Rhan 6 - Cyffredinol
Adran 97 – Gorchmynion a rheoliadau
113.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r rheoliadau a'r gorchmynion o dan y Ddeddf gael eu gwneud drwy offeryn statudol ac mae'n darparu gweithdrefn Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â’r offerynnau hyn.
Adran 98 – Dehongli’n gyffredinol a mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio
114.Mae adran 98 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Ddeddf a hefyd mae'n cynnwys mynegai o dermau sydd wedi eu diffinio at ddiben rhai darpariaethau yn y Ddeddf. Mae is-adran (1) yn darparu bod y Ddeddf i'w darllen fel petai’n un â Deddf Addysg 1996. Mae hyn yn golygu bod y darpariaethau cyffredinol a'r diffiniadau cyffredinol yn y Ddeddf honno yn gymwys hefyd i'r Ddeddf hon. Er enghraifft, mae'r diffiniad o “education functions” awdurdod lleol yn Neddf Addysg 1996 yn cyfeirio at y swyddogaethau a nodir yn Atodlen 36A i'r Ddeddf honno. Mae'r term “swyddogaethau addysg” pan y'i defnyddir yn y Ddeddf hon, yn golygu'r un peth ag “education functions” yn Neddf 1996. Os oes gwahaniaeth mewn ystyr rhwng term a ddefnyddir yn y Ddeddf hon a therm yn Neddf Addysg 1996, mae'r ystyr a roddir at ddibenion y Ddeddf hon yn gymwys iddo.
Adran 99 ac Atodlen 5 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
115.Mae adran 99 yn rhoi effaith i Atodlen 5, sy'n cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol o ganlyniad i'r darpariaethau yn Rhannau 2, 3 a 5 o’r Ddeddf hon.
116.Ymhlith pethau eraill mae'n diwygio Mesur Byrddau Addysg Esgobaethol 1991. Mesur Eglwys Loegr yw hwn. Tra bo Cymru gyfan, bron, o fewn ffiniau'r Eglwys yng Nghymru, mae ambell blwyf ym Mhowys yn ffurfio rhan o esgobaeth sydd o fewn Eglwys Loegr.
117.Gallai diwygiadau i Fesur Eglwys Loegr fod wedi cael eu gwneud gan y Ddeddf hon, gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan Ddeddf Seneddol y DU neu gan Fesur Eglwys Loegr. Ceisiodd Llywodraeth Cymru farn Eglwys Loegr ar y mater hwn a sicrhau bod yr Ysgrifennydd Cyffredinol i Gyngor yr Archesgobion yn cytuno i'r diwygiadau sydd i’w gwneud gan y Ddeddf hon.
Adran 100 – Cychwyn
118.Mae'r adran hon yn darparu bod adrannau 1 (trosolwg ar y Ddeddf hon), 100 (cychwyn) a 101 (enw byr y Ddeddf hon a'i chynnwys yn un o'r Deddfau Addysg) yn dod i rym drannoeth y diwrnod y ceir y Cydsyniad Brenhinol.
119.Mae adrannau 88 i 90 (brecwast am ddim) ac adrannau 92 a 93 (cwnsela mewn ysgolion) yn dod i rym ar 1 Ebrill 2013.
120.Mae Pennod 3 (canllawiau gwella ysgolion) o Ran 2, adran 91 (diwygio'r pŵer i godi tâl am brydau bwyd ysgol etc) a pharagraffau 31, 34(1) a (3), 35 a 36 o Ran 3 o Atodlen 5 (diwygiadau o ganlyniad i adran 91) (ac adran 99 mewn perthynas â'r paragraffau hynny), ac adrannau 94 a 95 (cyfarfodydd rhieni) a pharagraff 33 o Ran 3 o Atodlen 5 (diwygiadau o ganlyniad i adrannau 94 a 95) yn dod i rym ddau fis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol.
121.Daw gweddill y Ddeddf i rym yn unol ag un neu ragor o orchmynion cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
Adran 101 – Enw byr y Ddeddf hon a’i chynnwys yn un o’r Deddfau Addysg
122.Mae’r adran hon yn sefydlu enw’r Ddeddf fel Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Mae hefyd yn darparu bod y Ddeddf i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw gyfeiriadau mewn unrhyw ddeddfwriaeth at “y Deddfau Addysg” yn cynnwys y Ddeddf hon.