- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau)—
(a)ar ôl “y map perthnasol o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013”” mewnosoder “(y “map mynegai PPN”)”;
(b)yn lle paragraffau (a) a (b) rhodder—
“(a)nid yw rheoliadau 5 i 11, 15, 23, 27, 33 i 35, na 37 i 43 yn gymwys hyd nes 1 Ionawr 2023,
(b)nid yw rheoliadau 4 nac 36 yn gymwys hyd nes 30 Ebrill 2023, ac
(c)nid yw rheoliadau 17 i 21, 25, 26, nac 28 i 31 yn gymwys hyd nes 1 Awst 2024.”
(3) Yn rheoliad 3 (dehongli), ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “hysbysiad”, mewnosoder—
“mae i “map mynegai PPN” (“NVZ index map”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2;”.
(4) Yn rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr”, rhodder “y cyfnod perthnasol”;
(b)ar ôl paragraff (3), mewnosoder—
“(4) Ym mharagraff (1), ystyr “y cyfnod perthnasol” yw—
(a)ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr;
(b)ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill.”
(5) Yn rheoliad 36 (cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliad)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “30 Ebrill”, rhodder “y dyddiad perthnasol”;
(b)ym mharagraff (1)(a), yn lle “flwyddyn galendr flaenorol” rhodder “cyfnod o 12 mis blaenorol”;
(c)ar ôl paragraff (5), mewnosoder—
“(6) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfnod o 12 mis blaenorol” (“previous 12 month period”) yw—
ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr cyn y dyddiad perthnasol;
ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN—
y cyfnod o 12 mis cyntaf at y dibenion hyn yw 30 Ebrill 2023 i 29 Ebrill 2024, a
wedi hynny, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill ac sy’n gorffen ar 29 Ebrill cyn y dyddiad perthnasol;
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—
ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 30 Ebrill;
ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 31 Awst 2024 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 31 Awst.”
(6) Yn Atodlen 1 (meintiau o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori), yn Nhabl 1 (da byw sy’n pori)—
(a)yn y categori “Gwartheg”, yn y cofnod ar gyfer “Buchod godro”, yn y rhes ar gyfer “O 13 mis ymlaen tan y llo cyntaf”, yng ngholofn 4 (ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)), yn lle “34” rhodder “69”;
(b)yn y categori “Defaid”, yn y cofnod ar gyfer “Ar ôl wyna neu hwrdda”, yn y rhes ar gyfer “yn pwyso o 60 kg i fyny”, yng ngholofn 3 (nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)), yn lle “3” rhodder “33”.
(7) Yn Atodlen 3 (cyfrifo’r nitrogen sydd mewn tail organig), yn Rhan 1, yn y Tabl Safonol, yn y cofnod ar gyfer “Tail ac eithrio slyri”, yn y rhes ar gyfer “Tail o dyrcwn neu ieir brwylio”, yng ngholofn 2 (cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg)), yn lle “10” rhodder “30”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: