- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Mae’r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6(1)(a) fel a ganlyn.
(2) Mae cyfeiriadau yn Neddf 1981 at dir, mewn cyd-destunau priodol, i’w darllen (yn unol â gofynion y cyd-destun penodol) fel pe baent yn gyfeiriadau at, neu fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at—
(a)yr hawl a gaffaelwyd neu sydd i’w chaffael, neu’r cyfamod cyfyngol a osodwyd neu sydd i’w osod; neu
(b)y tir y mae’r hawl yn arferadwy drosto neu sydd i’w harfer drosto, neu’r cyfyngiad sy’n orfodadwy drosto neu sydd i’w orfodi drosto.
(3) Mae cyfeiriadau yn Neddf 1981 at Ddeddf 1965 i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y mae’n gymwys i gaffael hawl yn orfodol neu osod cyfamod cyfyngol o dan erthygl 23.
(4) Mae adran 8(1) o Ddeddf 1981 (breinio, a’r hawl i fynd ar dir a’i feddiannu) yn cael ei haddasu er mwyn sicrhau—
(a)bod datganiad breinio cyffredinol mewn cysylltiad ag unrhyw hawl yn breinio’r hawl neu’r cyfamod cyfyngol yn yr awdurdod caffael ar y dyddiad breinio; a
(b)bod gan yr awdurdod caffael, o’r dyddiad breinio, bŵer sy’n arferadwy o dan yr un amgylchiadau ac sy’n ddarostyngedig i’r un amodau, i fynd ar dir at ddiben arfer yr hawl honno neu orfodi’r cyfamod cyfyngol hwnnw fel pe bai’r amgylchiadau a grybwyllir yn adran 8(1)(a) a (b) o Ddeddf 1981 wedi codi.
(5) Mae adran 9(2) o Ddeddf 1981 (hawl mynediad o dan adran 8(1) nad yw’n arferadwy mewn perthynas â thir sy’n ddarostyngedig i denantiaethau penodol, oni chyflwynir hysbysiad i feddianwyr y tir) yn cael ei haddasu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod priodol o dan y ddarpariaeth honno gyfeirio at fwriad yr awdurdod i fynd ar dir a bennir yn yr hysbysiad er mwyn arfer yr hawl neu orfodi’r cyfamod cyfyngol hwnnw.
(6) Yn adran 10(1) o Ddeddf 1981 (atebolrwydd awdurdod caffael ar adeg breinio tir), mae’r cyfeiriad at feddiannu’r tir gan yr awdurdod caffael o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965 i’w ddarllen yn lle hynny fel pe bai’n gyfeiriad at arfer y pŵer i fynd ar dir gan yr awdurdod o dan y ddarpariaeth honno fel y’i haddaswyd gan baragraff 4(5) o’r Atodlen hon.
(7) Mae Atodlen A1 i Ddeddf 1981 (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn datganiad breinio cyffredinol) yn cael effaith fel pe bai—
(a)ym mharagraff 1(1), yn lle “part only of” rhoddwyd “only the acquisition of a right or the imposition of a restrictive covenant over”;
(b)cyfeiriadau at y tir y bwriedir ei gaffael yn gyfeiriadau (yn ddarostyngedig i baragraff (d) isod) at yr hawl y bwriedir ei chaffael neu’r cyfamod cyfyngol y bwriedir ei osod;
(c)cyfeiriadau at y tir ychwanegol yn gyfeiriadau at y tŷ, yr adeilad neu’r ffatri y bwriedir arfer yr hawl drosto neu drosti neu y bwriedir gorfodi’r cyfamod cyfyngol drosto neu drosti;
(d)ym mharagraffau 14 a 15, gyfeiriadau at wahanu’r tir y bwriedir ei gaffael yn gyfeiriadau at gaffael yr hawl neu osod y cyfamod cyfyngol; ac
(e)ym mharagraff 15, “or in substitution for” yn cael ei fewnosod ar ôl “in addition to”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: