Search Legislation

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Rhan 3: Trefniadaeth Ysgolion

52.Mae Rhan 3 yn diwygio ac yn dwyn ynghyd mewn un lle y gyfraith sy'n ymwneud â threfniadaeth ysgolion ar gyfer Cymru; yn ei gwneud yn ofynnol i God newydd am Drefniadaeth Ysgolion gael ei gyhoeddi; ac yn creu fframwaith newydd ar gyfer penderfynu ar gynigion sy'n derbyn gwrthwynebiadau, gan gynnwys proses symlach ar gyfer cynigion i gau ysgolion sydd â llai na 10 disgybl.

Adrannau 38 a 39 - Y Cod Trefniadaeth Ysgolion etc.

53.Mae adran 38 yn creu gofyniad i Weinidogion Cymru ddyroddi a chyhoeddi cod (neu godau) am drefniadaeth ysgolion (“y Cod”) y mae'n rhaid i’r personau a restrir yn is-adran (2) weithredu yn unol ag ef os yw'r Cod yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny. Caiff y Cod hefyd gynnwys canllawiau sy'n nodi nodau, amcanion a materion eraill y mae'n rhaid i'r personau a enwir roi sylw iddynt.

54.Mae adran 39 yn nodi'r weithdrefn y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ei dilyn cyn dyroddi'r Cod. Ymhlith pethau eraill mae'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ynghylch y Cod a gosod copi ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 40 - Cyfyngu ar sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelir

55.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i ysgol a gynhelir gael ei hagor neu ei chau, neu i newid sylweddol (a elwir yn ‘newid rheoleiddiedig’) gael ei wneud, yn unol â'r prosesau a nodir yn y Rhan hon – ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru yn defnyddio eu pŵer ymyrryd i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau o dan adran 16. Nodir y newidiadau rheoleiddiedig yn Atodlen 2. Mae is-adran (2) o adran 40 yn gwahardd sefydlu ysgol sefydledig newydd neu ysgol arbennig sefydledig newydd yng Nghymru. Mae is-adran (5) yn gwahardd unrhyw newid i ysgol a gynhelir sy'n newid ei chymeriad crefyddol neu'n peri iddi gaffael neu golli cymeriad crefyddol.

56.Gwnaed darpariaeth debyg yn adrannau 28(11) a 33 o Ddeddf 1998.

Adrannau 41 i 44 ac Atodlen 2 - Cynigion y caniateir iddynt gael eu gwneud mewn cysylltiad ag ysgolion yng Nghymru

57.Mae'r adrannau hyn yn rhoi i awdurdodau lleol bŵer i wneud cynigion:

  • i sefydlu ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol, ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol arbennig gymunedol;

  • i derfynu ysgol gymunedol, ysgol feithrin a gynhelir, ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig gymunedol;

  • i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol gymunedol, ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol arbennig gymunedol;

  • i wneud newid rheoleiddiedig i gynyddu neu leihau capasiti mewn ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig nad oes ganddi gymeriad crefyddol;

  • i wneud newid rheoleiddiedig i agor neu gau chweched dosbarth ysgol mewn ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

58.Yn ychwanegol, caiff unrhyw berson wneud cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol a chaiff corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wneud cynigion i wneud newid rheoleiddiedig i'r ysgol neu i derfynu'r ysgol.

59.Mae Atodlen 2 yn nodi'n fanwl y newidiadau rheoleiddiedig y caniateir eu gwneud i ysgol. Ymhlith newidiadau eraill mae'n caniatáu ar gyfer:

  • newidiadau i gapasiti'r ysgol (paragraffau 10 i 14). Wrth bwyso a mesur a yw capasiti'r ysgol wedi newid, mae newidiadau blaenorol i’w hystyried fel na ellir gwneud newidiadau i'r capasiti yn gynyddrannol heb yr angen i wneud cynigion;

  • cynnydd neu leihad yn ystod oedran yr ysgol (paragraff 5). Nid yw cynnydd yn ystod oedran uchaf ysgol yn caniatáu i chweched dosbarth gael ei ychwanegu. Mae darpariaeth ar wahân yn yr Atodlen (ym mharagraff 6) yn caniatáu i chweched dosbarth gael ei ychwanegu at ysgol (neu ei dynnu oddi wrthi);

  • newidiadau i gyfrwng iaith yr ysgol (paragraffau 7 ac 8). Mae'r rhain wedi eu diweddaru ers Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 i adlewyrchu cyflwyno'r cyfnod sylfaen a methodolegau addysgu mewn ysgolion cynradd; nid yw'r rhain bellach yn cyfeirio at bynciau ond yn hytrach at ganrannau'r amser a dreulir yn addysgu disgyblion.

60.Mae paragraff 26 o'r Atodlen yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ychwanegu, newid neu ddileu newid rheoleiddiedig drwy Orchymyn.

61.Mae'r darpariaethau hyn wedi eu seilio ar adrannau 28, 29 ac 31 o Ddeddf 1998 a'r rheoliadau a wnaed o dan y pwerau hyn.

Adran 45 i 47 - Newid categori ysgol etc.

62.Rhennir ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol (ac eithrio ysgolion meithrin a gynhelir) i gategorïau gwahanol a nodir yn adran 20 o Ddeddf 1998. Mae adrannau 45 i 47 (yn seiliedig ar adran 35 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 7 iddi) yn manylu ar bwy gaiff wneud cynigion i newid categori ysgol; mae’r grid isod yn crynhoi hyn (ystyr WG yw ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ystyr WR yw ysgol wirfoddol a reolir ac ystyr CLl yw corff llywodraethu).

Categori o ysgolGall ddod ynCynigydd
Ysgol gymunedolWG neu WRCLl
Ysgol WGYsgol gymunedol neu WRCLl
WRYsgol gymunedol neu WGCLl
Ysgol sefydledigYsgol gymunedol, WG neu WRCLl

63.Ni chaiff ysgol newid categori i ddod yn ysgol sefydledig neu’n ysgol arbennig sefydledig. Ni chaiff ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol â chymeriad crefyddol newid categori i ddod yn ysgol gymunedol.

64.Er mwyn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir rhaid i gorff llywodraethu fodloni Gweinidogion Cymru y gall fodloni ei rwymedigaethau ariannol am gyfnod o bum mlynedd o leiaf ar ôl i'r newid categori ddigwydd (adran 46).

65.Nid yw newid categori yn awdurdodi unrhyw newid yng nghymeriad crefyddol yr ysgol nac yn ei hawdurdodi i sefydlu corff sefydledig (fel y'i diffinnir yn adran 21 o Ddeddf 1998), nac i ymuno neu ymadael â chorff o'r fath.

66.Os yw ysgol i ddod yn ysgol gymunedol, rhaid bod y cytundebau trosglwyddo y ceir manylion amdanynt yn Atodlen 4 wedi eu gwneud.

Adran 48 - Cyhoeddi ac ymgynghori

67.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol bod ymgynghoriad ar gynigion trefniadaeth ysgol a'u bod yn cael eu cyhoeddi. Bydd y Cod yn nodi'r gofynion ar gyfer ymgynghori ac yn ymwneud â sut a phryd y mae cyhoeddi cynigion. Rhaid i gynigwyr gyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad. Rhaid i'r cynigwyr anfon copïau o'r cynigion cyhoeddedig at Weinidogion Cymru, ac at yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol. Fodd bynnag, nid yw'r gofyniad i ymgynghori yn gymwys yn achos cynigion i derfynu ysgol fach, sef un sydd â llai na 10 disgybl cofrestredig ar y trydydd dydd Mawrth o'r mis Ionawr blaenorol (fe'i diffinnir yn adran 56). Hwn yw'r dyddiad y cynhelir y Cyfrifiad Blynyddol Ysgolion (ac felly, bydd modd gwybod nifer y disgyblion sydd mewn ysgol ar y dyddiad hwnnw).

Adran 49 - Gwrthwynebu

68.Mae adran 49 yn galluogi unrhyw berson i wrthwynebu cynigion yn ysgrifenedig o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad cyhoeddi (a elwir “y cyfnod gwrthwynebu”) ac yn ei gwneud yn ofynnol i gynigwyr gyhoeddi crynodeb o'r gwrthwynebiadau a wnaed ynghyd â’u hymatebion i'r gwrthwynebiadau hynny cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y mae'r cyfnod gwrthwynebu'n dod i ben. Ond os yw awdurdod lleol yn penderfynu ar ei gynigion ei hun, rhaid iddo gyhoeddi’r crynodeb a’r ymateb o fewn 7 o ddiwrnodau o’i benderfyniad o dan adran 53. Bydd awdurdod lleol yn penderfynu ar ei gynigion ei hun os nad yw’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 50.

Adrannau 50 i 53 - Cymeradwyo cynigion a phenderfynu arnynt

69.Pan fo cynigion yn ymwneud ag addysg chweched dosbarth neu pan fo’r awdurdod lleol perthnasol wedi gwrthwynebu cynigion, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r cynigion. Pan fo cynigion wedi cael gwrthwynebiadau (gan berson heblaw’r awdurdod lleol), ond nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru eu cymeradwyo, mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol perthnasol eu cymeradwyo. Yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol dan sylw, neu a fydd yn ei chynnal, yw’r awdurdod lleol perthnasol.

70.Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo, caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol wrthod y cynigion, eu cymeradwyo heb eu haddasu neu eu cymeradwyo gydag addasiadau. Caiff awdurdod lleol ond addasu’r dyddiad y bwriedir gweithredu’r cynigion neu’r nifer derbyn.  Cyn gwneud addasiad, rhaid i awdurdod lleol gael cydsyniad Gweinidogion Cymru a’r cynigydd; rhaid i Weinidogion Cymru gael cydsyniad y cynigydd.

71.Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol drin unrhyw gynigion eraill sy’n ymwneud â chynigion y mae’n ofynnol iddynt eu cymeradwyo, fel cynigion sydd hefyd yn ofynnol iddynt eu cymeradwyo.

72.Pan na fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo, y cynigydd fydd yn penderfynu a ddylid eu gweithredu.

Adran 54 – Eu hatgyfeirio i Weinidogion Cymru

73.Pan fo awdurdod lleol wedi penderfynu cymeradwyo neu wrthod cynigion, neu wedi penderfynu gweithredu cynigion yr oedd gwrthwynebiad iddynt, caiff y cyrff a nodir yn is-adran (2) atgyfeirio’r cynigion at Weinidogion Cymru am eu cymeradwyaeth hwythau.

Adran 55 ac Atodlenni 3 a 4 - Gweithredu

74.Mae adran 55 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i gynigion sydd wedi eu cymeradwyo, neu fod y cynigydd wedi penderfynu y dylid eu gweithredu, gael eu gweithredu ar y ffurf y cawsant eu cymeradwyo neu eu penderfynu, ac yn unol ag Atodlen 4 ar gyfer cynigion newid categori, neu'n unol ag Atodlen 3 ar gyfer pob math arall o gynnig.

75.Mae Atodlen 3 yn darparu manylion pellach ynghylch gweithredu cynigion statudol gan gynnwys cyfrifoldebau ar gyfer gweithredu mathau gwahanol o gynigion, a darparu mangreoedd a chymorth. Mae Atodlen 4 yn darparu manylion pellach ynghylch gweithredu'r cynigion newid categori, gan gynnwys trosglwyddo staff a thir. Mae'r Atodlen hon yn darparu ar gyfer ac yn nodi'r broses y mae'n rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ei rhoi ar waith i weithredu'r cynigion i newid categori ac yn gwneud darpariaeth debyg i'r un a geir yn Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001. Mae'n nodi, ymhlith pethau eraill, y manylion ynghylch sut y mae trosglwyddo staff a thir. Mae pŵer yn cael ei ddarparu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn cysylltiad â sut y mae newid categori yn cael effaith ar lywodraethu'r ysgol.

76.Caiff y cynigydd ohirio penderfyniad hyd at dair blynedd, neu benderfynu peidio â gweithredu'r cynigion o gwbl, os yw wedi ei fodloni y byddai gweithredu'r cynigion yn afresymol o anodd neu fod amgylchiadau wedi newid i'r fath raddau fel y byddai'r gweithredu hwnnw yn amhriodol. Caiff y cynigydd hefyd benderfynu dod â’r gweithredu ynghynt am gyfnod sydd hyd at 13 o wythnosau.

77.Wrth wneud y penderfyniadau hynny, rhaid i'r cynigydd hysbysu'r corff llywodraethu priodol a'r awdurdod lleol (pan nad yw un o'r ddau hyn yn gynigydd). Pan fo'r cynigion wedi cael cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol, rhaid i'r cynigydd gael cytundeb Gweinidogion Cymru cyn gwneud unrhyw benderfyniad i ohirio, rhoi'r gorau i unrhyw weithredu neu ddod â’r cyfnod gweithredu ynghynt.

78.Mae adran 55 ac Atodlen 3 yn disodli, gyda diwygiadau, Atodlen 6 i Ddeddf 1998. Mae Atodlen 4 yn seiliedig ar Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001.

Adrannau 57 i 63 - Rhesymoli lleoedd ysgol - pwerau a gweithdrefnau

79.Mae'r adrannau hyn yn nodi pwerau Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i arfer eu pwerau o dan Bennod 2 o'r Rhan hon i wneud cynigion i gynyddu neu leihau nifer y lleoedd ysgol yn eu hardal er mwyn mynd i’r afael â darpariaeth annigonol neu ddarpariaeth ormodol - h.y. “rhesymoli lleoedd ysgol”.

80.Os yw’r awdurdod lleol yn methu â rhesymoli lleoedd ysgol, darperir pwerau i Weinidogion Cymru wneud eu cynigion eu hunain i resymoli lleoedd (ac mae'r darpariaethau hyn hefyd yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn petai'r cynigion hyn yn cael eu cyhoeddi).

81.Mae'r adrannau hyn gan mwyaf yn ailddeddfu Atodlen 7 i Ddeddf 1998.

Adrannau 64 i 70 - Darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig, pwerau a gweithdrefnau

82.Mae'r adrannau hyn yn nodi pwerau Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried gwneud darpariaeth ranbarthol ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, neu i gyfarwyddo awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i wneud trefniadau neu gynigion ar gyfer darpariaeth ranbarthol. Caiff darpariaeth ranbarthol ymwneud â darparu addysg mewn ysgol a gynhelir gan un awdurdod lleol ar gyfer plant o awdurdodau eraill, neu fod un awdurdod lleol yn darparu nwyddau a gwasanaethau i awdurdodau neu ysgolion eraill.

83.Mae adran 68 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru wneud eu cynigion eu hunain mewn cysylltiad â darpariaeth ranbarthol (yn cynnwys y weithdrefn sydd i'w dilyn petai'r cynigion hyn yn cael eu cyhoeddi).

84.Mae'r adrannau hyn yn seiliedig ar y darpariaethau a geir yn adrannau 191 i 193 o Ddeddf Addysg 2002.

Adrannau 71 i 77 – Cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth

85.Mae'r adrannau hyn, sy'n seiliedig ar adran 113A o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac Atodlen 7A iddi, yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru wneud cynigion i sefydlu ysgolion cymunedol newydd neu ysgolion arbennig cymunedol newydd i ddarparu addysg chweched dosbarth yn unig; ychwanegu addysg chweched dosbarth at unrhyw ysgol bresennol a gynhelir, neu ddileu'r addysg chweched dosbarth ohonynt; terfynu unrhyw ysgol chweched dosbarth bresennol; a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn os yw Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cynigion i ailstrwythuro’r chweched dosbarth.

86.Mae adran 77 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad ag adroddiadau arolygu ar addysg chweched dosbarth. Darparodd adran 113 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac Atodlen 7 iddi bwerau i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynigion i derfynu ysgol nad oedd ond yn darparu addysg chweched dosbarth, neu i ddileu chweched dosbarth o ysgol. Ysgogwyd y pwerau hyn gan adroddiad arolygu anffafriol gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Gan fod adran 71 yn darparu pŵer annibynnol i Weinidogion Cymru ddwyn cynigion gerbron i newid neu ddileu chweched dosbarth, nid oes bellach angen yr ysgogiadau yn Atodlen 7 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Fodd bynnag, mae'r gofyniad i adrodd ar wahân ar ddigonolrwydd addysg chweched dosbarth ysgol fel rhan o arolygiad ysgol cyffredinol, neu arolygiad ardal, yn dal i fod yn berthnasol, ac mae Deddf Addysg 2005 wedi ei diwygio er mwyn cadw'r gofyniad hwn. Mae'r adrannau hyn yn seiliedig ar y darpariaethau ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 7 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.

Adran 78 - Ysgolion ffederal

87.Mae adran 78 yn caniatáu i gynigion i sefydlu ysgol newydd gynnwys sefydlu ysgol fel ysgol ffederal. Ysgol ffederal yw ysgol sydd yn rhan o grŵp o ysgolion gydag un corff llywodraethu.

Adran 79 - Gwaharddiad ar awdurdodau lleol rhag sefydlu ysgolion yn Lloegr

88 Mae'r adran hon yn gwahardd sefydlu ysgol yn Lloegr a fyddai'n cael ei chynnal gan awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r adran hon yn ailddeddfu adran 69 o Ddeddf Addysg 2005.

Adran 80 - Hysbysiad gan gorff llywodraethu am derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol

89.Mae'r adran hon, sy'n ailddeddfu ac yn diweddaru adran 30 o Ddeddf 1998, yn galluogi corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, drwy ddilyn y weithdrefn sy'n ofynnol gan yr adran hon, i derfynu ei ysgol drwy gyflwyno hysbysiad am gyfnod o ddwy flynedd i Weinidogion Cymru a'r awdurdod lleol.

Adran 81 - Cyfarwyddyd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod ysgol arbennig gymunedol yn cael ei therfynu

90.Mae'r adran hon, sy'n ailddeddfu adran 32 o Ddeddf 1998 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod lleol i derfynu (heb yr angen am gynigion o dan adran 44) ysgol arbennig gymunedol os ystyriant ei bod yn hwylus i wneud hynny er mwyn iechyd, diogelwch neu lesiant y disgyblion. Cyn gwneud hynny, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â phersonau penodedig. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ddarparu hysbysiad i'r corff llywodraethu perthnasol a'r pennaeth.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources