Adran 18 - Dirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a’u harfer ar y cyd
29.Mae adran 18 yn galluogi i swyddogaethau ACC gael eu cyflawni gan gyflogai i SAC neu berson sy'n darparu gwasanaethau i SAC (er enghraifft, y rheini sydd wedi eu contractio i ddarparu gwasanaethau cefnogi archwilio i ACC), ar yr amod fod y cyflogai neu'r person wedi ei awdurdodi i wneud hynny mewn cynllun dirprwyo, ac yn cytuno i gydymffurfio â chod ymarfer archwilio ACC (gweler adran 10(1)). Caiff cynllun dirprwyo ei baratoi gan ACC, a bydd yn disgrifio amodau’r cynllun hwnnw. Pan fo swyddogaethau yn cael eu cyflawni o dan y cynllun dirprwyo mae'r cyfrifoldeb am y swyddogaeth yn aros gydag ACC.
30.Rhaid i'r cynllun dirprwyo gael ei baratoi gan ACC (a neb arall), a rhaid iddo ymgynghori gyda SAC wrth baratoi neu ddiwygio’r cynllun hwnnw.