- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6. Ar ôl rheoliad 49 (cymhwyso Rhan 13) mewnosoder—
49A.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth—
(a)sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth, a
(b)nad oedd Rhan 13 yn gymwys iddo mewn perthynas â’r man hwnnw yn ystod cyfnod pan oedd y gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bedwar neu lai o unigolion.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cael caniatâd am amrywiad i’w amodau cofrestru ar neu ar ôl 31 Mawrth 2024 o ganlyniad i ailgyflunio mangre a ddefnyddir mewn perthynas â’r man, ac mai effaith yr amrywiad yw y gellir darparu llety yn y man hwnnw i bump neu ragor o unigolion, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gydymffurfio â gofynion rheoliadau 50 i 54 mewn cysylltiad â’r man hwnnw.
(3) Nid yw’r gofyniad i gydymffurfio â rheoliadau 50 a 51 mewn perthynas â’r man hwnnw ond yn gymwys i unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol ar gyfer unigolion.
(4) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 49B—
ystyr “ailgyflunio mangre” (“reconfiguration of premises”) yw ad-drefnu neu newid cynllun ffisegol presennol y fangre er mwyn cynyddu nifer yr unigolion y gellir darparu llety iddynt yn y gwasanaeth.
49B.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth—
(a)sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth, a
(b)nad oedd Rhan 13 yn gymwys iddo mewn perthynas â’r man hwnnw yn ystod cyfnod pan nad oedd y fangre a ddefnyddir gan y gwasanaeth yn dod o fewn Categori A, B nac C a phan oedd yn cynnwys darparu llety i bump neu ragor o unigolion.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cael caniatâd am amrywiad i’w amodau cofrestru ar neu ar ôl 31 Mawrth 2024 o ganlyniad i ailgyflunio mangre a ddefnyddir mewn perthynas â’r man, ac mai effaith yr amrywiad yw bod nifer yr unigolion y gellir darparu llety ar eu cyfer yn y man hwnnw wedi ei gynyddu, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gydymffurfio â gofynion rheoliadau 50 i 54 mewn cysylltiad â’r man hwnnw.
(3) Nid yw’r gofyniad i gydymffurfio â rheoliadau 50 a 51 mewn perthynas â’r man hwnnw ond yn gymwys i unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol ar gyfer unigolion.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: