Atodlen 3 – Darpariaethau Trosiannol, Atodol Ac Arbed
Paragraff 1 – Yr Archwilydd Cyffredinol blaenorol i barhau yn Archwilydd Cyffredinol
93.Golyga paragraff 1 fod person, os yw’n dal swydd ACC ar y 'diwrnod penodedig', i'w drin ar y diwrnod hwnnw ac wedi hynny fel pe bai wedi cael ei benodi o dan Ran 1 o’r Ddeddf. Bydd hyn yn sicrhau parhad rhwng y gyfundrefn statudol sydd eisoes yn bodoli a'r gyfundrefn statudol newydd o dan y Ddeddf hon o ran ACC.
94.Diffinnir y term ‘diwrnod penodedig’ ym mharagraff 1(5), a'i ystyr yw'r diwrnod y daw'r paragraff hwn i rym.
95.Mae paragraff 1(2)(b) yn darparu mai cyfnod swydd ACC, os ydyw yn y swydd ar y diwrnod penodedig, fydd wyth mlynedd namyn unrhyw gyfnod o amser y bu’n ACC cyn y diwrnod penodedig. Canlyniad hyn yw y caiff y person hwnnw, os mai ef neu hi yw’r ACC cyn y diwrnod penodedig ac os yw’n parhau i ddal y swydd honno ar y diwrnod penodedig, ei drin yn ACC fel pe bai wedi ei benodi o dan y Ddeddf hon. Os yw cyfnod swydd person yn gyfnod o wyth mlynedd (fel y mae’r Ddeddf yn ei ddarparu) ond ei fod eisoes wedi gwasanaethu am ddwy flynedd yn y swydd, yna bydd cyfnod y person hwnnw yn ACC yn cael ei leihau ar y diwrnod penodedig i gyfnod o chwe mlynedd.
96.Mae paragraff 1(3) yn darparu, yn yr achos hwn, fod trefniadau talu cydnabyddiaeth o dan adran 7 o'r Ddeddf i'w gwneud gan y Cynulliad (ar ôl ymgynghori â'r Prif Weinidog). Rhaid gwneud hyn cyn y diwrnod penodedig. Bydd hyn yn sicrhau bod y person sy'n dal swydd ACC yn ei dal ar y telerau a’r amodau a bennir yn unol â darpariaethau'r Ddeddf hon, gan gynnwys telerau yn ymwneud â thalu cydnabyddiaeth.
Paragraff 2 – Arbedion ar gyfer archwilwyr a benodwyd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
97.Mae'r paragraff hwn yn darparu y bydd penodiad ynghylch archwilydd cyrff llywodraeth leol yng Nghymru, a wneir gan ACC (yn unol â'r adran 13 bresennol o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004), yn parhau tan ddiwedd y cyfnod penodi, yn hytrach na'i fod yn dod i ben pan ddaw darpariaethau perthnasol y Ddeddf i rym. Hefyd cedwir effaith weithredol y penodiad, gan gynnwys y cynllun ar gyfer ffioedd y caniateir eu codi, a chasglu a dal gwybodaeth berthnasol; mae hyn yn sicrhau y gall y gwaith sy'n cael ei wneud gan yr archwilwyr a benodwyd gan ACC barhau o dan ddarpariaethau presennol Deddf 2004, o fewn y telerau eu penodiad.
Paragraff 4 – Rheolau gweithdrefnol SAC cyn i reolau gael eu gwneud o dan baragraff 27 o Atodlen 1
98.Mae'r rheolau gweithdrefnol ffurfiol cyntaf i gael eu gwneud gan SAC (o dan baragraff 27 o Atodlen 1 i'r Ddeddf hon). Cyn i'r rheolau hynny gael eu gwneud ni fydd rheolau yn eu lle i lywodraethu trefn busnes SAC. Oherwydd hyn, mae'r paragraff hwn yn darparu y bydd busnes (gan gynnwys gwneud y set gyntaf o reolau) yn cael ei gynnal yn unol â'r gweithdrefnau a bennir gan Gadeirydd SAC. Cyn gynted ag y bydd y rheolau gweithdrefnol ffurfiol cyntaf wedi eu gwneud bydd y busnes SAC wedyn yn cael ei gynnal yn unol â'r rheolau hynny.
Paragraff 5 – Trosglwyddo staff
99.Oherwydd y bydd y Ddeddf yn trosglwyddo cyfrifoldebau am gyflogi staff oddi wrth yr ACC presennol i'r SAC newydd, mae paragraff 5 yn rhoi effaith i drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau cyflogaeth y staff hynny.
Paragraff 6 – Amrywiadau mewn contractau cyflogaeth
100.Mae’r paragraff hwn yn rhwystro contractau cyflogaeth cyflogeion ACC, y trosglwyddwyd eu cyflogaeth i SAC, rhag cael eu newid os yr unig reswm, neu’r prif reswm, dros y newid yw’r trosglwyddiad neu reswm sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddiad ac nad yw’n rheswm economaidd, technegol na threfniadol sy’n ysgogi newidiadau yn y gweithlu.
Paragraffau 7 ac 8 – Cydgytundebau a chydnabod undebau llafur
101.Mae paragraff 7 yn darparu ar gyfer trosglwyddo cytundebau a wnaed ar y cyd rhwng undeb lafur gydnabyddedig ac ACC, ynghylch unrhyw gyflogai y trosglwyddir ei gyflogaeth o ACC i SAC. Mae paragraff 8 yn darparu ar gyfer parhau’r gydnabyddiaeth o unrhyw undeb llafur annibynnol a gydnabyddid gan ACC cyn y trosglwyddiad. Mae’r paragraffau hyn yn sicrhau bod cydgytundebau a chydnabyddiaeth o undebau llafur yn parhau, fel petaent wedi eu gwneud a’u cydnabod gan SAC.
Paragraff 9 – Diswyddo mewn perthynas â throsglwyddo
102.Mae’r paragraff hwn yn diogelu cyflogeion i ACC, y trosglwyddwyd eu cyflogaeth i SAC, rhag cael eu diswyddo’n annheg, os yr unig reswm, neu’r prif reswm, dros y diswyddo yw’r trosglwyddiad, neu reswm sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddiad ac nad yw’n rheswm economaidd, technegol neu drefniadol sy’n ysgogi newidiadau yn y gweithlu. Mae’n darparu hefyd y trinnir y diswyddiad, os diswyddir cyflogai am resymau o’r fath, fel pe bai’n ddiswyddiad oherwydd dileu swydd.
Paragraffau 10 ac 11 – Trosglwyddo eiddo arall a hawliau a rhwymedigaethau eraill
103.Mae paragraffau 10 ac 11 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau oddi wrth yr ACC presennol i'r SAC newydd. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith y caiff swyddogaethau penodol ACC eu trosglwyddo i'r SAC newydd.
Paragraff 12 – Atebolrwydd troseddol yr Archwilydd Cyffredinol
104.Mewn cysylltiad â pharagraff 7 o’r Atodlen hon (yn ymwneud â throsglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sydd wedi eu trosglwyddo i SAC), mae paragraff 12 yn darparu ar gyfer trosglwyddo o ACC i SAC unrhyw atebolrwydd troseddol a all fod gan ACC mewn cysylltiad â'r eiddo, yr hawliau neu'r rhwymedigaethau hynny.
Paragraff 13 – Indemnio
105.Mae paragraff 13(1) yn gwneud darpariaeth i gymhwyso adran 29 i rwymedigaethau a oedd yn codi cyn y daeth adran 29 i rym, neu’n codi mewn perthynas â gweithred neu anweithred a ddigwyddodd cyn y daeth adran 29 i rym. Mae adran 29 yn darparu bod unrhyw swm, sy’n daladwy gan berson a indemnir o ganlyniad i rwymedigaeth am dordyletswydd, yn cael ei godi ar CGC a’i dalu ohoni.
106.Mae paragraff 13(2) a (3) yn gwneud darpariaeth i’r perwyl, os byddai swm wedi bod yn daladwy gan Archwilydd Cyffredinol blaenorol o dan baragraff 9(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y byddai’r paragraff hwnnw yn parhau i gael effaith fel pe na bai’r diddymiad (Atodlen 4, paragraff 79(2)) wedi dod i rym