Paragraff 14 i 16 – Penodi aelodau sy’n gyflogeion
68.Rhaid i’r aelodau sy’n gyflogeion gynnwys:
un person y mae’n rhaid i ACC ei argymell ar gyfer ei benodi yn un o aelodau anweithredol SAC – sef yr aelod penodedig. Rhaid i’r aelodau anweithredol wedyn naill ai benodi’r person hwnnw neu ei gwneud yn ofynnol bod ACC yn argymell person arall, ac felly ymlaen, hyd nes penodir rhywun; a
dau berson a etholir drwy bleidlais gan staff SAC – sef yr aelodau etholedig.