Adrannau 23 a 24 – yn ymwneud â ffioedd
39.Mae adran 23 yn galluogi SAC i godi ffioedd am archwiliadau a swyddogaethau mewn perthynas ag archwiliadau a gyflawnir gan ACC ac unrhyw wasanaethau a ddarperir gan ACC, a hynny yn unol â chynllun ar gyfer codi ffioedd a ddarperir gan SAC. Ni chaniateir i’r ffioedd a godir fod yn fwy na chost lawn darparu’r gwasanaethau dan sylw, ac y mae’r ffioedd yn daladwy i SAC.
40.O dan adran 24, rhaid i gynllun SAC nodi’r deddfiadau sy’n ei galluogi i godi ffi yn unol ag unrhyw swm penodedig neu raddfa ffioedd benodedig, yn ôl y digwydd. Ond os nad yw deddfiad yn gwneud darpariaeth ar gyfer swm neu raddfa, rhaid i SAC nodi ei sail ar gyfer cyfrifo’r ffi. Mae’r adran hon hefyd yn darparu ar gyfer rhagnodi rhai graddfeydd ffioedd gan Weinidogion Cymru, ac os gwnânt hynny, bydd rhaid i SAC gydymffurfio â’r graddfeydd a ragnodir. Rhaid i SAC adolygu ei chynllun o leiaf unwaith bob blwyddyn galendr a gosod ei chynllun (ac unrhyw ddiwygiad ohono) gerbron y Cynulliad ar gyfer ei gymeradwyo. Bydd y cynllun yn cael effaith pan gymeradwyir ef gan y Cynulliad; ac yn dilyn hynny, rhaid i SAC gyhoeddi’r cynllun.