Rhan 4 - Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
91.Mae Rhan 4 yn creu gofyniad statudol bod yn rhaid i awdurdodau lleol gael cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg (CSCAau) yn barod yn eu lle. Mae hwn yn disodli cynllun gwirfoddol.
Adran 84 – Llunio cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg
92.Mae'r adran hon yn nodi beth a ddylai gael ei gynnwys mewn CSCA. Mae'r adran hon yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i lunio cynllun, cadw golwg arno, a'i ddiwygio os bydd angen. Mae'r adran hon hefyd yn nodi'r personau y mae'n ofynnol i awdurdod lleol ymgynghori â hwy wrth lunio neu ddiwygio ei CSCA. Os yw awdurdod lleol wedi asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn unol ag adran 86, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried canlyniadau’r asesiad hwnnw wrth lunio neu wrth ddiwygio ei gynllun.
Adran 85 - Cymeradwyo, cyhoeddi a gweithredu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg
93.Bydd yn ofynnol i bob awdurdod lleol gyflwyno ei CSCA i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo. Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo, addasu neu wrthod CSCA (a gosod eu cynllun hwy yn ei le). Mae is-adran (7) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei CSCA a gymeradwywyd. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdod lleol cyn iddynt addasu cynllun yr awdurdod lleol neu roi cynllun arall yn ei le.
Adran 86 - Asesu'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg
94.Mae'r adran hon yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu’r galw gan rieni am addysg cyfrwng Cymraeg mewn amgylchiadau penodol. Caiff y rheoliadau hynny wneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y dylai awdurdod lleol wneud asesiad o'r galw.
Adran 87 - Rheoliadau a chanllawiau
95.Mae'r adran hon yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fydd yn gwneud darpariaethau pellach ar faterion megis ffurf a chynnwys CSCA, ei amseriad a'i barhad, cadw golwg ar CSCA ac ymgynghori arno a chyflwyno CSCA i'w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru a'i gyhoeddi. Caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth i alluogi cydgynllun gan ddau awdurdod lleol neu ragor.
96.Mae'r adran hon hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw iddynt wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 4 o’r Ddeddf hon.