- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
25. Y safonau ynghylch mangreoedd a llety byrddio yn yr ysgol annibynnol yw’r rhai sydd wedi eu cynnwys yn y Rhan hon.
26. At ddibenion y Rhan hon, mae gan ddisgybl “gofynion arbennig” os oes gan y disgybl unrhyw anghenion sy’n deillio o amhariadau corfforol, meddygol, synhwyraidd, dysgu, emosiynol neu ymddygiadol sy’n gofyn am ddarpariaeth sy’n ychwanegol at yr hyn sy’n ofynnol yn gyffredinol gan blant o’r un oedran mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol heblaw ysgolion arbennig neu’n wahanol i’r hyn sy’n ofynnol yn gyffredinol ganddynt.
27. Mae’r safon yn y paragraff hwn wedi ei chyrraedd os yw’r perchennog yn sicrhau—
(a)bod y cyflenwad dŵr yn bodloni gofynion y rheoliadau mangreoedd ysgolion,
(b)bod system ddraenio ddigonol at ddibenion hylendid ac i gael gwared ar ddŵr gwastraff a dŵr wyneb,
(c)bod pob strwythur sy’n dal pwysau yn foddhaol yn unol â’r rheoliadau mangreoedd ysgolion,
(d)bod gan yr ysgol annibynnol drefniadau effeithiol o ran diogelwch ar gyfer ei thir a’i hadeilad,
(e)bod mangreoedd sy’n cael eu defnyddio at ddiben arall heblaw cynnal yr ysgol annibynnol wedi eu trefnu i sicrhau bod iechyd, diogelwch a lles disgyblion wedi eu diogelu ac i sicrhau na thorrir ar draws eu haddysg gan ddefnyddwyr eraill,
(f)bod adeiladau’r ysgol annibynnol yn darparu lloches resymol rhag y glaw, yr eira, y gwynt a lleithder o’r ddaear,
(g)bod mynediad yn ddigonol fel bod modd i bob disgybl, yn enwedig y rhai â gofynion arbennig, adael yn ddiogel mewn argyfwng,
(h)bod mynediad i’r ysgol annibynnol yn caniatáu i bob disgybl, gan gynnwys y rhai â gofynion arbennig, fynd i mewn i’r ysgol annibynnol a’i gadael yn ddiogel ac yn gyfforddus,
(i)nad yw’r fangre a’r llety byrddio mewn cyflwr sy’n golygu eu bod yn niweidiol i iechyd neu’n niwsans,
(j)gan roi sylw i nifer, oedran ac anghenion (gan gynnwys unrhyw ofynion arbennig) y disgyblion, fod yr ystafelloedd dosbarth yn briodol o ran maint i ganiatáu addysgu effeithiol ac nad ydynt yn peryglu iechyd a diogelwch,
(k)bod digon o ystafelloedd ymolchi i’r staff a’r disgyblion, gan gynnwys cyfleusterau ar gyfer disgyblion â gofynion arbennig, gan roi ystyriaeth i’r rheoliadau mangreoedd ysgolion,
(l)bod cyfleusterau priodol ar gyfer disgyblion sy’n sâl, yn unol â’r rheoliadau mangreoedd ysgolion,
(m)pan fo bwyd a diod yn cael eu gweini, fod cyfleusterau digonol ar gyfer eu paratoi, eu gweini, a’u bwyta a’u hyfed yn hylan,
(n)bod ystafelloedd dosbarth a rhannau eraill o’r ysgol annibynnol yn cael eu cadw mewn cyflwr taclus, glân a hylan,
(o)bod y dulliau ynysu rhag sŵn a’r acwsteg yn caniatáu addysgu a chyfathrebu effeithiol,
(p)bod y dulliau goleuo, gwresogi ac awyru yn yr ystafelloedd dosbarth a rhannau eraill o’r ysgol annibynnol yn foddhaol yn unol â’r rheoliadau mangreoedd ysgolion,
(q)bod y gwaith addurno o safon foddhaol ac wedi ei gynnal a’i gadw’n ddigonol,
(r)bod y dodrefn a’r ffitiadau wedi eu dylunio’n briodol ar gyfer oedran a gofynion (gan gynnwys unrhyw ofynion arbennig) pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol annibynnol,
(s)bod gorchuddion priodol ar y llawr a’u bod mewn cyflwr da,
(t)bod trefniadau priodol ar gyfer darparu lle yn yr awyr agored i’r holl ddisgyblion chwarae yn ddiogel (gan gynnwys disgyblion ag unrhyw ofynion arbennig),
(u)pan fo llety byrddio yn cael ei ddarparu, ei fod yn rhoi sylw i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Preswyl y Brif Ffrwd neu, pan fo’n gymwys, y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl, a
(v)bod cynllun hygyrchedd wedi ei lunio a’i adolygu yn unol â gofynion adran 88 o Ddeddf 2010 ac Atodlen 10 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: