- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
24.—(1) Mae’r safon yn y paragraff hwn wedi ei chyrraedd os yw’r perchennog yn cadw cofrestr yn unol â pholisi’r ysgol annibynnol ar gadw data sy’n dangos yr wybodaeth honno y cyfeirir ati yn is-baragraffau (3) i (5) sy’n gymwys i’r ysgol annibynnol o dan sylw.
(2) Caniateir cadw’r gofrestr y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) ar ffurf electronig, ar yr amod bod modd atgynhyrchu’r wybodaeth a gofnodir ar ffurf ddarllenadwy.
(3) Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn yr is-baragraff hwn yw—
(a)mewn perthynas â phob aelod o staff, y dyddiad y’i penodwyd;
(b)mewn perthynas â phob aelod o staff (“S”)—
(i)a wiriwyd pwy yw S,
(ii)a wiriwyd pa un a yw S wedi ei wahardd rhag gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf 2006,
(iii)a wiriwyd pa un a yw S yn ddarostyngedig i orchymyn gwahardd, gorchymyn gwahardd interim, gorchymyn atal dros dro, neu orchymyn gwahardd dros dro interim,
(iv)a wiriwyd pa un a yw S yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a wneir o dan adran 142 neu 167A o Ddeddf 2002, adran 128 o Ddeddf 2008 neu unrhyw anghymhwysiad, gwaharddiad neu gyfyngiad sy’n cymryd effaith fel pe bai wedi ei gynnwys mewn cyfarwyddyd o’r fath,
(v)a wnaed gwiriadau i sicrhau bod gan S y cymwysterau perthnasol, pan fo’n briodol,
(vi)a gafwyd tystysgrif GDG mewn cysylltiad ag S (neu pan fo S wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, a wnaed gwiriad o statws tystysgrif S),
(vii)a wiriwyd hawl S i weithio yn y Deyrnas Unedig, ac
(viii)a wnaed gwiriadau yn unol â pharagraff 20(2)(f),
gan gynnwys y dyddiad y cwblhawyd pob gwiriad o’r fath neu y cafwyd y dystysgrif.
(4) Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn yr is-baragraff hwn yw, mewn perthynas â staff cyflenwi—
(a)a gafwyd hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogi—
(i)bod y gwiriadau sy’n cyfateb i’r rhai y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b)(i) i (iv), (vii) ac (viii) wedi eu gwneud i’r graddau sy’n berthnasol i unrhyw berson o’r fath, a
(ii)bod y busnes cyflogi hwnnw neu fusnes cyflogi arall wedi cael tystysgrif GDG (neu pan fo’r person wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, bod gwiriad wedi ei wneud o ran statws tystysgrif y person),
ynghyd â’r dyddiad y cafwyd yr hysbysiad ysgrifenedig bod pob gwiriad o’r fath wedi ei wneud, neu fod tystysgrif wedi ei chael,
(b)pan fo hysbysiad ysgrifenedig wedi ei gael gan y busnes cyflogi yn unol â chontract neu drefniadau eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff 21(2)(d) ei fod wedi cael tystysgrif GDG, pa un a yw’r busnes cyflogi wedi rhoi copi o’r dystysgrif i’r ysgol annibynnol ai peidio, ac
(c)a oes gwiriad wedi ei wneud yn unol â pharagraff 21(2)(e), ynghyd â’r dyddiad y cwblhawyd y gwiriad.
(5) Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn yr is-baragraff hwn yw, mewn perthynas â phob aelod o gorff o bersonau sydd wedi ei enwi fel y perchennog—
(a)y dyddiad y’i penodwyd;
(b)a wnaed y gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 22(6)(b), y dyddiad y gwnaed y gwiriadau hynny a’r dyddiad y cafwyd y dystysgrif sy’n deillio o’r gwiriadau hynny.
(6) Nid yw’n berthnasol at ddibenion is-baragraffau (3), (4) a (5) a wnaed y gwiriad neu a gafwyd y dystysgrif yn unol â rhwymedigaeth gyfreithiol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: