiad ag unrhyw gyfarpar amgen, a’r telerau ac amodau y mae’r cyfleusterau a’r hawliau hynny i’w rhoi yn ddarostyngedig iddynt, ym marn y cymrodeddwr, yn llai ffafriol ar y cyfan i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw na’r cyfleusterau a’r hawliau y mae’n eu mwynhau mewn cysylltiad â’r cyfarpar sydd i’w dynnu ymaith a’r telerau ac amodau y mae’r cyfleusterau a’r hawliau hynny yn ddarostyngedig iddynt, rhaid i’r cymrodeddwr wneud y cyfryw ddarpariaeth i’r ymgymerwr ddigolledu’r ymgymerwr cyfleustod ag yr ymddengys yn rhesymol i’r cymrodeddwr wedi iddo roi sylw i holl amgylchiadau’r achos penodol.

7.—(1Heb fod yn llai na 28 diwrnod cyn dechrau ar unrhyw weithfeydd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 5(2) sydd wrth ymyl unrhyw gyfarpar nad yw’r ymgymerwr wedi’i gwneud yn ofynnol ei dynnu ymaith o dan yr is-baragraff hwnnw, neu a fydd yn effeithio neu a all effeithio ar y cyfryw gyfarpar, rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw blan, trawslun a disgrifiad o’r gweithfeydd i’w cwblhau.

(2Rhaid i’r gweithfeydd hynny gael eu cwblhau yn unol â’r cynllun, y trawslun a’r disgrifiad a gyflwynwyd o dan is-baragraff (1) yn unig ac yn unol â’r cyfryw ofynion rhesymol ag a wneir yn unol ag is-baragraff (3) gan yr ymgymerwr cyfleustod i newid neu fel arall ddiogelu’r cyfarpar, neu i sicrhau mynediad iddo; ac mae gan yr ymgymerwr cyfleustod yr hawl i wylio ac archwilio’r gweithfeydd sy’n cael eu cwblhau.

(3Rhaid i unrhyw ofynion a wneir gan ymgymerwr cyfleustod o dan is-baragraff (2) gael eu gwneud o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y cyflwynwyd plan, trawslun a disgrifiad o dan is-baragraff (1) iddo.

(4Os yw ymgymerwr cyfleustod, yn unol ag is-baragraff (3) ac o ganlyniad i’r gweithfeydd a gynigir gan yr ymgymerwr, yn ei gwneud yn ofynnol yn rhesymol dynnu ymaith unrhyw gyfarpar ac yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r ymgymerwr o’r gofyniad hwnnw, mae paragraffau 1 i 6 yn gymwys fel pe bai’r ymgymerwr wedi’i gwneud yn ofynnol tynnu ymaith y cyfarpar o dan baragraff 5(2).

(5Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal yr ymgymerwr rhag cyflwyno ar unrhyw adeg neu o bryd i’w gilydd, ond nid mewn unrhyw achos lai na 28 diwrnod cyn dechrau ar unrhyw weithfeydd, blan, trawslun a disgrifiad newydd yn lle’r plan, y trawslun a’r disgrifiad a gyflwynwyd yn flaenorol, ac wedi gwneud hynny mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys i’r plan, y trawslun a’r disgrifiad newydd ac mewn cysylltiad â hwy.

(6Nid yw’n ofynnol i’r ymgymerwr gydymffurfio ag is-baragraff (1) mewn achos brys, ond yn yr achos hwnnw, rhaid iddo hysbysu’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a rhoi plan, trawslun a disgrifiad o’r gweithfeydd hynny iddo cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a rhaid iddo gydymffurfio ag is-baragraff (2) i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

8.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r paragraff hwn, rhaid i’r ymgymerwr ad-dalu i ymgymerwr cyfleustod y treuliau rhesymol y mae’r ymgymerwr cyfleustod wedi mynd iddynt wrth neu mewn cysylltiad ag—

(a)archwilio, tynnu ymaith ac ailosod neu adnewyddu, newid neu ddiogelu unrhyw gyfarpar neu adeiladu unrhyw gyfarpar newydd o dan y Rhan hon (gan gynnwys unrhyw gostau yr eir iddynt yn rhesymol neu ddigollediad a delir yn briodol mewn cysylltiad â chaffael hawliau neu arfer pwerau statudol ar gyfer y cyfryw gyfarpar);

(b)torri unrhyw gyfarpar oddi wrth unrhyw gyfarpar arall, neu wneud unrhyw gyfarpar diangen yn ddiogel, o ganlyniad i arfer unrhyw bŵer gan yr ymgymerwr o dan y Gorchymyn hwn;

(c)arolygu unrhyw dir, cyfarpar neu weithfeydd, archwilio, goruchwylio a monitro gweithfeydd neu osod neu dynnu ymaith unrhyw weithfeydd dros dro sy’n rhesymol angenrheidiol o ganlyniad i arfer unrhyw bŵer gan yr ymgymerwr o dan y Gorchymyn hwn; a

(d)unrhyw waith neu beth arall sy’n rhesymol angenrheidiol o ganlyniad i arfer unrhyw gyfryw bŵer gan yr ymgymerwr,

o fewn cyfnod rhesymol i gael ei hysbysu gan yr ymgymerwr cyfleustod ei fod wedi mynd i’r cyfryw dreuliau.

(2Rhaid didynnu o unrhyw swm sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) werth unrhyw gyfarpar a dynnwyd ymaith o dan y Rhan hon, y cyfrifir y gwerth hwnnw ar ôl ei dynnu ymaith.

(3Os yn unol â’r Rhan hon—

(a)gosodir cyfarpar o fath gwell, o gapasiti ychwanegol neu o ddimensiynau mwy yn lle’r cyfarpar presennol o fath gwaeth, o gapasiti llai neu o ddimensiynau llai; neu

(b)gosodir cyfarpar (y cyfarpar presennol neu gyfarpar a roddwyd yn lle’r cyfarpar presennol) ar ddyfnder sy’n ddyfnach na’r dyfnder y bu’r cyfarpar presennol, ac na chytunwyd i osod cyfarpar o’r math hwnnw neu’r capasiti hwnnw neu o’r dimensiynau hynny nac i osod cyfarpar ar y dyfnder hwnnw, yn ôl y digwydd, gan yr ymgymerwr neu, yn niffyg cytundeb, na phenderfynir drwy gymrodeddu yn unol ag erthygl 49 (cymrodeddu) ei bod yn angenrheidiol, yna os oes cost ynghlwm wrth y cyfryw osod wrth adeiladu gweithfeydd o dan y Rhan hon sy’n fwy na’r hyn a fyddai wedi bod ynghlwm pe bai’r cyfarpar a osodwyd wedi bod yn gyfarpar o’r math, y capasiti neu’r dimensiynau presennol, neu ar y dyfnder presennol, yn ôl y digwydd, rhaid i’r swm a fyddai ar wahân i’r is-baragraff hwn yn daladwy i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw yn rhinwedd is-baragraff (1) gael ei leihau o’r gorswm hwnnw.

(4At ddibenion is-baragraff (3)—

(a)nid yw estyn cyfarpar i hyd sy’n fwy na hyd y cyfarpar presennol i’w drin fel pe bai’n gosod cyfarpar o ddimensiynau mwy na rhai’r cyfarpar presennol; a

(b)phan gytunir ar ddarparu uniad mewn cebl, neu pan benderfynir bod darparu uniad mewn cebl yn angenrheidiol, mae darpariaeth gysylltiedig siambr uno neu dwll archwilio i’w thrin fel pe cytunid arni hefyd neu fel pe penderfynid arni felly.

(5Rhaid i swm a fyddai ar wahân i’r is-baragraff hwn yn daladwy i ymgymerwr cyfleustod mewn cysylltiad â gweithfeydd yn rhinwedd is-baragraff (1), os yw’r gweithfeydd yn cynnwys gosod cyfarpar a ddarparwyd yn lle’r cyfarpar a osodwyd fwy na 7 mlynedd a 6 mis yn gynharach roi unrhyw fuddiant ariannol i’r ymgymerwr cyfleustod sy’n codi drwy ohirio amser adnewyddu’r cyfarpar fel arfer gael ei leihau o swm y buddiant hwnnw.

9.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), os achosir unrhyw ddifrod i unrhyw gyfarpar oherwydd neu o ganlyniad i adeiladu unrhyw weithfeydd y cyfeirir atynt ym mharagraff 5(2) (heblaw cyfarpar nad yw’n rhesymol angenrheidiol ei atgyweirio o ystyried y bwriad i’w waredu at ddibenion y gweithfeydd hynny) neu eiddo ymgymerwr cyfleustod, neu oes unrhyw darfu ar unrhyw wasanaeth a ddarperir gan yr ymgymerwr cyfleustod, rhaid i’r ymgymerwr—

(a)dwyn a thalu’r gost y mae’r ymgymerwr cyfleustod yn rhesymol yn mynd iddi wrth unioni’r cyfryw ddifrod neu wrth adfer y cyflenwad; a

(b)rhoi digollediad rhesymol i’r ymgymerwr cyfleustod am unrhyw dreuliau, colled, iawndal, cosb neu gostau eraill y mae’r ymgymerwr cyfleustod yn mynd iddynt, oherwydd neu o ganlyniad i unrhyw gyfryw ddifrod neu darfu.

(2Nid oes dim yn is-baragraff (1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar yr ymgymerwr mewn cysylltiad ag unrhyw ddifrod neu darfu i’r graddau y gellir ei briodoli i weithred, esgeulustod neu ddiffyg ymgymerwr cyfleustod, ei swyddogion, ei weision, ei gontractwyr neu ei asiantau.

(3Rhaid i ymgymerwr cyfleustod roi rhybudd rhesymol i’r ymgymerwr am unrhyw hawliad neu archeb am dâl ac ni chaniateir gwneud unrhyw setliad na chyfaddawd heb gydsyniad yr ymgymerwr y mae’n rhaid iddo, os yw’n atal y cyfryw gydsyniad, gynnal ar ei ben ei hun unrhyw setliad neu gyfaddawd neu unrhyw achos llys sy’n angenrheidiol i wrthsefyll yr hawliad neu’r archeb am dâl.

10.  Nid oes dim yn y Rhan hon yn effeithio ar ddarpariaethau unrhyw ddeddfiad neu gytundeb sy’n rheoleiddio’r cydberthnasau rhwng yr ymgymerwr a’r ymgymerwr cyfleustod mewn cysylltiad ag unrhyw gyfarpar sydd wedi ei osod neu wedi ei godi mewn tir sy’n eiddo i’r ymgymerwr ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

RHAN 2Diogelu Network Rail Infrastructure Limited

11.  Mae darpariaethau’r Rhan hon yn cael effaith oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng yr ymgymerwr a Network Rail a, phan fo paragraff 15 yn gymwys, unrhyw berson arall y rhoddir hawliau neu rwymedigaethau iddo gan y paragraff hwnnw.

12.  Yn y Rhan hon—

mae “adeiladu” yn cynnwys cwblhau, gosod, newid ac ailadeiladu ac mae i “adeiladu” ac “wedi ei adeiladu” ystyron cyfatebol;

ystyr “peiriannydd” yw peiriannydd a benodir gan Network Rail at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “trwydded rhwydwaith” yw’r drwydded rhwydwaith, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, a roddwyd i Network Rail gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer pwerau o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(5);

ystyr “Network Rail” yw Network Rail Infrastructure Limited ac unrhyw gwmni cysylltiedig i Network Rail Infrastructure Limited sy’n dal eiddo at ddibenion rheilffordd, ac at ddiben y diffiniad hwn ystyr “cwmni cysylltiedig” yw unrhyw gwmni sydd (o fewn ystyr adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006(6)) sy’n gwmni daliannol Network Rail Infrastructure Limited, sy’n is-gwmni i Network Rail Infrastructure Limited neu sy’n is-gwmni arall i gwmni daliannol Network Rail Infrastructure Limited;

mae “planiau” yn cynnwys trawsluniau, dyluniadau, data dylunio, meddalwedd, lluniadau, rhagofynion, adroddiadau ar bridd, cyfrifiadau, disgrifiadau (gan gynnwys disgrifiadau o ddulliau adeiladu), cynigion fesul cam, rhaglenni a manylion y graddau y bwriedir meddiannu eiddo rheilffordd ac amseriad a hyd hynny;

ystyr “gweithdrefnau gweithredol rheilffyrdd” yw gweithdrefnau a bennir o dan unrhyw gytundeb ynglŷn â mynediad (fel y’i diffiniwyd yn Neddf Rheilffyrdd 1993(7)) neu brydles gorsaf;

ystyr “eiddo rheilffordd” yw unrhyw reilffordd sy’n eiddo i Network Rail ac—

(a)

unrhyw orsaf, tir, gweithfeydd, cyfarpar ac offer sy’n eiddo i Network Rail neu sy’n gysylltiedig ag unrhyw gyfryw reilffordd; a

(b)

unrhyw hawddfraint neu fuddiant arall mewn eiddo a ddelir neu a ddefnyddir gan Network Rail at ddibenion y cyfryw reilffordd neu weithfeydd, cyfarpar neu offer;

ystyr “gwaith penodedig” yw cymaint o unrhyw un o’r gweithfeydd ar y tir ag sydd wedi’i leoli ar, ar draws, o dan, dros neu o fewn 15 metr i eiddo rheilffordd, neu a all effeithio ar eiddo rheilffordd mewn unrhyw ffordd.

13.—(1Pan fo’n ofynnol o dan y Rhan hon i Network Rail roi ei gydsyniad neu ei gymeradwyaeth mewn cysylltiad ag unrhyw fater, mae’r cydsyniad hwnnw neu’r gymeradwyaeth honno yn ddarostyngedig i’r amod bod Network Rail yn cydymffurfio ag unrhyw weithdrefnau gweithredol perthnasol rheilffordd, ac unrhyw rwymedigaethau o dan ei drwydded rhwydwaith neu o dan statud.

(2I’r graddau y mae unrhyw waith penodedig neu gaffael neu ddefnyddio eiddo rheilffordd yn ddarostyngedig neu y gall fod yn ddarostyngedig i weithdrefnau gweithredol rheilffordd, rhaid i Network Rail—

(a)cydweithredu â’r ymgymerwr gyda’r nod o osgoi oedi amhriodol a sicrhau cydymffurfiaeth rhwng unrhyw blaniau a gymeradwyir gan y peiriannydd a gofynion sy’n deillio o’r gweithdrefnau hynny; a

(b)defnyddio ei ymdrechion rhesymol i osgoi unrhyw wrthdaro sy’n codi rhwng cymhwyso’r gweithdrefnau hynny a gweithredu’r prosiect awdurdodedig yn briodol yn unol â’r Gorchymyn hwn.

14.—(1Ni chaniateir i’r ymgymerwr arfer y pwerau a roddir gan

(a)erthygl 12 (gollwng dŵr );

(b)erthygl 14 (pŵer i arolygu ac ymchwilio i dir);

(c)erthygl 22 (pŵer i gaffael tir);

(d)erthygl 23 (pŵer i gaffael hawliau a gosod cyfamodau cyfyngol);

(e)erthygl 26 (pŵer i gaffael is-bridd yn unig);

(f)erthygl 28 (defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd);

(g)erthygl 29 (defnyddio tir dros dro ar gyfer cynnal a chadw gweithfeydd);

(h)erthygl 34 (pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill );

(i)erthygl 35 (hawliau preifat dros dir);

(j)erthygl 40 (pŵer i docio coed sy’n gorhongian dros y gweithfeydd awdurdodedig a gwaredu gwrychoedd );

(k)erthygl 44 ac Atodlen 10 i’r Gorchymyn (ymgymerwyr statudol); neu

(l)y pwerau a roddwyd gan adran 11(3) o Ddeddf 1965,

mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo rheilffordd oni bai bod y cyfryw bwerau yn cael eu harfer gyda chydsyniad Network Rail.

(2Ni chaniateir i’r ymgymerwr drwy arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn atal mynediad i unrhyw eiddo rheilffordd i gerddwyr na cherbydau, onid atelir y cyfryw fynediad gyda chydsyniad Network Rail.

(3Ni chaniateir i’r ymgymerwr arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 271 neu 272 o Ddeddf 1990, nac Atodlen 10 i’r Gorchymyn hwn, mewn perthynas ag unrhyw hawl mynediad sydd gan Network Rail i eiddo rheilffordd ond caniateir dargyfeirio’r cyfryw hawliau mynediad gyda chydsyniad Network Rail.

(4Ni chaniateir i’r ymgymerwr o dan bwerau’r Gorchymyn hwn gaffael neu ddefnyddio neu gaffael hawliau newydd, na cheisio gosod unrhyw gyfamodau cyfyngol, dros unrhyw eiddo rheilffordd, na diddymu unrhyw hawliau presennol sydd gan Network Rail mewn cysylltiad ag eiddo unrhyw drydydd parti, ac eithrio gyda chydsyniad Network Rail.

(5Pan ofynnir i Network Rail roi ei gydsyniad yn unol â’r paragraff hwn, ni chaniateir iddo atal y cyfryw ganiatâd yn afresymol ond caiff ei roi yn ddarostyngedig i amodau rhesymol.

15.—(1Rhaid i’r ymgymerwr cyn cychwyn ar adeiladu unrhyw waith penodedig ddarparu planiau priodol a digonol o’r gwaith hwnnw i Network Rail ar gyfer cymeradwyaeth resymol y peiriannydd ac ni chaniateir cychwyn ar y gwaith penodedig ac eithrio yn unol â’r cyfryw blaniau ag a gymeradwywyd yn ysgrifenedig gan y peiriannydd neu ag a setlwyd drwy gymrodeddu.

(2Ni chaniateir i’r peiriannydd o dan is-baragraff (1) atal cymeradwyaeth nac oedi cyn rhoi cymeradwyaeth yn afresymol, ac os nad yw’r peiriannydd, erbyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y darparwyd y cyfryw blaniau i Network Rail, wedi mynegi ei fod yn anghymeradwyo’r planiau hynny nac wedi nodi’r seiliau dros eu hanghymeradwyo, caiff yr ymgymerwr gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r peiriannydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo fynegi cymeradwyaeth neu anghymeradwyaeth o fewn cyfnod pellach o 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r peiriannydd yn cael hysbysiad ysgrifenedig gan yr ymgymerwr. Os nad yw’r peiriannydd wedi mynegi cymeradwyaeth nac anghymeradwyaeth erbyn diwedd y cyfnod pellach o 28 diwrnod, bernir bod y peiriannydd wedi cymeradwyo’r planiau fel y’u cyflwynwyd.

(3Os yw Network Rail, erbyn diwedd 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd hysbysiad ysgrifenedig i’r peiriannydd o dan is-baragraff (2), yn hysbysu’r ymgymerwr bod Network Rail ei hun yn dymuno adeiladu unrhyw ran o waith penodedig a fydd neu a all, ym marn y peiriannydd, effeithio ar sefydlogrwydd eiddo rheilffordd neu weithrediad diogel traffig ar reilffyrdd Network Rail yna, os yw’r ymgymerwr yn dymuno bod y cyfryw ran o’r gwaith penododig yn cael ei hadeiladu, rhaid i Network Rail ei hadeiladu mor gyflym ag y bo’n rhesymol bosibl ar ran yr ymgymerwr ac er boddhad rhesymol yr ymgymerwr yn unol â’r planiau a gymeradwywyd neu y bernir eu bod wedi cael eu cymeradwyo neu eu setlo o dan y paragraff hwn ac o dan oruchwyliaeth (pan fo’n briodol ac os y’i rhoddir) yr ymgymerwr.

(4Wrth fynegi ei gymeradwyaeth o’r planiau, caiff y peiriannydd bennu unrhyw weithfeydd diogelu (boed yn rhai dros dro neu barhaol) a ddylai, ym marn y peiriannydd, gael eu cyflawni cyn cychwyn ar adeiladu gwaith penodedig er mwyn sicrhau diogelwch neu sefydlogrwydd eiddo rheilffordd neu barhad gweithrediad diogel ac effeithlon rheilffyrdd Network Rail neu wasanaethau gweithredwyr sy’n eu defnyddio (gan gynnwys adleoli, datgomisiynu a gwaredu unrhyw weithfeydd, cyfarpar ac offer sy’n angenrheidiol oherwydd gwaith penodedig ac er cysur a diogelwch teithwyr y gall y gweithfeydd penodedig effeithio arnynt), a rhaid i’r cyfryw weithfeydd diogelu ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion hynny gael eu hadeiladu gan Network Rail neu gan yr ymgymerwr, os dymuna Network Rail felly, a rhaid i’r cyfryw weithfeydd diogelu gael eu cyflawni ar draul yr ymgymerwr, yn y naill achos neu’r llall mor gyflym ag y bo’n rhesymol bosibl, a rhaid i’r ymgymerwr beidio â chychwyn ar adeiladu’r gweithfeydd penodedig nes bod y peiriannydd wedi hysbysu’r ymgymerwr bod y gweithfeydd diogelu wedi cael eu cwblhau er boddhad rhesymol y peiriannydd.

16.—(1Rhaid i unrhyw weithfeydd penodedig ac unrhyw weithfeydd diogelu sydd i’w hadeiladu yn rhinwedd paragraff 15(4), pan gychwynnir arnynt, gael eu hadeiladu—

(a)mor gyflym ag y bo’n rhesymol bosibl yn unol â’r planiau a gymeradwywyd neu y barnwyd eu bod wedi cael eu cymeradwyo neu eu setlo o dan baragraff 5;

(b)o dan oruchwyliaeth (pan fo’n briodol ac os y’i rhoddir) y peiriannydd ac er boddhad rhesymol y peiriannydd;

(c)yn y cyfryw fodd ag sy’n achosi cyn lleied o ddifrod ag y bo’n bosibl i eiddo rheilffordd;

(d)i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fel nad ydynt yn ymyrryd â defnydd rhydd, di-dor a diogel o unrhyw un o reilffyrdd Network Rail na’r traffig arnynt a’r defnydd o eiddo rheilffordd gan deithwyr nac yn eu rhwystro.

(2Os achosir unrhyw ddifrod i eiddo rheilffordd neu os achosir unrhyw ymyriad neu rwystr oherwydd adeiladu gwaith penodedig neu o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig, rhaid i’r ymgymerwr, er gwaethaf unrhyw gyfryw gymeradwyaeth, unioni’r cyfryw ddifrod a rhaid iddo dalu pob traul resymol i Network Rail y gall Network Rail fynd iddi a digollediad am unrhyw golled a achosir i Network Rail drwy unrhyw gyfryw ddifrod, ymyriad neu rwystr

(3Nid oes dim yn y Rhan hon yn gosod unrhyw atebolrwydd ar yr ymgymerwr o ran—

(a)unrhyw ddifrod, costau, treuliau neu golled y gellir ei briodoli neu ei phriodoli i esgeuluster Network Rail neu ei weision, ei gontractwyr neu ei asiantau; neu

(b)unrhyw atebolrwydd ar Network Rail o ran unrhyw ddifrod, costau, treuliau neu golled y gellir ei briodoli neu ei phriodoli i esgeuluster yr ymgymerwr neu ei weision, ei gontractwr neu ei asiantau.

17.  Rhaid i’r ymgymerwr—

(a)ar bob adeg ddarparu cyfleusterau rhesymol i’r peiriannydd gael mynediad i waith penodedig wrth iddo gael ei adeiladu; a

(b)darparu’r holl gyfryw wybodaeth i’r peiriannydd ag y caiff y peiriannydd yn rhesymol ofyn amdani o ran gwaith penodedig neu’r dull o’i adeiladu.

18.  Rhaid i Network Rail ar bob adeg ddarparu cyfleusterau rhesymol i’r ymgymerwr a’i asiantau gael mynediad i unrhyw weithfeydd a gyflawnir gan Network Rail o dan y Rhan hon wrth iddynt gael eu hadeiladu a rhaid iddo roi’r cyfryw wybodaeth i’r ymgymerwr ag y caiff yn rhesymol ofyn amdani o ran y cyfryw weithfeydd neu’r dull o’u hadeiladu.

19.—(1Os oes unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau parhaol neu dros dro i eiddo rheilffordd yn rhesymol angenrheidiol o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu yn ystod y cyfnod o 24 mis ar ôl cwblhau’r gwaith hwnnw er mwyn sicrhau diogelwch eiddo rheilffordd neu barhad gweithrediad diogel ac effeithlon rheilffordd Network Rail, caiff y cyfryw newidiadau ac ychwanegiadau gael eu cyflawni gan Network Rail, ac os yw Network Rail yn rhoi hysbysiad rhesymol i’r ymgymerwr o’i fwriad i gyflawni’r cyfryw newidiadau neu ychwanegiadau (y mae’n rhaid iddynt gael eu pennu yn yr hysbysiad), rhaid i’r ymgymerwr dalu cost resymol y newidiadau a’r ychwanegiadau hynny i Network Rail gan gynnwys, mewn perthynas ag unrhyw gyfryw newidiadau ac ychwanegiadau ag y bo’n barhaol, swm wedi ei gyfalafu sy’n cynrychioli’r cynnydd mewn costau y gellir disgwyl y bydd Network Rail yn mynd iddynt yn rhesymol wrth gynnal a chadw, gweithio a, phan fo’n angenrheidiol, adnewyddu unrhyw gyfryw newidiadau neu ychwanegiadau.

(2Os yw Network Rail, pan fo’r ymgymerwr yn adeiladu gwaith penodedig, yn hysbysu’r ymgymerwr bod Network Rail ei hun yn dymuno adeiladu’r rhan honno o’r gwaith penodedig sydd, ym marn y peiriannydd, yn peryglu sefydlogrwydd eiddo rheilffordd neu weithrediad diogel traffig ar reilffyrdd Network Rail yna, os yw’r ymgymerwr yn penderfynu bod y rhan honno o’r gwaith penodedig i’w hadeiladu, rhaid i Network Rail ymgymryd ag adeiladu’r rhan honno o’r gwaith penodedig a rhaid i’r ymgymerwr, er gwaethaf unrhyw gymeradwyaeth o’r gwaith penodedig o dan baragraff 15(1), dalu pob traul resymol i Network Rail y gall Network Rail fynd iddi a digollediad am unrhyw golled a achosir i Network Rail drwy gwblhau’r gwaith penodedig gan Network Rail.

(3Rhaid i’r peiriannydd, mewn cysylltiad â’r symiau wedi eu cyfalafu y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn a pharagraff 20(a) ddarparu’r cyfryw fanylion am y fformiwla a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r symiau hynny ag y caiff yr ymgymerwr yn rhesymol ofyn amdanynt.

(4Os bydd cost cynnal a chadw, gweithio neu adnewyddu eiddo rheilffordd yn lleihau o ganlyniad i unrhyw gyfryw newidiadau neu ychwanegiadau, rhaid i swm wedi ei gyfalafu sy’n cynrychioli’r cyfryw arbedion gael ei wrthgyfrif yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy gan yr ymgymerwr i Network Rail o dan y paragraff hwn.

20.  Rhaid i’r ymgymerwr ad-dalu’r holl ffioedd, costau, taliadau a threuliau yr eir iddynt gan Network Rail i Network Rail—

(a)wrth adeiladu unrhyw ran o waith penodedig ar ran yr ymgymerwr fel y’i darperir gan baragraff 15(3) neu wrth adeiladu unrhyw weithfeydd diogelu o dan baragraff 15(4) gan gynnwys, mewn cysylltiad ag unrhyw weithfeydd diogelu parhaol, swm wedi ei gyfalafu sy’n cynrychioli cost cynnal a chadw ac adnewyddu’r gweithfeydd hynny;

(b)mewn cysylltiad â chymeradwyaeth y peiriannydd o blaniau a gyflwynir gan yr ymgymerwr a goruchwyliaeth y peiriannydd dros adeiladu gwaith penodedig;

(c)mewn cysylltiad â defnyddio neu gaffael gwasanaethau unrhyw arolygwyr, signalwyr, gwylwyr a phersonau eraill y mae’n rhesymol angenrheidiol eu penodi i archwilio, signalu, gwylio a goleuo eiddo rheilffordd ac i atal, i’r graddau y bo’n rhesymol angenrheidiol, ymyriad, rhwystr, perygl neu ddamwain sy’n codi o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig;

(d)mewn cysylltiad ag unrhyw waith traffig arbennig o ganlyniad i unrhyw gyfyngiadau cyflymder y gall, ym marn y peiriannydd, fod yn ofynnol eu gosod oherwydd neu o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig neu drwy amnewid neu ddargyfeirio gwasanaethau a all fod yn rhesymol angenrheidiol am yr un rheswm; ac

(e)mewn cysylltiad ag unrhyw oleuadau dros dro ychwanegol ar eiddo rheilffordd yng nghyffiniau’r gweithfeydd penodedig, sef goleuadau sy’n rhesymol angenrheidiol oherwydd neu o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig.

21.—(1Yn y paragraff hwn—

ystyr “EMI”, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yw ymyrraeth electromagnetig â chyfarpar Network Rail a achosir gan weithredu’r gweithfeydd alltraeth pan fo’r cyfryw ymyrraeth ar lefel sy’n cael effaith andwyol ar weithrediad diogel cyfarpar Network Rail;

ystyr “cyfarpar Network Rail” yw unrhyw linellau, cylchedau, gwifrau, cyfarpar neu offer (pa un a ydynt wedi eu haddasu neu wedi eu gosod fel rhan o’r gweithfeydd ar y tir ai peidio) sy’n eiddo i Network Rail neu a ddefnyddir gan Network Rail at ddiben darlledu neu dderbyn ynni trydanol signalu radio, telegraffig, teleffonig, trydanol, electronig neu ddull cyffelyb arall o signalu neu ddulliau cyfathrebu eraill.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i EMI dim ond i’r graddau na ellir priodoli’r cyfryw EMI i unrhyw newid yng nghyfarpar Network Rail a wneir ar ôl cymeradwyo’r planiau o dan baragraff 15(1) ar gyfer y rhan berthnasol o’r gweithfeydd ar y tir sy’n achosi EMI (oni bai bod yr ymgymerwr wedi cael ei hysbysu’n ysgrifenedig cyn i’r cynlluniau hynny gael eu cymeradwyo am y bwriad i wneud y cyfryw newid).

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i’r ymgymerwr, wrth ddylunio ac adeiladu’r prosiect awdurdodedig, weithredu pob mesur angenrheidiol i atal EMI a rhaid iddo gadarnhau ar y cyd â Network Rail (y mae’r ddau barti yn gweithredu’n rhesymol) drefniadau priodol i ddilysu eu heffeithiolrwydd.

(4Er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth yr ymgymerwr ag is-baragraff (3)—

(a)rhaid i’r ymgymerwr ymgynghori â Network Rail mor gynnar ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn nodi holl gyfarpar Network Rail a all fod mewn perygl o EMI, ac wedi hynny rhaid iddo barhau i ymgynghori â Network Rail (cyn ac ar ôl i blaniau o dan 15(1) gael eu cyflwyno’n ffurfiol) er mwyn nodi holl achosion posibl EMI a’r mesurau sy’n ofynnol i gael gwared arnynt;

(b)rhaid i Network Rail ddarparu’r holl wybodaeth sydd ym meddiant Network Rail i’r ymgymerwr y mae’r ymgymerwr wedi gofyn yn rhesymol amdani mewn cysylltiad â chyfarpar Network Rail a nodir yn unol â pharagraff (a); ac

(c)rhaid i Network Rail ganiatáu cyfleusterau rhesymol i’r ymgymerwr archwilio cyfarpar Network Rail a nodir yn unol â pharagraff (a).

(5Mewn unrhyw achos pan gadarnheir na ellir yn rhesymol atal EMI ond drwy addasiadau i gyfarpar Network Rail, rhaid i Network Rail beidio ag atal yn afresymol ei gydsyniad i addasiadau i gyfarpar Network Rail, ond rhaid i’r modd atal a’r dull o’u cwblhau gael eu dewis yn ôl disgresiwn rhesymol Network Rail, ac mewn perthynas â’r cyfryw addasiadau mae paragraff 15(1) yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r is-baragraff hwn.

(6Os, ar unrhyw adeg cyn cychwyn gweithrediad rheolaidd y gweithfeydd ar y tir ac er gwaethaf unrhyw fesurau a fabwysiadwyd yn unol ag is-baragraff (3), bydd profi neu gomisiynu’r prosiect awdurdodedig yn achosi EMI, rhaid i’r ymgymerwr ar unwaith ar ôl cael ei hysbysu gan Network Rail am y cyfryw EMI naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar (y cyfryw hysbysiad ar lafar i’w gadarnhau’n ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei roi) beidio â defnyddio (neu beri peidio â defnyddio) cyfarpar yr ymgymerwr sy’n achosi’r cyfryw EMI ar unwaith nes bod pob mesur angenrheidiol wedi cael ei weithredu i unioni’r cyfryw EMI drwy addasu ffynhonnell y cyfryw EMI neu (o dan yr amgylchiadau, ac yn ddarostyngedig i’r cydsyniad a bennir yn is-baragraff (5) i gyfarpar Network Rail).

(7Os bydd EMI wedi digwydd—

(a)rhaid i’r ymgymerwr ddarparu cyfleusterau rhesymol i Network Rail gael mynediad at gyfarpar yr ymgymerwr wrth ymchwilio i’r cyfryw EMI;

(b)rhaid i Network Rail ddarparu cyfleusterau rhesymol i’r ymgymerwr gael mynediad at gyfarpar Network Rail wrth ymchwilio i’r cyfryw EMI; a

(c)rhaid i Network Rail ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol ychwanegol sydd yn ei feddiant y mae’r ymgymerwr wedi gofyn yn rhesymol amdani mewn cysylltiad â chyfapar Network Rail neu’r cyfryw EMI.

(8Pan fo Network Rail yn cymeradwyo addasiadau i gyfarpar Network Rail yn unol ag is-baragraffau (5) neu (6)—

(a)rhaid i Network Rail ganiatáu cyfleusterau rhesymol i’r ymgymerwr archwilio’r rhan berthnasol o gyfarpar Network Rail; a

(b)rhaid i unrhyw addasiadau i gyfarpar Network Rail a gymeradwyir yn unol â’r is-baragraffau hynny gael eu cyflawni a’u cwblhau gan yr ymgymerwr yn unol â pharagraff 16.

(9I’r graddau na fyddai’n ei wneud fel arall, mae’r indemniad ym mharagraff 25(1) yn gymwys i gostau a threuliau yr aethpwyd iddynt yn rhesymol neu golledion a achoswyd i Network Rail drwy weithredu darpariaethau’r paragraff hwn (gan gynnwys costau yr aethpwyd iddynt mewn cysylltiad ag ystyried cynigion, cymeradwyo planiau, goruchwylio ac archwilio gweithfeydd a hwyluso mynediad at gyfarpar Network Rail) neu o ganlyniad i unrhyw EMI y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddi.

(10At ddiben paragraff 20(a), bernir bod unrhyw addasiadau i gyfarpar Network Rail o dan y paragraff hwn yn weithfeydd diogelu y cyfeirir atynt yn yr is-baragraff hwnnw.

(11Mewn perthynas ag unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y paragraff hwn, bydd y cyfeiriad yn erthygl 49 (cymrodeddu) at Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn cael ei ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.

22.  Os ar unrhyw adeg ar ôl i waith penodedig gael ei gwblhau, nad yw’n waith sydd wedi ei freinio yn Network Rail, bydd Network Rail yn hysbysu’r ymgymerwr bod cyflwr cynnal a chadw unrhyw ran o’r gwaith penodedig yn ymddangos fel pe bai’n cael effaith andwyol ar weithrediad eiddo rheilffordd, rhaid i’r ymgymerwr, ar ôl cael y cyfryw hysbysiad, gymryd y cyfryw gamau ag y bo’n rhesymol angenrheidiol i roi’r gwaith penodedig hwnnw yn y cyfryw gyflwr cynnal a chadw fel nad yw’n effeithio’n andwyol ar eiddo rheilffordd

23.  Ni chaniateir i’r ymgymerwr ddarparu unrhyw olau nac arwydd na signal goleuedig ar waith penodedig neu mewn cysylltiad â gwaith penodedig yng nghyffiniau unrhyw reilffordd sy’n eiddo i Network Rail oni bai ei fod wedi ymgynghori â Network Rail yn gyntaf a rhaid iddo gydymffurfio â gofynion rhesymol Network Rail o ran atal amryfusedd rhwng y cyfryw olau neu arwydd neu signal goleuedig neu olau arall a ddefnyddir i reoli, cyfarwyddo neu sicrhau diogelwch traffig ar y rheilffordd.

24.  Rhaid i unrhyw dreuliau ychwanegol y gall Network Rail fynd iddynt yn rhesymol wrth newid, ailadeiladu neu gynnal a chadw eiddo rheilffordd o dan unrhyw bwerau sy’n bodoli ar adeg gwneud y Gorchymyn hwn oherwydd bodolaeth gwaith penodedig, cyhyd â bod rhybudd blaenorol o 56 diwrnod am gychwyn y cyfryw newid, ailadeiladu neu gynnal a chadw wedi cael ei roi i’r ymgymerwr, gael eu had-dalu gan yr ymgymerwr i Network Rail.

25.—(1Rhaid i’r ymgymerwr dalu pob cost, tâl, iawndal a thraul resymol i Network Rail na ddarperir ar ei gyfer neu ar ei chyfer yn y Rhan hon y gellir ei (h)achosi i Network Rail neu y gall Network Rail yn rhesymol fynd iddo neu iddi—

(a)oherwydd adeiladu neu gynnal a chadw gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig; neu

(b)oherwydd unrhyw weithred neu anwaith gan yr ymgymerwr neu gan unrhyw berson a gyflogir ganddo neu gan ei gontractwr neu eraill tra byddant wedi eu penodi i ymgymryd â gwaith penodedig; a rhaid i’r ymgymerwr indemnio Network Rail a pharhau i indemnio Network Rail rhag ac yn erbyn pob hawliad ac archeb am dâl sy’n codi o ganlyniad i waith penodedig neu mewn cysylltiad â gwaith penodedig neu unrhyw gyfryw fethiant, weithred neu anwaith; ac nid yw’r ffaith y gall unrhyw weithred fod wedi ei chyflawni gan Network Rail ar ran yr ymgymerwr neu yn unol â phlaniau a gymeradwywyd gan y peiriannydd neu yn unol ag unrhyw ofyniad gan y peiriannydd neu o dan oruchwyliaeth y peiriannydd (os y’i cyflawnwyd heb esgeuluster ar ran Network Rail neu unrhyw berson a gyflogir ganddo neu gan ei gontractwyr neu ei asiantau) yn esgusodi’r ymgymerwr rhag unrhyw atebolrwydd o dan y Rhan hon.

(2Rhaid i Network Rail roi rhybudd rhesymol i’r ymgymerwr am unrhyw gyfryw hawliad neu archeb am dâl, ac ni chaniateir setlo’r cyfryw hawliad neu archeb am dâl na chyfaddawdu yn ei gylch neu yn ei chylch heb gydsyniad yr ymgymerwr ymlaen llaw.

(3Rhaid i’r symiau sy’n daladwy gan yr ymgymerwr o dan is-baragraff (1) gynnwys swm sy’n hafal i’r costau perthnasol.

(4Yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gytundeb rhwng Network Rail a gweithredwr trenau o ran amseriad neu ddull talu’r costau perthnasol mewn cysylltiad â’r gweithredwr trenau hwnnw, rhaid i Network Rail dalu’n brydlon swm unrhyw symiau y mae Network Rail yn eu derbyn o dan is-baragraff (1) sy’n ymwneud â chostau perthnasol y gweithredwr trenau hwnnw i bob gweithredwr trenau.

(5Mae’r rhwymedigaeth o dan is-baragraff (3) i dalu’r costau perthnasol i Network Rail, os bydd diffyg, yn uniongyrchol orfodadwy gan unrhyw weithredwr trenau dan sylw i’r graddau y byddai’r cyfryw symiau yn daladwy i’r gweithredwr hwnnw yn unol ag is-baragraff (4).

(6Yn y paragraff hwn—

ystyr “costau perthnasol” yw’r costau, y colledion uniongyrchol a’r treuliau (gan gynnwys colli refeniw) y mae pob gweithredwr trenau yn mynd iddynt o ganlyniad i unrhyw gyfyngiad ar y defnydd o rwydwaith rheilffyrdd Network Rail o ganlyniad i adeiladu, cynnal a chadw neu fethiant gwaith penodedig, neu unrhyw gyfryw weithred neu anwaith ag a grybwyllir yn is-baragraff (1);

ystyr “gweithredwr trenau” yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu fel gweithredwr trên drwy drwydded o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993.

26.  Rhaid i Network Rail, ar ôl cael cais gan yr ymgymerwr, o bryd i’w gilydd roi amcangyfrifon ysgrifenedig am ddim o’r costau, y taliadau, y treuliau ac atebolrwyddau eraill i’r ymgymerwr y mae’r ymgymerwr neu y bydd yr ymgymerwr yn atebol amdanynt o dan y Rhan hon (gan gynnwys swm y costau perthnasol a grybwyllir ym mharagraff 25) ynghyd â’r cyfryw wybodaeth ag sy’n galluogi’r ymgymerwr yn rhesymol i asesu rhesymoldeb unrhyw gyfryw amcangyfrif neu hawliad a wneir neu sydd i’w wneud yn unol â’r Rhan hon (gan gynnwys unrhyw hawliad sy’n ymwneud â’r costau rhesymol).

27.  Wrth asesu unrhyw symiau sy’n daladwy i Network Rail o dan y Rhan hon, rhaid peidio ag ystyried unrhyw gynnydd yn y symiau a hawlir y gellir ei briodoli i unrhyw gam a gymerir gan Network Rail neu unrhyw gytundeb y mae Network Rail yn ymrwymo iddo os nad oedd y cam hwnnw na’r cytundeb hwnnw yn rhesymol angenrheidiol a bod Network Rail wedi cymryd y cam hwnnw neu wedi ymrwymo i’r cytundeb hwnnw gyda’r bwriad o gael yr ymgymerwr i dalu’r symiau hynny o dan y Rhan hon neu o gynyddu’r symiau sydd felly’n daladwy.

28.  Caiff yr ymgymerwr a Network Rail, yn ddarostyngedig i gydymffurfiaeth Network Rail â thelerau ei drwydded rhwydwaith, ymrwymo i gytundebau, a’u gweithredu, ar gyfer trosglwyddo i’r ymgymerwr—

(a)unrhyw eiddo rheilffordd a ddangosir ar blaniau gweithfeydd a phlan y tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr;

(b)unrhyw diroedd, gweithfeydd neu eiddo arall a ddelir mewn cysylltiad ag unrhyw gyfryw eiddo rheilffordd; ac

(c)unrhyw hawliau a rhwymedigaethau (boed yn rhai statudol ai peidio) sydd gan Network Rail sy’n ymwneud ag unrhyw eiddo rheilffordd.

29.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, nac mewn unrhyw ddeddfiad a gorfforir gyda’r Gorchymyn hwn neu a gymhwysir gan y Gorchymyn hwn, yn rhagfarnu nac yn effeithio ar weithrediad Rhan 1 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993.

30.  Rhaid i’r ymgymerwr, heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr ardystir y planiau gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 46 (ardystio planiau etc), roi set o blaniau i Network Rail sy’n ymwneud â’r gweithfeydd penodedig ar ffurf disg gyfrifiadurol sydd â chof darllen yn unig.

RHAN 3Diogelu gweithredwyr rhwydweithiau’r cod cyfathrebu electronig

31.—(1Mae darpariaethau’r Rhan hon yn cael effaith oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng yr ymgymerwr a’r gweithredwr.

(2Yn y Rhan hon—

ystyr “Deddf 2003” yw Deddf Cyfathrebu 2003;

mae i “system ddargludo” yr un ystyr â “conduit system” yn y cod cyfathrebu electronig ac mae cyfeiriadau at ddarparu system ddargludo i’w dehongli yn unol â pharagraff 1(3A) o’r cod hwnnw(8);

mae i “cyfarpar cyfathrebu electronig” yr un ystyr ag “electronic communications apparatus” yn y cod cyfathrebu electronig;

mae i “cod cyfathrebu electronig” yr un ystyr ag “electronic communications code” ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2003(9);

ystyr “rhwydwaith y cod cyfathrebu electronig” yw—

(a)

cymaint o rwydwaith cyfathrebu electronig neu system ddargludo a ddarperir gan weithredwr o dan y cod cyfathrebu electronig ag sydd ddim yn cael ei hepgor wrth gymhwyso’r cod cyfathrebu electronig drwy gyfarwyddyd o dan adran 106 o Ddeddf 2003; a

(b)

rhwydwaith cyfathrebu electronig y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei ddarparu neu’n cynnig ei ddarparu;

ystyr “gweithredwr y cod cyfathrebu electronig” yw person y mae’r cod cyfathrebu electronig yn cael ei gymhwyso yn ei gylch drwy gyfarwyddyd o dan adran 106 o Ddeddf 2003; ac

ystyr “gweithredwr” yw gweithredwr rhwydwaith o dan y cod cyfathrebu electronig.

32.  Nid yw cau na dargyfeirio unrhyw stryd dros dro o dan erthygl 8 (cau strydoedd dros dro) yn effeithio ar hawl y gweithredwr o dan baragraff 9 o’r cod cyfathrebu electronig i gynnal a chadw unrhyw gyfarpar sydd, ar adeg cau neu ddargyfeirio, yn y stryd honno.

33.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), os o ganlyniad i’r prosiect awdurdodedig neu ei adeiladu, neu unrhyw ymsuddo o ganlyniad i unrhyw ran o’r prosiect—

(a)achosir unrhyw ddifrod i unrhyw gyfarpar cyfathrebu electronig sy’n eiddo i weithredwr (heblaw am gyfarpar nad yw’n rhesymol angenrheidiol ei atgyweirio o ystyried y bwriad i’w waredu at ddibenion y prosiect) neu eiddo arall gweithredwr; neu

(b)mae tarfu ar gyflenwad y gwasanaeth a ddarperir gan weithredwr, rhaid i’r ymgymerwr ddwyn a thalu’r gost y mae’r gweithredwr yn rhesymol yn mynd iddi wrth unioni’r cyfryw ddifrod neu wrth adfer y cyflenwad;

(c)rhoi digollediad rhesymol i weithredwr am golled a achosir iddo; a

(d)indemnio gweithredwr rhag hawliadau, archebion am dâl, achosion cyfreithiol, costau, iawndal a threuliau y gellir eu gwneud neu eu dwyn yn erbyn gweithredwr neu y gellir eu hadennill oddi wrth weithredwr neu y gall gweithredwr fynd iddynt oherwydd neu o ganlyniad i unrhyw gyfryw ddifrod neu darfu.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—

(a)unrhyw gyfarpar y mae cysylltiadau rhwng yr ymgymerwr a gweithredwr mewn perthynas ag ef yn cael eu rheoleiddio gan Ran 3 o Ddeddf 1991; neu

(b)unrhyw ddifrod, neu unrhyw darfu, a achosir gan ymyrraeth electro-magnetig sy’n codi o adeiladu neu ddefnyddio’r prosiect awdurdodedig.

(3Nid oes dim yn is-baragraff (1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar yr ymgymerwr mewn cysylltiad ag unrhyw ddifrod neu darfu i’r graddau y gellir ei briodoli i weithred, esgeulustod neu ddiffyg gweithredwr, ei swyddogion, ei weision, ei gontractwyr neu ei asiantau.

(4Rhaid i’r gweithredwr roi rhybudd rhesymol i’r ymgymerwr am unrhyw gyfryw hawliad neu archeb am dâl, ac ni chaniateir gwneud unrhyw setliad na chyfaddawd heb gydsyniad yr ymgymerwr sydd, os yw’n atal y cyfryw gydsyniad, yn cynnal ar ei ben ei hun unrhyw setliad neu gyfaddawd neu unrhyw achos llys sy’n angenrheidiol i wrthsefyll yr hawliad neu’r archeb am dâl.

(5Mae unrhyw wahaniaeth sy’n codi rhwng yr ymgymerwr a’r gweithredwr o dan y Rhan hon i’w gyfeirio at gymrodeddwr ac i’w setlo drwy gymrodeddu o dan erthygl 49 (cymrodeddu).

(2)

Diwygiwyd adran 102(4) gan adran 96 o Ddeddf Dŵr 2003. Diwygiwyd adran 104 gan adran 96 o Ddeddf Dŵr 2003 a Rhan 3 o Atodlen 9 i’r ddeddf honno a chan adran 42(3) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).

(3)

1986 p. 44. Diffinnir “cludwr nwy” yn adran 7. Amnewidiwyd adran 7 newydd gan adran 5 o Ddeddf Nwy 1995 (p. 45) ac fe’i diwygiwyd ymhellach gan adran 76 o Ddeddf Cyfleustodau 2000.

(4)

Diffinnir “ymgymerwr dŵr” yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978.

(5)

1993 p. 43. Diwygiwyd adran 8 gan baragraff 4 o Atodlen 17 a Rhan 4 o Atodlen 31 i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38), paragraffau 3 a 5 o Atodlen 2 i Ddeddf Rheilffyrdd a Diogelwch Trafnidiaeth 2003 (p. 20) a pharagraff 3 o Atodlen 1 a Rhan 1 o Atodlen 13 i Ddeddf Rheilffyrdd 2005 (p. 14).

(7)

Diffinnir “cytundeb ynglŷn â mynediad” yn adran 83.

(8)

Ychwanegwyd paragraff 1(3A) at y cod (Atodlen 2 i Ddeddf Telathrebu 1984) gan baragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf Cyfathrebu 2003.

(9)

Diffinnir “The electronic communications code” yn adran 106(1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources