- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 9 mewnosoder—
“9A.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
(3) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.”.
(3) Yn erthygl 10—
(a)ym mharagraff (1), ar ôl “erthygl 9” mewnosoder “na 9A”.
(b)ym mharagraff (2), ar ôl “2023-2024” mewnosoder “neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025”.
(4) Yn erthygl 11(1), ar ôl “erthyglau 9” mewnosoder “, 9A”.
(5) Yn erthygl 13(1), ar ôl “erthyglau 9,” mewnosoder “9A,”.
(6) Ar ôl erthygl 17 mewnosoder—
“17A.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,
(c)nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024,
(d)nad yw erthygl 17B yn gymwys iddo, ac
(e)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar 31 Awst 2024—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
17B.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,
(c)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2024,
(d)nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024, ac
(e)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
17C.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac
(c)y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—
(a)y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;
(b)oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;
(c)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.”.
(7) Yn erthygl 18, yn lle “2024”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “2025”.
(8) Yn erthygl 19(1), yn lle “2024”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “2025”.
(9) Yn erthygl 20(1)(b), yn lle “2024” rhodder “2025”.
(10) Yn erthygl 24(4)(a)—
(a)yn y testun Saesneg, ar ôl “9(2),” mewnosoder “9A(2),”;
(b)yn y testun Cymraeg, yn lle “9(2) a” rhodder “9(2), 9A(2),”.
(11) Yn erthygl 25(3)(a), ar ôl “9(2),” mewnosoder “9A(2),”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: