Search Legislation

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Rhan 1: Archwilydd Cyffredinol Cymru

Adran 2 - Swyddfa Archwilydd Cyffredinol Cymru

5.Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer parhau swydd ACC. Ar hyn o bryd, mae swydd ACC wedi ei sefydlu o dan Atodlen 8 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Effaith y cyfeiriad at barhau swydd ACC yw nad oes toriad ym mharhad y swydd honno nac ym mharhad arfer swyddogaethau'r swydd honno. O dan adran 2(2) Ei Mawrhydi sydd i benodi unigolyn i ddal y swydd honno ar enwebiad y Cynulliad. Bydd penodiad i'r swydd am gyfnod o wyth mlynedd ar y mwyaf; dim ond unwaith y caiff person ddal swydd ACC.

6.Cyn gwneud enwebiad i’w Mawrhydi ynghylch y person a ddylai gael ei benodi yn ACC, rhaid i'r Cynulliad gael ei fodloni bod ymgynghoriad rhesymol wedi ei gynnal gyda'r cyrff hynny sy'n cynrychioli buddiannau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

Adran 3 – Ymddiswyddiad neu ddiswyddiad

7.Mae ACC yn dal y swydd tan ddiwedd y cyfnod y’i penodwyd ar ei gyfer (caiff hynny fod am hyd at wyth mlynedd ar ôl y penodiad, gweler adran 2) oni fydd ACC:

  • yn cael ei ryddhau o’i swydd gan Ei Mawrhydi ar gais ACC ei hunan

  • yn cael ei ryddhau o’i swydd oherwydd bod Ei Mawrhydi bellach wedi ei bodloni bod ACC, am resymau meddygol, yn analluog i gyflawni ei ddyletswyddau a’i fod hefyd yn analluog, am y rhesymau hynny, i ofyn am ei ryddhau o’i swydd;

  • yn cael ei ddiswyddo gan Ei Mawrhydi oherwydd camymddwyn.

8.Dim ond ar argymhelliad y Cynulliad y caniateir diswyddo person ar sail camymddwyn. Ni cheir gwneud argymhelliad o’r fath oni fydd o leiaf ddwy ran o dair o holl Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid gweithredu felly.

Adran 4 - Anghymhwyso

9.Mae'r adran hon yn nodi'r seiliau a fyddai yn anghymhwyso person rhag bod yn ACC. Mae'r seiliau yn ymwneud â bod yn aelod o ddeddfwrfa o fewn y Deyrnas Unedig, yn gyflogai i SAC, neu’n ddeiliad unrhyw swydd neu benodiad arall gan y Goron, y Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad.

Adran 5 - Cyflogaeth etc cyn-Archwilydd Cyffredinol

10.Mae'r adran hon yn rhagnodi'r cyfyngiadau ynghylch cyflogaeth, dal swydd neu ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol, a fydd yn gymwys i bersonau a benodwyd yn ACCau o dan y Ddeddf hon ond nad ydynt bellach yn dal y swydd honno. Bydd y cyfyngiadau'n gymwys am gyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae'r person yn peidio â dal y swydd. Y bwriad yw osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau neu ganfyddiad o wrthdaro o'r fath pan fo person yn ACC - e.e. er mwyn osgoi sefyllfa lle y mae ACC, a’i gyfnod yn y swydd ar fin dirwyn i ben, yn cyflawni ei swyddogaethau'n drugarog mewn perthynas â chorff y gallai gael ei benodi iddo wedi i'w swydd fel ACC ddod i ben.

Adran 7 - Tâl cydnabyddiaeth

11.Mae'n ofynnol i'r Cynulliad wneud trefniadau i dalu tâl cydnabyddiaeth ar gyfer ACC a benodwyd o dan y Ddeddf hon (cyn penodi ACC), a chaiff y trefniadau hynny gynnwys cyflog, lwfansau, arian rhodd, trefniadau ar gyfer pensiwn a buddion eraill. Ym mhob achos ni chaiff y trefniadau hyn (nac elfennau ohonynt) fod ar sail perfformiad.

12.Wrth benderfynu ar y trefniadau, mae'n ofynnol i'r Cynulliad ymgynghori â'r Prif Weinidog.

13.Bydd symiau sy'n daladwy yn cael eu codi ar CGC, ac mae hyn yn golygu y bydd taliad yn dod yn uniongyrchol o'r Gronfa honno yn hytrach nag o'r arian y pleidleisir arno gan y Cynulliad yn flynyddol. Mae hyn wedi ei lunio i warchod annibyniaeth ACC ymhellach.

14.Noder hefyd baragraff 13 o Atodlen 1 i'r Ddeddf, a pharagraff 1 o Atodlen 3 iddi – gweler isod.

Adran 8 - Sut y mae swyddogaethau i gael eu harfer

15.Mae'r adran hon yn cynnal ac yn cynyddu annibyniaeth ACC wrth iddo arfer ei swyddogaethau – nid yw swyddogaethau'r swydd yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth y Cynulliad na Llywodraeth Cymru, ac mae darpariaeth newydd i’w gwneud yn glir bod gan ACC ddisgresiwn llwyr yn y modd y mae yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag archwilio.

16.Er hynny, mae hyn yn ddarostyngedig i'r canlynol. Rhaid i ACC anelu at gyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol ac mewn dull cost-effeithiol. Rhaid i ACC hefyd roi ystyriaeth i’r safonau a’r egwyddorion ymarfer proffesiynol mewn perthynas ag archwilio a chyfrifyddiaeth. Rhaid i ACC roi ystyriaeth i gyngor a ddarperir gan SAC, ac ar yr amod bod ACC yn ystyried y cyngor hwnnw mae gan ACC ddisgresiwn llwyr wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas ag archwilio.

Adran 9 - Pwerau atodol

17.Mae’r adran hon yn darparu pŵer cyffredinol i ACC wneud unrhyw beth a fwriedir i hwyluso arfer unrhyw un o’i swyddogaethau, neu sy’n gysylltiedig â’u harfer neu’n gydnaws â’u harfer. Nid yw'r pŵer cyffredinol hwn yn ymestyn, fodd bynnag i swyddogaethau sydd, neu a allai ddod, yn gyfrifoldeb i SAC o dan y Ddeddf hon.

Adran 10 - Cod ymarfer archwilio

18.Rhaid i ACC ddyroddi cod ymarfer yn ymgorffori'r arfer proffesiynol gorau sydd i'w fabwysiadu wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau —

  • ynglŷn ag ymchwilio i unrhyw gyfrifon (gan gynnwys cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru) neu ddatganiadau o gyfrifon yn unol ag unrhyw ddeddfiad;

  • ynglŷn â chynnal neu hybu astudiaethau neu ymchwiliadau gwerth am arian; ac

  • fel y darperir mewn amryw ddarpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ac Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

19.Wrth baratoi'r Cod, rhaid i ACC ymgynghori â’r personau hynny yr ymddengys iddo ei bod yn briodol ymgynghori â hwy. Pan fo'r Cod wedi ei wneud a'i gyhoeddi, rhaid i ACC gydymffurfio ag ef.

Adran 11 – Archwilio cyrff llywodraeth leol

20.Mae hyn yn darparu mai ACC fydd archwilydd statudol cyfrifon yr holl gyrff llywodraeth leol yng Nghymru. Dylid darllen adran 11 ar y cyd â pharagraff 2 o Atodlen 3 i'r Ddeddf – gweler isod.

21.Ar hyn o bryd, nid oes pŵer gan ACC i archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol. Yn hytrach, penodir archwilwyr gan ACC i gynnal yr archwiliadau hynny. Gan fod swyddogaethau eraill gan ACC mewn perthynas â chyrff llywodraeth leol (er enghraifft mewn perthynas â gwerth am arian) a’i fod yn gyfrifol am archwilio Llywodraeth Cymru a chyrff GIG Cymru, a chan ystyried byrdwn cynigion eraill yn y Ddeddf, bernir ei bod yn briodol breinio’r pŵer i archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn ACC.

22.Mae adran 16 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn darparu bod ‘rheoleiddwyr perthnasol’ yn cynnwys archwilydd a benodir o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Oherwydd y diwygiadau a wnaed gan adran 11(1) o'r Ddeddf hon, mae'n ofynnol gwneud diwygiad canlyniadol i Fesur 2009 gan na fydd archwilwyr yn cael eu penodi gan ACC yn y cyd-destun hwnnw mwyach. Cyflawnir hyn gan adran 11(2) o'r Ddeddf.

Adran 12 - Trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru: ymgynghori

23.Mae adran 16 o Fesur Dan adran 146A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 caniateir i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, drosglwyddo swyddogaethau penodol i ACC, neu i ACC arfer swyddogaethau penodol ar eu rhan. Ni chaniateir trosglwyddo neu arfer swyddogaethau o’r fath ac eithrio gyda chydsyniad ACC.

24.Mae adran 12 o'r Ddeddf yn diwygio adran 146A o Ddeddf 1998 i’w gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â SAC cyn gwneud gorchymyn o'r fath. Nid oes newid yn y gofyniad bod ACC yn cydsynio i'r trosglwyddiad neu i arfer y swyddogaethau hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources