- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
81. Yn rheoliad 5 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017(1), ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”.
82. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 2, ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu” mewnosoder “ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig” (“the Special School Residential Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024;”;
(b)ar ôl rheoliad 9, mewnosoder—
9A.—(1) Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 6 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 6 yn cynnwys disgrifiad o natur gyffredinol y drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 6.”;
(c)ar ôl Atodlen 5, mewnosoder—
Rheoliad 9A
Y ddarpariaeth sy’n creu’r drosedd | Natur gyffredinol y drosedd | Swm y gosb |
---|---|---|
Rheoliad 3(3) a (5) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 7(3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 8(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 15(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 16(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu cytundeb gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 31(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 34(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 51(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 52(1), (2) a (4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 58(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 65(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd am ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 66(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 71(4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gofal, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 72(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 75(1) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol” |
O.S. 2017/1097 (Cy. 277), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/233 (Cy. 52), O.S. 2020/486 (Cy. 111), O.S. 2021/395 (Cy. 126) ac O.S. 2022/476 (Cy. 118).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: