Rhan 5 - Swyddogaethau Amrywiol Ysgolion
Adran 88 – Dyletswydd i ddarparu brecwast am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd
97.Mae adran 88 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu brecwast am ddim ar bob diwrnod ysgol i ddisgyblion mewn ysgol gynradd y mae'n ei chynnal os yw'r corff llywodraethu wedi gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod lleol am ddarparu brecwast a bod 90 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers i’r awdurdod gael y cais.
98.Ni fydd dyletswydd yr awdurdod lleol i ddarparu brecwast yn gymwys os yw'r corff llywodraethu wedi gofyn i'r awdurdod lleol beidio â darparu brecwast, neu fod yr awdurdod lleol yn penderfynu y byddai darparu neu barhau i ddarparu brecwast yn yr ysgol yn afresymol.
99.Mae'r adran yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu bodloni pan fydd yn gwneud trefniadau brecwast. Mae'n darparu pŵer hefyd i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu roi sylw iddynt.
Adran 89 – Darpariaeth drosiannol
100.Mae is-adran (1) o’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol sy'n cynnal ysgol gynradd, neu ei chorff llywodraethu, eisoes yn darparu brecwast i ddisgyblion ar yr adeg y daw dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 88 i rym. Yn yr amgylchiadau hynny, mae dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 88 yn gymwys mewn perthynas â'r ysgol fel petai gofynion adran 89(1) wedi eu bodloni.
101.Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys os yw corff llywodraethu ysgol gynradd a gynhelir wedi gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod lleol ddarparu brecwast yn yr ysgol cyn i ddyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 89 ddod i rym, ac ni wnaed trefniadau gan yr awdurdod lleol na'r corff llywodraethu i frecwast gael ei ddarparu ar gyfer disgyblion yn yr ysgol. Yn yr amgylchiadau hynny, mae'r cais a wnaed gan y corff llywodraethu i gael ei drin fel petai wedi cael ei wneud ar y diwrnod y daeth dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 88 i rym.
Adran 91 – Diwygio'r pŵer i godi tâl am brydau bwyd ysgol etc.
102.Mae'r adran hon yn diwygio adrannau 512ZA (pŵer i godi tâl am brydau bwyd etc) a 533 (swyddogaethau cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd ysgol etc) o Ddeddf Addysg 1996.
103.Mae is-adrannau (2)(b) a (3)(b) yn diddymu'r gofyniad bod yn rhaid i unrhyw dâl a godir am ddarparu llaeth, prydau bwyd a lluniaeth arall mewn ysgol fod yr un fath ar gyfer pob person am yr un nifer o'r un eitem. Bydd diddymu'r gofyniad hwn yn rhoi'r dewis i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu godi pris gwahanol am yr un nifer o'r un eitem.
104.Bydd codi prisiau hyblyg er enghraifft yn galluogi awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i godi llai am brydau bwyd ysgol a ddarperir i blant teuluoedd ar incwm isel nad ydynt yn gymwys i gael prydau bwyd ysgol am ddim er mwyn eu hannog i gymryd prydau bwyd ysgol. Mae codi prisiau hyblyg yn ddewisol ac yn ddarostyngedig i amgylchiadau lleol. Ni fydd y newid hwn yn cael effaith ar ddarparu prydau bwyd ysgol am ddim (na llaeth am ddim) i ddisgyblion cymwys.
105.Effaith y diwygiadau a wnaed gan is-adrannau (2)(a) a (3)(a) yw bod awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn cael eu hatal rhag codi mwy na chost darparu llaeth, prydau bwyd neu luniaeth arall i ddisgyblion. Ar hyn o bryd, nid oes uchafswm ar faint y gall ysgol godi ar ddisgybl. Ni fydd hyn yn cael effaith ar y ddarpariaeth o brydau bwyd ysgol am ddim (na llaeth am ddim) i ddisgyblion cymwys.
Adran 92 – Gwasanaethau cwnsela annibynnol ar gyfer disgyblion ysgol a phlant eraill
106.Mae adran 92 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud darpariaeth resymol am wasanaeth cwnsela annibynnol mewn cysylltiad ag anghenion iechyd, anghenion emosiynol ac anghenion cymdeithasol ar gyfer categorïau penodedig o bersonau. Mae’r adran hon yn nodi’r gofynion y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu bodloni wrth iddo wneud trefniadau cwnsela.
107.Mae hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau cwnsela mewn mannau a bennir yn y rheoliadau.
Adran 93 – Gwybodaeth am wasanaethau cwnsela annibynnol eraill
108.Mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i gael gwybodaeth gan awdurdod lleol ynghylch ei wasanaeth cwnsela annibynnol. Mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru drwy ddarparu a chrynhoi gwybodaeth ynglŷn â’r gwasanaeth cwnsela. Mae is-adran (3) yn atal datgelu pwy yw unigolyn dynodedig ac mae is-adran (4) yn nodi’r sefyllfa pan nad yr awdurdod lleol yw’r person sy’n darparu’r gwasanaeth cwnsela.
Adran 94 – Dyletswydd corff llywodraethu ysgol a gynhelir i gynnal cyfarfodydd yn dilyn deiseb gan rieni
109.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i gorff llywodraethu gynnal cyfarfod os bodlonir y pedwar amod isod -
mae wedi cael deiseb yn gofyn am gyfarfod gan ba un bynnag o’r canlynol yw’r nifer isaf:
rhieni 10% o’r disgyblion cofrestredig, neu;
rhieni 30 o ddisgyblion cofrestredig;
diben y cyfarfod yw trafod mater sy’n ymwneud â’r ysgol;
ni fydd mwy na thri chyfarfod o’r fath mewn blwyddyn ysgol; a
mae digon o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol er mwyn cynnal y cyfarfod.
110.Ar ôl cael cais rhaid i'r corff llywodraethu hysbysu rhieni’r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol am ddyddiad a diben y cyfarfod a rhaid iddo gynnal y cyfarfod o fewn 25 o ddiwrnodau (fel y cânt eu cyfrifo yn unol ag is-adran (9) a (10)) ar ôl cael y ddeiseb.
111.Rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ar sut y mae i gyflawni ei ddyletswydd yn yr adran hon.
Adran 95 – Diddymu dyletswydd i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni
112.O ganlyniad i’r ddarpariaeth ar gyfarfodydd rhieni yn adran 94, mae'r adran hon yn diddymu adran 33 o Ddeddf Addysg 2002, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gynnal cyfarfod blynyddol rhieni (ac felly bydd Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005 a wnaed o dan y pŵer hwnnw yn dirwyn i ben).