- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
20.—(1) Mae’r safon yn y paragraff hwn yn ymwneud ag addasrwydd personau a benodir yn aelodau staff yn yr ysgol annibynnol, heblaw’r perchennog a staff cyflenwi.
(2) Mae’r safon yn y paragraff hwn wedi ei chyrraedd—
(a)os nad yw person o’r fath wedi ei wahardd rhag gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf 2006 pan fo’r person hwnnw yn cymryd rhan mewn gweithgaredd, neu y bydd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd, sy’n weithgaredd rheoleiddiedig o fewn yr ystyr a roddir i “regulated activity” yn Rhan 1 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno,
(b)os nad yw person o’r fath yn cyflawni gwaith yn yr ysgol annibynnol yn groes i orchymyn gwahardd, gorchymyn gwahardd interim, gorchymyn atal dros dro neu orchymyn atal dros dro interim,
(c)os nad yw person o’r fath yn cyflawni gwaith yn yr ysgol annibynnol yn groes i unrhyw gyfarwyddyd a wneir o dan adran 142 neu 167A o Ddeddf 2002, adran 128 o Ddeddf 2008 neu unrhyw anghymhwysiad, gwaharddiad neu gyfyngiad sy’n cymryd effaith fel pe bai wedi ei gynnwys mewn unrhyw gyfarwyddyd o’r fath,
(d)os yw’r perchennog yn gwneud gwiriadau priodol i gadarnhau, mewn cysylltiad â phob person o’r fath—
(i)pwy yw’r person,
(ii)ffitrwydd meddygol y person,
(iii)hawl y person i weithio yn y Deyrnas Unedig, a
(iv)pan fo’n briodol, cymwysterau’r person,
(e)pan fo’n berthnasol i unrhyw berson o’r fath—
(i)os oes tystysgrif GDG wedi ei chael mewn cysylltiad â’r person hwnnw, neu
(ii)pan fo’r person hwnnw wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, os yw gwiriad yn cael ei wneud o ran statws tystysgrif GDG y person,
(f)yn achos unrhyw berson nad yw cael tystysgrif o’r fath yn ddigonol, oherwydd bod y person hwnnw yn byw neu wedi byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, i gadarnhau addasrwydd y person i weithio mewn ysgol annibynnol, os oes unrhyw wiriadau pellach yn cael eu gwneud sy’n briodol ym marn y perchennog, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru, ac
(g)yn achos staff sy’n gofalu am ddisgyblion sy’n byrddio, sy’n eu hyfforddi, sy’n eu goruchwylio neu y mae ganddynt ofal drostynt, yn ychwanegol at y materion a bennir ym mharagraffau (a) i (f), os yw’r perchennog yn gwirio cydymffurfedd â’r Safonau yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Preswyl y Brif Ffrwd neu, pan fo’n gymwys, y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl, sy’n ymwneud â fetio staff,
ac os yw’r perchennog, ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddaw o’r gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (c) i (g), yn ystyried bod y person yn addas ar gyfer y swydd y mae wedi ei benodi iddi.
(3) Rhaid cwblhau’r gwiriadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) (ac eithrio pan fo is-baragraff (4) yn gymwys) cyn i berson gael ei benodi.
(4) Nid oes angen i’r gwiriadau a bennir yn is-baragraff (2)(d), (e), (f) ac (g) gael eu gwneud pan fo’r aelod newydd o staff (“A”) wedi gweithio—
(a)mewn ysgol annibynnol neu ysgol a gynhelir yng Nghymru mewn swydd yr oedd A yn dod i gysylltiad rheolaidd â phlant neu bobl ifanc ynddi,
(b)mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru mewn swydd y penodwyd A iddi ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006 ac nad oedd A yn dod i gysylltiad rheolaidd â phlant neu bobl ifanc ynddi, neu
(c)mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru mewn swydd a oedd yn ymwneud â darparu addysg neu swydd yr oedd A yn dod i gysylltiad rheolaidd â phlant neu bobl ifanc ynddi,
yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na 90 o ddiwrnodau cyn i A gael ei benodi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: