Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Rhan 1 – Rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol

3.Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn ymwneud â rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol. Mae’n darparu ar gyfer proses ailadroddol newydd lle bydd Gweinidogion Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a chyrff cyhoeddus eraill yn cyfrannu at gyflawni rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

4.Mae’r Rhan hon yn diffinio adnoddau naturiol, rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol ac egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

5.Mae Rhan 1 yn rhoi swyddogaethau i Weinidogion Cymru ac CNC er mwyn cynorthwyo i gyflawni rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru lunio polisi adnoddau naturiol cenedlaethol ac mae’n ofynnol i CNC lunio adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol a datganiadau ardal. Mae’r Rhan hon yn pennu’r broses a’r amserlen ar gyfer cynhyrchu’r dogfennau hyn ac yn rhoi’r swyddogaeth i gyrff cyhoeddus (a ddiffinnir yn y Ddeddf) o ddarparu cymorth a/neu wybodaeth y mae CNC yn gofyn amdani er mwyn cynhyrchu’r dogfennau hyn. Mae’r Rhan hon hefyd yn rhoi’r swyddogaeth o weithredu’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol i Weinidogion Cymru a’r swyddogaeth o weithredu datganiad ardal i CNC.

6.Mae’r Rhan hon yn rhoi erthygl 4 newydd yn lle erthygl 4 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012, sy’n rhoi diben cyffredinol newydd i CNC o ymgyrraedd at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol. Mae’r Rhan hon hefyd yn disodli swyddogaethau CNC mewn perthynas ag ymrwymo i gytundebau rheoli yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Deddf Cefn Gwlad 1968. Mae’r Rhan hon hefyd yn disodli swyddogaethau CNC yn Neddf 1968 mewn perthynas â chynlluniau arbrofol. Mae Rhan 1 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru, yn dilyn cais gan CNC, wneud rheoliadau i ganiatáu atal dros dro ofynion deddfwriaethol, i raddau cyfyngedig, er mwyn hwyluso cynllun arbrofol sy’n debygol o gyfrannu at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

7.Mae Rhan 1 yn rhoi adran newydd yn lle adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 ar gyfer awdurdodau cyhoeddus sydd â swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac yn rhoi adran newydd yn lle adran 42 o’r Ddeddf honno mewn perthynas â’r ddyletswydd sydd ar Weinidogion Cymru i baratoi rhestr o’r organeddau byw a’r cynefinoedd sy’n bwysig ar gyfer bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau cyhoeddus hyn, wrth arfer eu swyddogaethau yn briodol, geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth ac, wrth wneud hynny, hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau.

Adran 1 – Diben

8.Mae’r adran hon yn egluro mai diben y Rhan hon yw hyrwyddo rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

Adran 2 – Adnoddau naturiol

9.Mae adran 2 yn diffinio adnoddau naturiol at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf.

10.Mae’r diffiniad yn cwmpasu’r holl organeddau byw (biotig) ac eithrio pobl, a’r rhannau a’r deunyddiau anfyw (anfiotig) sy’n ffurfio’r amgylchedd naturiol.

11.Nid yw’r diffiniad wedi ei gyfyngu i adnoddau naturiol daearol; mae hefyd yn cynnwys adnoddau naturiol arfordirol a morol.

12.Mae’r diffiniad yn rhestru enghreifftiau o rannau o’r amgylchedd naturiol ac mae’n cynnwys, er enghraifft, adnoddau biolegol a daearegol, cyfryngau amgylcheddol (aer, dŵr a phridd) yn ogystal ag adnoddau llif (megis y llanw, y gwynt a’r haul).

Adran 3 –Rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol

13.Mae’r adran hon yn diffinio “rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf. Mae adran 4 yn disgrifio sut y dylid cyflawni rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol, drwy ddilyn egwyddorion rheoli cynaliadwy.

14.Mae is-adran (1)(a) yn darparu bod rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol yn ymwneud â defnyddio (neu beidio â defnyddio) adnoddau naturiol (fel y’u diffinnir yn adran 2) i hyrwyddo amcan is-adran (2).

15.Mae is-adran (1)(b) ac (c) yn egluro bod rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol hefyd yn ymwneud â gweithredu, neu beidio â gweithredu, mewn ffordd sy’n hyrwyddo neu’n llesteirio cyflawni’r amcan yn is-adran (2).

16.Mae is-adran (2) yn darparu mai amcan rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol yw cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau, a’u manteision. Mae ecosystem gydnerth yn iach ac yn gweithredu mewn ffordd sy’n gallu ymdopi ag aflonyddwch a darparu manteision dros y tymor hir. Disgrifir prif nodweddion ecosystem gydnerth yn adran 4(i).

17.Mae cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau a’r manteision a gynigir ganddynt, megis darparu bwyd a ffeibr, yn helpu i ddiwallu anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cyfredol, a rhai’r dyfodol, ac yn cyfrannu at gyflawni pob un o’r saith nod llesiant o dan adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

18.Y “manteision”, neu’r gwasanaethau, a ddarperir gan ecosystemau yw’r manteision pendant ac annirnad a geir o ecosystemau ac adnoddau naturiol, sy’n cynnwys:

  • Gwasanaethau cefnogi, megis cylchdroi maetholion, cynhyrchu ocsigen a ffurfio pridd. Dyma’r gwasanaethau sydd eu hangen er mwyn cynhyrchu pob gwasanaeth arall;

  • Gwasanaethau darparu nwyddau, megis bwyd, ffeibr, tanwydd a dŵr. Dyma’r cynhyrchion a geir o ecosystemau;

  • Gwasanaethau rheoli, megis rheoli’r hinsawdd, puro dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd. Dyma’r manteision a geir o reoli prosesau ecosystemau; a

  • Gwasanaethau diwylliannol, megis addysg, hamdden, a manteision esthetaidd. Dyma’r manteision y mae pobl yn eu cael o ecosystemau, nad ydynt yn rhai materol.

19.Enghraifft o reoli’r defnydd o adnoddau, yn is-adran (1), yw rheoli faint o ddŵr sy’n cael ei dynnu o afon, pa mor aml y gwneir hynny, ac o ba leoliad. Er mwyn bodloni’r amcan yn is-adran (2) ni chaniateir tynnu dŵr ar raddfa gyflymach nag y gellir ei ailgyflenwi nac mewn ffordd a fydd yn cael effaith andwyol ar yr ecosystem ehangach a’r manteision eraill i’r ecosystem y mae’r afon yn eu darparu. Asesir i ba raddau y mae dŵr ar gael nid yn unig ar sail yr effaith yn y tymor byr, ond hefyd yn y tymor hir, ac ar sail gallu’r ecosystem i ddarparu manteision i genedlaethau’r dyfodol.

20.Un enghraifft lle gallai is-adrannau (1)(b) ac (c) fodloni’r amcan yn is-adran (2) fyddai drwy reoli effaith gweithgareddau cynhyrchu ar iechyd ecosystemau a’r ffordd y maent yn gweithredu. Gall defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu, er enghraifft, helpu i leihau’r gyfradd y defnyddir adnoddau naturiol mewn gweithgareddau cynhyrchu, ond gallai’r gweithgaredd hwnnw hefyd gynnwys allyrru llygryddion i’r amgylchedd dyfrol neu i’r aer, a thrwy hynny gael effaith negyddol ar iechyd ein hecosystemau. Mae rheoli cynaliadwy yn cynnwys gweithredu (neu beidio â gweithredu) i leihau effeithiau negyddol posibl yn sgil gweithgareddau, er mwyn cynnal a gwella ecosystemau cydnerth.

Adran 4 – Egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol

21.Mae adran 4 yn sefydlu’r egwyddorion sy’n pennu sut yr eir ati i reoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy. Mae’r egwyddorion yn ategu ei gilydd ac yn cysylltu â’i gilydd, ac nid ydynt wedi’u rhestru yn ôl trefn blaenoriaeth.

22.Mae paragraff (a) yn darparu ar gyfer addasu i amgylchiadau wrth wneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu gwybodaeth newydd a cheisio lleihau unrhyw ansicrwydd, gan ganiatáu i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ragweld newid a darparu ar ei gyfer.

23.Mae’n ofynnol ystyried y raddfa ofodol yn ôl paragraff (b). Mae hyn yn cynnwys ystyried y lefel ofodol leol, ranbarthol neu genedlaethol briodol er mwyn ymateb i faterion neu ddarparu cyfleoedd. Er enghraifft, mae’r cysylltiadau rhwng dŵr daear, dŵr wyneb a glawiad o fewn dalgylch afon yn golygu y gall effeithiau ar unrhyw un ohonynt effeithio ar brosesau hydrolegol yn y dalgylch a’r manteision sy’n gysylltiedig â’r prosesau hyn, fel darparu dŵr glân.

24.Mae’n ofynnol gweithio â sectorau priodol o gymdeithas yn ôl paragraffau (c), (d) ac (e). Dylid gwneud penderfyniadau gan ystyried y dystiolaeth a’r wybodaeth a gasglwyd gan randdeiliaid perthnasol a chan wahanol sectorau o gymdeithas, gan gynnwys, er enghraifft, gymunedau lleol a’r cyhoedd. Nid dim ond cyfeiriad at dystiolaeth wyddonol yw’r term “tystiolaeth” yn y cyd-destun hwn, ac mae’n cynnwys gwybodaeth leol yn ogystal â data empirig a thystiolaeth wyddonol.

25.Yn ôl paragraff (f) mae’n ofynnol nodi ac ystyried y manteision a ddarperir gan ein hadnoddau naturiol a’n ecosystemau, yn ogystal â gwerth cynhenid yr ecosystemau a’r adnoddau hynny, sef gwerth adnoddau naturiol ac ecosystemau er eu mwyn eu hunain. Dylid ystyried pob mantais (neu wasanaeth) o ran darparu nwyddau, cefnogi, rheoli a diwylliant, fel y bo’n briodol. Rhoddir gwybodaeth am fanteision ym mharagraff 18. Er enghraifft, wrth reoli coedwigoedd, yn ogystal ag ystyried darparu coed, ystyrir gwasanaethau eraill fel storio carbon, darparu cynefinoedd neu weithgareddau hamdden. Mae angen rheoli coetiroedd dros dymor hir ac mae hynny’n golygu dewis rhywogaethau a lleoliad plannu coed yn ofalus fel y gellir manteisio i’r eithaf ar amrywiaeth o wasanaethau a manteision ecosystemau dros genhedlaeth neu ragor.

26.Mae’n ofynnol ystyried y canlyniadau tymor byr, tymor canolig a thymor hir yn ôl paragraff (g), gan gynnwys amseroedd oedi ac adborth i ecosystemau ymateb i ymyriadau. Er enghraifft, byddai’n rhaid i gynigion i gyflwyno gwlyptir newydd er mwyn helpu i leihau llygredd gwasgaredig o dir fferm ymgorffori’r amser a gymer i’r gwlyptir ddatblygu’r amodau bioffisegol angenrheidiol i reoli’r llygredd, ynghyd ag amrywioldeb llif y dŵr dros amser, wrth ddylunio a monitro’r gwlyptiroedd.

27.Mae paragraff (h) yn ei gwneud yn ofynnol cymryd camau a all atal niwed arwyddocaol i ecosystemau. Mae hyn yn cynnig dull ataliol o fewn egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

28.Mae’n ofynnol ystyried agweddau penodol ar gydnerthedd ecosystem yn ôl paragraff (i). Nid yw’r rhestr hon yn ddiffiniad cyflawn, ond mae’n nodi, at ddiben y Rhan hon, yr agweddau allweddol ar ecosystemau cydnerth.

Adran 5 – Diben cyffredinol Corff Adnoddau Naturiol Cymru

29.Mae’r adran hon yn rhoi darpariaeth yn lle erthygl 4 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (y “Gorchymyn Sefydlu”) fel mai rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol fydd diben creiddiol CNC).

30.Roedd y Gorchymyn Sefydlu yn sefydlu CNC fel y corff amgylcheddol a chadwriaethol yng Nghymru ac yn nodi ei swyddogaethau cyffredinol. Roedd erthygl 4 o’r Gorchymyn Sefydlu yn pennu diben cyffredinol CNC, sef sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio’n gynaliadwy, a hynny er lles pobl, amgylchedd ac economi Cymru yn awr ac yn y dyfodol.

31.Mae erthygl 4(1)(a), fel y’i disodlir gan adran 5 o’r Ddeddf hon, bellach yn rhoi dyletswydd ar CNC i ymgyrraedd at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau. Mae i reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol yr ystyr a roddir yn adran 3 o’r Ddeddf.

32.Mae erthygl 4(1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol bod CNC, wrth arfer ei swyddogaethau, hefyd yn cymhwyso’r egwyddorion rheoli cynaliadwy a nodir yn adran 4 o’r Ddeddf. Nid yw’r dyletswyddau yn erthygl 4 ond yn gymwys i’r graddau y bônt yn gyson ag arfer swyddogaethau CNC yn briodol. Nid ydynt, felly, yn gwrthdaro ag unrhyw ddarpariaethau eraill yn y Ddeddf hon, nac mewn unrhyw ddeddfwriaeth arall, sy’n rhoi pwerau neu ddyletswyddau i CNC, nac yn eu gwrth-wneud.

33.Un enghraifft o gymhwyso’r egwyddorion i swyddogaeth fyddai wrth baratoi adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol (sy’n ofyniad o dan adran 8 o’r Ddeddf). Wrth baratoi’r adroddiad rhaid i CNC gymhwyso’r egwyddorion yn adran 4, a fyddai’n cynnwys ystyried yr holl dystiolaeth a’r wybodaeth berthnasol a fydd yn angenrheidiol er mwyn paratoi’r adroddiad, yn ogystal â thrafod â’r rhanddeiliaid perthnasol a allai fod ag unrhyw dystiolaeth berthnasol yn eu meddiant. Yn ogystal, byddai gofyn i CNC ystyried amrywiaeth rhywogaethau a chynefinoedd o fewn ecosystemau ar hyn o bryd, gallu ecosystemau i ymateb i newidiadau neu alwadau cynyddol arnynt, a’u gallu i barhau i ddarparu gwasanaethau megis dŵr glân, bwyd, twristiaeth a rheoli llifogydd a chlefydau.

34.Mae adran 5(4) yn diwygio’r Gorchymyn Sefydlu drwy ddiddymu erthyglau 5B a 5E. Mae erthygl 5B yn ei gwneud yn ofynnol i CNC roi sylw i newidiadau ecolegol gwirioneddol neu bosibl wrth gyflawni ei swyddogaethau cadwraeth natur. Bydd y gofyniad hwn bellach yn dod o dan egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol fel y darperir ar eu cyfer yn adran 4 o’r Ddeddf hon, felly mae erthygl 5B bellach yn ddiangen.

35.Mae erthygl 5E yn ei gwneud yn ofynnol i CNC roi sylw i iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion a chymunedau yn ogystal â’u llesiant economaidd. Mae’r gofynion hyn yn dod yn rhan o’r dyletswyddau a osodir ar CNC gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, felly mae erthygl 5E bellach yn ddiangen.

Adran 6 – Dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau

36.Mae adran 6 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus, fel y’u diffinnir yn is-adran (9), i geisio cynnal a gwella amrywiaeth fiolegol (y cyfeirir ati fel bioamrywiaeth). Mae’n ofynnol i bob corff cyhoeddus, ymgymerwr statudol, Gweinidog y Goron a deiliaid swyddi cyhoeddus eraill gymhwyso’r ddyletswydd pan fyddant yn cyflawni unrhyw swyddogaethau yng Nghymru, neu mewn perthynas â Chymru. Nodir dau eithriad yn is-adran (3): nid yw swyddogaethau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi na swyddogaethau barnwrol llysoedd a thribiwnlysoedd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd.

37.Pan fo’r ddyletswydd yn adran 6 yn gymwys, mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio â’r ddyletswydd honno yn hytrach na’r ddyletswydd yn adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.

38.Roedd adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr roi sylw i ddiogelu bioamrywiaeth wrth gyflawni ei swyddogaethau. Mae adran 40 wedi ei diwygio fel ei bod yn parhau i fod yn gymwys pan fo Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyflawni ei swyddogaethau, a phan fo awdurdodau cyhoeddus eraill yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â Lloegr (gweler paragraff 9(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf).

39.Mae adran 6(1) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, wrth gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, wneud hynny mewn ffordd sy’n ceisio gwella bioamrywiaeth, yn hytrach na’i lleihau, ac wrth wneud hynny rhaid iddynt geisio gwneud ecosystemau yn fwy cydnerth. Rhoddir diffiniad o fioamrywiaeth yn adran 26 er mwyn hwyluso dehongliad cyffredinol o’r term, ac mae’n ymwneud ag amrywiaeth yr holl organeddau byw ar y gwahanol lefelau lle maent yn bodoli. Er nad yw cydnerthedd yn cael ei ddiffinio yn adran 6, mae is-adran (2) yn cynnwys amryw o’i brif nodweddion.

40.Mae adran 6(2) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, wrth gyflawni’r rhwymedigaeth o dan is-adran (1), ystyried amrywiaeth rhwng ecosystemau ac o fewn iddynt, er enghraifft amrywiaeth rhywogaethau a chynefinoedd, ar raddfa, cyflwr a chysylltedd ecosystemau, ac ar eu gallu i ymdopi â digwyddiadau annisgwyl megis effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ac adfer ohonynt. Ni fwriedir i’r rhestr yn is-adran (2) gynnwys pob mater y mae’n rhaid ei ystyried, gan ei bod yn bosibl na fydd rhai materion yn berthnasol i bob sefyllfa. Gweler y nodiadau ar gyfer adran 4 hefyd.

41.O dan adran 6(4) o’r Ddeddf, mae dyletswydd ychwanegol ar Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol, adrannau’r llywodraeth a Gweinidogion y Goron i dalu sylw arbennig i Gonfensiwn Bioamrywiaeth Fiolegol 1992(1), sef cytundeb rhyngwladol sy’n ymdrin â phob agwedd ar fioamrywiaeth. Nid yw’r ddyletswydd hon yn gymwys i’r awdurdodau cyhoeddus eraill a ddiffinnir yn is-adran (5), ond mae’n ofynnol i’r awdurdodau cyhoeddus eraill hynny roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran 6.

42.Mae is-adran 6(5) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, ac eithrio Gweinidogion y Goron neu adrannau’r llywodraeth, wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran 6(1), roi sylw i’r rhestr o organeddau byw a mathau o gynefinoedd a gyhoeddir o dan adran 7, adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8 ac unrhyw ddatganiadau ardal a gyhoeddir o dan adran 11, sy’n ymwneud ag ardal yr awdurdod cyhoeddus.

43.Rhaid i awdurdod cyhoeddus, ac eithrio Gweinidogion y Goron neu adrannau’r llywodraeth, gyhoeddi cynllun sy’n amlinellu sut y bydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1). Rhaid i’r cynllun gael ei adolygu yn sgil adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (7).

44.Mae adran 6(7) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus gyhoeddi adroddiad, bob tair blynedd, sy’n dangos sut y maent wedi bodloni eu rhwymedigaethau o dan y ddyletswydd bioamrywiaeth. Gallai awdurdodau cyhoeddus ymgorffori’r adroddiad hwn mewn unrhyw adroddiadau eraill y mae’n ofynnol iddynt eu cyhoeddi.

45.Mae adran 6(9) yn rhestru’r awdurdodau cyhoeddus y mae’r ddyletswydd yn adran 6(1) yn gymwys iddynt. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrff, gan gynnwys, er enghraifft, fyrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau iechyd cenedlaethol ac awdurdodau parciau cenedlaethol.

46.Er mai dim ond mewn perthynas â Chymru y mae adran 6 yn gymwys, nid yw hyn yn golygu ei bod yn ymwneud â bioamrywiaeth yng Nghymru yn unig. Mae’n gymwys i fioamrywiaeth ar raddfa fyd-eang ac yn golygu ei bod yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ystyried effaith penderfyniadau a wneir yng Nghymru, neu weithgareddau a gynhelir yng Nghymru, i’r graddau y gallai’r rheini fod â goblygiadau i fioamrywiaeth y tu allan i Gymru. Enghraifft bosibl o hyn fyddai awdurdod cyhoeddus yng Nghymru sy’n ystyried a ddylai brynu nwyddau a wnaed o ddeunyddiau sy’n tarddu o fforest law drofannol. Byddai angen i’r awdurdod cyhoeddus ystyried goblygiadau’r penderfyniad hwnnw i brynu o ran bioamrywiaeth. Mae’r tabl isod yn nodi’r awdurdodau cyhoeddus hynny y gosodir gofynion arnynt o dan bob adran o adran 6.

Adran: DyletswyddLlywodraeth CymruGweinidogion y Goron ac Adrannau’r LlywodraethAwdurdodau cyhoeddus eraill
Adrannau (6)(1),(2)OesOesOes
Adran (6)(4)(a)OesOesOes
Adran (6)(4)(b)OesOesOes
Adran (6)(5)OesNac oesOes
Adran (6)(6)OesNac oesOes
Adran (6)(7)OesOes Oes
Adran (6)(8)OesNac oesOes
Adran 7 – Rhestrau bioamrywiaeth a dyletswydd i gymryd camau i gynnal a gwella bioamrywiaeth

47.Mae’r adran hon yn debyg i’r ddyletswydd yn adran 42 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, ac yn ei disodli. Mae’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi, adolygu a diwygio rhestrau o organeddau byw a mathau o gynefinoedd yng Nghymru, sy’n arwyddocaol iawn yn eu tyb hwy o ran cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru.

48.Cyn cyhoeddi, adolygu a diwygio’r rhestrau, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag CNC (is-adrannau (2) a (4)).

49.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fabwysiadu mesurau i gynnal a gwella’r organeddau a’r cynefinoedd sydd wedi’u rhestru, ac annog eraill i wneud hynny hefyd (is-adran (3)).

50.Wrth baratoi’r rhestr neu fabwysiadu unrhyw fesurau i gynnal a gwella’r organeddau a’r cynefinoedd sydd wedi’u rhestru, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol (fel y’u nodir yn adran 4 o’r Ddeddf). Felly, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw dystiolaeth briodol, fel y’i darperir yn yr adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol (gweler adran 7), er enghraifft, yn ogystal â chysylltu ag unrhyw randdeiliaid perthnasol (is-adran (5)).

51.Mae adran 42 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 wedi ei diddymu gan baragraff 9(3) o Atodlen 2 i’r Ddeddf.

Adran 8 – Dyletswydd i baratoi a chyhoeddi adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol

52.Er mwyn cynorthwyo personau i gyflawni rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol yng Nghymru, mae adran 8 yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gyhoeddi ‘adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol’. Bydd yr adroddiad hwn yn ffynhonnell dystiolaeth a fydd ar gael i unrhyw berson sy’n ymdrin ag adnoddau naturiol yng Nghymru. Bydd o gymorth i unrhyw berson sy’n dilyn egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol; mae ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol yn rhan o’r egwyddor a nodir yn adran 4(e).

53.Rhaid i’r adroddiad gynnwys asesiad CNC o gyflwr presennol adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru. Rhaid i’r adroddiad hefyd gynnwys asesiad CNC o’r graddau y mae rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol yn cael ei gyflawni. Er enghraifft, ei asesiad o gyflwr ecosystemau o ran darparu manteision lluosog, ac a fydd eu statws presennol yn gallu addasu i bwysau er mwyn sicrhau bod y manteision lluosog hynny’n cael eu darparu yn y tymor hir.

54.Rhaid i’r adroddiad hefyd gynnwys asesiad o fioamrywiaeth, yn ogystal â gwybodaeth am y prif dueddiadau sy’n effeithio ar adnoddau naturiol, neu a allai effeithio arnynt, a gwybodaeth am unrhyw feysydd lle gallai fod diffyg gwybodaeth ddigonol i allu cynnal asesiad.

55.Dyletswyddau cyffredinol CNC fydd yn llywio’r gwaith o baratoi adroddiad o dan yr adran hon. Mae hyn yn cynnwys ei ddiben cyffredinol fel y’i nodir yn erthygl 4 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (fel y’i disodlir gan adran 5(2) o’r Ddeddf hon), sy’n ei gwneud yn ofynnol i CNC ddilyn egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol wrth arfer ei swyddogaethau.

56.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gyhoeddi’r adroddiad cyntaf o fewn pedwar mis o’r adeg y daw’r is-adran hon i rym. Daw’r is-adran hon i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Bil yn cael y Cydsyniad Brenhinol (gweler adran 88(2)(a)).

57.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gyhoeddi adroddiad cyn diwedd y flwyddyn cyn y flwyddyn y cynhelir pob etholiad cyffredinol arferol dilynol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan adran 1 o Ddeddf Cymru 2014) yn darparu y bydd etholiad cyffredinol arferol yn cael ei gynnal yn ystod y bumed flwyddyn galendr yn dilyn y flwyddyn y cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol arferol diwethaf. Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad cyntaf ar gyflwr adnoddau naturiol, bydd yr etholiad cyffredinol arferol nesaf yn cael ei gynnal ym mis Mai 2021. Felly, bydd rhaid cyhoeddi’r ail adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol cyn diwedd blwyddyn galendr 2020, a chyhoeddi adroddiad dilynol bob pum mlynedd.

58.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gyhoeddi fersiwn ddrafft o’r adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol cyn diwedd y flwyddyn galendr cyn y flwyddyn y mae’n ofynnol cyhoeddi’r adroddiad terfynol o dan is-adran (4). Bydd rhaid cyhoeddi’r fersiwn ddrafft o’r ail adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol, felly, cyn diwedd blwyddyn galendr 2019. Mae’r gofyniad hwn yn gymwys i holl gylchoedd cyhoeddi’r adroddiadau ar gyflwr adnoddau naturiol, ac eithrio cyhoeddi’r adroddiad cyntaf o dan is-adran (3).

59.Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r adroddiad diweddaraf wrth baratoi polisi adnoddau naturiol cenedlaethol (adran 9(9)).

Adran 9 – Dyletswydd i baratoi, cyhoeddi a gweithredu polisi adnoddau naturiol

60.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi, cyhoeddi, gweithredu ac adolygu ‘polisi adnoddau naturiol cenedlaethol’ sy’n amlinellu eu polisïau, ac a fydd yn cyfrannu at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol (gweler adran 3).

61.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod y polisi yn nodi’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd allweddol, yn eu barn hwy, ar gyfer rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol. Mae is-adran (9) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth baratoi a diwygio’r polisi, roi sylw i’r ‘adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol’ diweddaraf. Yn ogystal â hynny, rhaid i Weinidogion Cymru ddilyn egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol wrth baratoi neu wrth ddiwygio’r ‘polisi adnoddau naturiol cenedlaethol’ (is-adran (8)).

62.Rhaid i’r polisi hwn hefyd gynnwys crynodeb o unrhyw ymgynghoriadau a gynhaliwyd wrth ei lunio, ac unrhyw sylwadau a gafwyd o ganlyniad i’r ymgynghoriadau.

63.Mae is-adran (2) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod y polisi yn cynnwys yr hyn y mae angen ei wneud, yn eu barn hwy, mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

64.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fabwysiadu pob cam rhesymol er mwyn gweithredu’r polisi, yn ogystal ag annog partïon eraill i weithredu’r polisi. Wrth weithredu’r polisi rhaid i Weinidogion Cymru ddilyn egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol (gweler is-adran (8)).

65.Rhaid cyhoeddi ac adolygu’r polisi yn unol â’r amseroedd a nodir yn yr adran hon. Rhaid cyhoeddi’r ‘polisi adnoddau naturiol cenedlaethol’ cyntaf o fewn deg mis o’r adeg y daw’r adran hon i rym. Daw’r adran hon i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Ddeddf yn cael y Cydsyniad Brenhinol (gweler adran 88(2)(a)).

66.Mae’r polisi yn ddogfen barhaus, oherwydd bydd y polisi a gyhoeddir yn dal i fod yn gymwys oni bai a hyd nes y cyhoeddir polisi diwygiedig yn dilyn adolygiad. Caiff Gweinidogion Cymru adolygu’r polisi unrhyw bryd ond rhaid iddynt ei adolygu yn dilyn etholiad cyffredinol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r gofyniad i adolygu yn dilyn etholiad cyffredinol yn gymwys boed hwnnw’n etholiad cyffredinol arferol (o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) neu’n etholiad eithriadol (o dan adran 5 o’r Ddeddf honno). Yn dilyn adolygiad, caiff Gweinidogion Cymru ddewis parhau â’r polisi presennol, neu gallant ddiwygio’r polisi fel y gwelant yn dda. Os caiff y polisi ei adolygu, rhaid ailgyhoeddi’r adroddiad fel y’i diwygiwyd (gweler is-adran (7)).

Adran 10 – Ystyr corff cyhoeddus yn adrannau 11 i 15

67.Mae adran 10 yn rhestru personau penodol sy’n ‘gorff cyhoeddus’ at ddibenion adrannau 11 i 15 o’r Ddeddf.

68.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio ystyr corff cyhoeddus yn adran 10 drwy ychwanegu person at y rhestr, neu ei dynnu ymaith, neu ddiwygio’r disgrifiad o berson o’r fath. Dim ond cyrff sydd â swyddogaethau cyhoeddus y caniateir eu hychwanegu at y rhestr (is-adran (3)). Os yw’r corff yn arfer swyddogaethau cyhoeddus a swyddogaethau eraill, dim ond ei swyddogaethau cyhoeddus gaiff fod yn ddarostyngedig i adrannau 11 i 14 o’r Ddeddf (is-adran (4)). Dim ond os yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i hynny y caniateir ychwanegu un neu ragor o Weinidogion y Goron at is-adran (1).

69.Cyn arfer y pŵer hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag CNC, y person yr effeithir arno ac unrhyw berson arall y maent yn ystyried ei fod yn briodol (is-adran (5)).

Adran 11 – Datganiadau ardal

70.Mae adran 11 yn ei gwneud yn ofynnol i CNC hwyluso’r gwaith o weithredu’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol drwy baratoi, cyhoeddi a gweithredu ‘datganiadau ardal’. Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i CNC sicrhau bod pob ardal o Gymru yn cael ei chynnwys yn un neu ragor o’r datganiadau ardal, ond mae’n darparu mai CNC sy’n penderfynu ar nifer, lleoliad a graddau daearyddol yr ardaloedd y caiff adroddiadau eu paratoi ar eu cyfer, yn unol â’r hyn sydd fwyaf priodol, yn ei farn, er mwyn hwyluso’r broses o roi’r polisi ar waith.

71.Wrth arfer unrhyw swyddogaethau, caiff CNC ei lywio gan ei ddyletswyddau cyffredinol. Bydd ei ddiben cyffredinol, fel y’i nodir yn erthygl 4 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (fel y’i disodlir gan adran 5(2) o’r Ddeddf hon) yn arbennig o berthnasol i’r adran hon. Golyga hyn ei bod yn ofynnol i CNC gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â datganiadau ardal. Mae is-adran (2) yn taflu goleuni ar is-adran (1) er mwyn cadarnhau y gall CNC hefyd ddefnyddio’r datganiadau am unrhyw reswm arall i’w gynorthwyo i arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau. Er enghraifft, caiff CNC ddewis defnyddio datganiad ardal i amlinellu sut y bydd yn cyflawni ei swyddogaethau eraill mewn perthynas â’r ardal honno, yn ogystal â’r swyddogaethau hynny sy’n gysylltiedig â gweithredu’r polisi cenedlaethol.

72.Nid yw ffurf a chynnwys y datganiadau ardal wedi eu rhagnodi; mater i CNC yw penderfynu ar hynny. Fodd bynnag, mae is-adran (3)(a)-(d) yn cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys, mewn termau cyffredinol, ym mhob datganiad ardal y bydd yn ei baratoi.

73.Mae paragraff (a)(i), (ii) a (iii) yn ei gwneud yn ofynnol i bob datganiad ardal egluro pam y paratowyd datganiad ar gyfer ardal, drwy gynnwys gwybodaeth am yr adnoddau naturiol o fewn yr ardal honno a’r manteision y maent yn eu cynnig, a thrwy bennu’r blaenoriaethau, y peryglon a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol y mae angen ymdrin â hwy yn yr ardal honno.

74.Mae paragraff (b) yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gynnwys o fewn datganiad ardal sut y mae wedi cymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol (fel y darperir ar gyfer hynny yn adran 4) wrth baratoi datganiad ardal. Mae paragraff (c) yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gynnig gwybodaeth ar sut y mae’n bwriadu cyflawni ei swyddogaethau yn yr ardal honno er mwyn ymdrin â’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd a nodir ym mharagraff (a)(iii) a sut y bydd yn cymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy wrth wneud hynny.

75.Mae paragraff (d) yn ei gwneud yn ofynnol i CNC bennu’r cyrff cyhoeddus hynny y mae’n ystyried y gallant fod o gymorth o ran y blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd a nodwyd.

76.Mae adran 14 o’r Ddeddf hon yn cynorthwyo CNC i gydymffurfio a’i rwymedigaeth i baratoi a gweithredu datganiadau ardal drwy roi pwerau iddo ei gwneud yn ofynnol i gyrff penodol (a restrir fel ‘cyrff cyhoeddus’ yn adran 10 o’r Ddeddf hon) ddarparu gwybodaeth a chymorth arall iddo.

77.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i CNC sicrhau bod pob ardal o Gymru yn cael ei chynnwys yn un neu ragor o’r datganiadau ardal.

78.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gymryd pob cam rhesymol er mwyn gweithredu datganiad ardal. Rhaid iddo hefyd annog personau eraill i weithredu’r datganiad ardal. Mae dyletswydd ar bersonau a restrir fel ‘corff cyhoeddus’ yn adran 10 o’r Ddeddf hon i ddarparu unrhyw gymorth i CNC y mae ei angen arno wrth arfer swyddogaethau o dan yr adran hon (gweler adran 14). Mae’r personau hynny hefyd yn ddarostyngedig i bŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo o dan adran 12, a rhaid iddynt roi sylw i’r canllawiau a ddyroddir iddynt yn unol ag adran 13.

79.Mae is-adran (6) yn gwneud darpariaeth er mwyn sicrhau bod datganiadau ardal a gaiff eu paratoi o dan adran (1) yn parhau i fod yn effeithiol wrth hwyluso a gweithredu’r polisi cenedlaethol. Mae’n ofynnol i CNC adolygu’r datganiadau yn gyson, a chaiff eu diwygio unrhyw bryd.

80.Mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol i CNC ystyried rhesymoli nifer y cynlluniau, y strategaethau neu’r dogfennau eraill tebyg sydd ar waith yn yr ardal y mae unrhyw ddatganiad ardal penodol yn ei chwmpasu. Cyn cyhoeddi datganiad, rhaid i CNC ystyried:

  • a ddylid cynnwys unrhyw gynllun, strategaeth neu ddogfen debyg arall (gan gynnwys datganiad ardal arall) yn y datganiad. Er enghraifft, caiff CNC geisio rhesymoli’r cynlluniau eraill y mae’n eu paratoi drwy eu hymgorffori mewn datganiad ardal; neu

  • a ddylid cynnwys datganiad ardal mewn cynllun, strategaeth neu ddogfen debyg arall.

Adran 12 – Cyfarwyddydau Gweinidogion Cymru i weithredu datganiadau ardal

81.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo corff cyhoeddus (fel y’i rhestrir yn adran 10 o’r Ddeddf), i gymryd camau i ymdrin â’r materion a bennir mewn datganiad ardal o dan adran 11(3). Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried ei bod yn rhesymol ymarferol i’r corff gymryd camau o’r fath. Dim ond rhywbeth sydd o fewn cwmpas ei swyddogaethau (is-adran (4)) y gall cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus ei wneud.

82.Er enghraifft, pan fo CNC (yn unol ag adran 14) yn gofyn i gorff gymryd camau penodedig i’w gynorthwyo i weithredu datganiad ardal, ac yna bod y corff yn methu â darparu’r cymorth hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddyd i’r corff. Gallai’r cyfarwyddyd hwn ei gwneud yn ofynnol i’r corff ddarparu’r cymorth hwn, ond dim ond os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn rhesymol ymarferol i’r corff wneud hynny.

83.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r corff cyhoeddus yr effeithir arno cyn dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran hon. Rhaid i gyfarwyddyd a wneir o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi a gall unrhyw gyfarwyddyd dilynol ei amrywio neu ei ddirymu (is-adran (5)).

84.Rhaid i gorff cyhoeddus gydymffurfio â chyfarwyddyd sydd wedi ei ddyroddi o dan yr adran hon (is-adran (3)). Gall Gweinidogion Cymru orfodi cyfarwyddyd o dan yr adran hon drwy wneud cais i’r Uchel Lys am orchymyn gorfodi. Mae methu â chydymffurfio â gorchymyn gorfodi yn achos posibl o ddirmyg llys.

Adran 13 – Canllawiau ynghylch gweithredu datganiadau ardal

85.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus (gweler adran 10) i roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ar y camau y dylid eu cymryd i ymdrin â’r materion sydd wedi eu pennu mewn datganiad ardal a gynhyrchwyd gan CNC (o dan adran 11) ar flaenoriaethau, peryglon a chyfleoedd penodol ar gyfer rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol y mae angen ymdrin â hwy yn yr ardal honno.

86.Rhaid i gyrff cyhoeddus roi sylw i’r canllawiau hyn o ran sut y maent yn arfer eu swyddogaethau mewn modd a all, o ganlyniad, gyfrannu at weithredu datganiad ardal.

Adran 14 – Dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth neu gymorth arall i CNC

87.Mae’r adran hon yn gosod gofyniad ar gyrff cyhoeddus (gweler adran 10) i ddarparu gwybodaeth neu gymorth arall i CNC, wrth arfer ei swyddogaethau, at ddiben paratoi a chyhoeddi adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol (gweler adran 8) a datganiad ardal (gweler adran 11), pan fo CNC wedi gofyn am wybodaeth neu gymorth o’r fath.

88.Nid yw’r ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth i CNC o dan yr adran hon yn gymwys os yw’r gyfraith yn gwahardd y corff cyhoeddus rhag gwneud hynny, er enghraifft, os yw gofynion diogelu data neu ddiogelwch cenedlaethol yn berthnasol, neu pe byddai darparu gwybodaeth yn mynd yn groes i hawl sydd wedi’i hamddiffyn o dan gyfraith hawliau dynol.

89.Nid yw’r ddyletswydd i gynorthwyo CNC o dan yr adran hon yn gymwys os yw darparu’r cymorth yn anghydnaws â dyletswyddau’r corff neu pe byddai’n cael effeithiau andwyol o ran arfer swyddogaethau’r corff (is-adran (2)). Er enghraifft, ni allai CNC ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus, sydd â statws elusennol, weithredu mewn modd a fyddai’n groes i’w statws elusennol.

90.Mae is-adran (3) yn darparu bod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (a sefydlir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) hefyd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth a/neu gymorth o dan is-adrannau (1) a (2), ond dim ond ar gyfer paratoi a chyhoeddi’r adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol (gweler adran 8). Nid yw’r ddyletswydd yn gymwys os yw’r gyfraith yn gwahardd y Comisiynydd rhag darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani, neu os yw’r Comisiynydd o’r farn bod darparu’r cymorth yn anghydnaws â’i ddyletswyddau neu y byddai’n arwain at effeithiau andwyol o ran arfer ei swyddogaethau.

Adran 15 – Dyletswydd ar CNC i ddarparu cyngor neu gymorth arall i gyrff cyhoeddus

91.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i CNC, o gael cais gan gorff cyhoeddus (gweler adran 11), ddarparu gwybodaeth neu gymorth arall i’r corff hwnnw at ddibenion gweithredu datganiad ardal.

92.Ni ddylai CNC ddarparu unrhyw wybodaeth y mae’r gyfraith yn ei wahardd rhag ei darparu, fodd bynnag.

93.Nid yw’n ofynnol ychwaith i CNC ddarparu unrhyw gymorth arall y bydd corff cyhoeddus yn gofyn amdano os yw o’r farn y byddai gwneud hynny yn anghydnaws â dyletswyddau CNC ei hun, neu y byddai’n cael effaith ar arfer ei swyddogaethau mewn ffordd arall (is-adran (2)). Er enghraifft, byddai hyn yn berthnasol pe byddai darparu cyngor yn anghydnaws â swyddogaeth reoleiddio CNC.

Adran 16 – Pŵer i ymrwymo i gytundebau rheoli tir

94.Mae adran 16 yn galluogi CNC i ymrwymo i gytundebau gydag unrhyw bersonau sydd â buddiant mewn tir (fel y’i diffinnir yn is-adran (3)) ynglŷn â’r ffordd y maent yn rheoli eu tir. Mae’n disodli pwerau amrywiol CNC i ymrwymo i gytundebau rheoli tir a geir yn adran 39 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Deddf 1981), adrannau 15 a 45 o Ddeddf Cefn Gwlad 1968 (Deddf 1968) ac adran 16 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Deddf 1949).

95.Dim ond at ddibenion cadwraeth natur, darparu mynediad i gefn gwlad neu wella harddwch naturiol cefn gwlad (adran 39 o Ddeddf 1981), gwarchod a diogelu safleoedd dynodedig fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) (adran 15 o Ddeddf 1968) neu er mwyn sicrhau bod tir yn cael ei reoli fel gwarchodfa natur (adran 16 o Ddeddf 1949) y gellid defnyddio’r pwerau blaenorol.

96.Mae paragraffau 1 i 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf hon yn cael gwared ar bwerau CNC i ymrwymo i gytundebau o dan Ddeddf 1949, Deddf 1968 a Deddf 1981. Nid yw ei bŵer i ymrwymo i gytundebau rheoli tir o dan reoliad 16 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 wedi’i ddiddymu, fodd bynnag, ac nid yw darpariaethau’r Ddeddf hon yn effeithio arno.

97.Mae adran 16 o’r Ddeddf hon yn rhoi pŵer ehangach i ymrwymo i gytundebau rheoli tir at unrhyw ddiben o fewn cylch gwaith CNC. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un neu ragor o’r dibenion y gellid defnyddio cytundebau rheoli tir a wnaed o dan y pwerau blaenorol ar eu cyfer, ond nid yw wedi ei gyfyngu i’r dibenion hynny.

98.Mae hefyd yn cynnwys cytundebau sy’n hyrwyddo dyletswydd gyffredinol CNC i ymgyrraedd at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol fel sy’n cael ei ddarparu o dan adran 5 o’r Ddeddf hon. Mae effaith adran 5 ar adran 16 yn golygu y bydd angen i CNC hefyd gymhwyso egwyddorion cyflawni rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol fel a bennir yn adran 4 o’r Ddeddf hon.

99.Caiff CNC, o dan adran 16, ymrwymo i gytundebau rheoli tir gydag unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir.

100.Diffinnir person sydd â buddiant yn y tir yn is-adran (3) ac mae’n golygu’r sawl sydd ag ystad rydd-ddaliadol neu lesddaliadol mewn tir, pridiant rhent a’r sawl sydd â hawliau megis helwriaeth.

101.Nid yw adran 16 yn gosod gofyniad ar berson i ymrwymo i gytundeb gydag CNC, a threfniant gwirfoddol ydyw.

102.Er enghraifft, gall telerau cytundeb rheoli tir olygu ei bod yn ofynnol i berchennog tir reoli ei dir mewn ffordd arbennig, ac y caiff dderbyn taliadau neu fuddiannau eraill am wneud hynny.

103.Mae adran 16(2) yn darparu rhestr, nad yw’n gyflawn, o’r math o delerau ac amodau y gellir eu cynnwys mewn cytundeb. Ceir rhai enghreifftiau isod o’r ffordd y gellir defnyddio tir a’r cyfyngiadau ar weithgareddau y gellir ymgymryd â hwy:

  • Ar dir fferm, gall fod yn ofynnol i berchennog / feddiannwr y tir beidio â thrin rhan benodol o’r tir, o dan delerau cytundeb, neu gellir gofyn iddo beidio â thorri coed penodol.

  • Efallai mai un o delerau cytundeb yw bod rhaid i berchennog / feddiannwr y tir reoli llif y dŵr drwy ei dir at ddibenion rheoli’r perygl o lifogydd. Er enghraifft, gall fod yn ofynnol i berchennog / feddiannwr y tir gadw mawnogydd neu goedwigoedd penodol, o dan y cytundeb, gan gyfyngu ar y defnydd o’r tir heblaw at ddiben atal llifogydd. Dyma enghraifft o fesurau eraill y gellir eu cymryd i reoli’r perygl o lifogydd drwy reoli tir mewn ffordd sy’n cadw dŵr yn ôl ac yn arafu ei lif er mwyn atal llifogydd i lawr yr afon.

  • Caiff CNC gyflawni gweithgareddau rheoli (h.y. torri coetir) ar y tir, neu benodi rhywun arall i wneud hynny.

  • Caiff CNC hefyd ddefnyddio cytundebau rheoli i reoli tir sydd o fewn SoDdGA. Caiff telerau cytundeb adlewyrchu buddiannau unrhyw gynllun rheoli sy’n berthnasol i SoDdGA y gellir ei wneud o dan adran 28J o Ddeddf 1981. Mae cynllun rheoli yn amlinellu mesurau sydd i’w cymryd er mwyn gwarchod ac adfer SoDdGA.

104.Mae angen darllen adran 16 ar y cyd â’r diwygiadau canlyniadol a wneir i Ddeddf 1949, i Ddeddf 1968 ac i Ddeddf 1981 gan Atodlen 2, Rhan 1 o’r Ddeddf hon, sy’n diddymu’r adrannau hynny o ran CNC. Mae darpariaethau trosiannol yn adran 20 yn sicrhau bod unrhyw gytundebau presennol a wnaed gan CNC i’w trin fel cytundebau o dan y Ddeddf hon.

Adran 17 – Effaith cytundebau rheoli tir penodol ar olynwyr yn y teitl

105.Mae adran 17 yn nodi o dan ba amgylchiadau y caiff telerau cytundeb rheoli tir adran 16 rwymo perchnogion neu denantiaid dilynol y tir. Nid yw’r adran hon ond yn gymwys pan fo gan y person sy’n gwneud y cytundeb rheoli tir “fuddiant cymwys” fel y’i diffinnir yn is-adran (3), h.y. pan fo’r person yn berchen ar y tir fel rhydd-ddeiliad neu’n ei ddal o dan les a roddir am dymor o saith mlynedd o leiaf. Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo’r teitl yn y tir naill ai wedi’i gofrestru, neu heb ei gofrestru. Mae’r rhan fwyaf o deitlau yn y tir yng Nghymru a Lloegr wedi’u cofrestru gyda Chofrestrfa Tir EM ond mae peth tir sy’n dal heb ei gofrestru.

106.Mae adran 17(1) yn gymwys i dir nad yw wedi’i gofrestru. Gellir cofrestru’r buddiant sy’n cael ei greu o dan gytundeb rheoli fel pridiant tir Dosbarth D(ii) yn unol â Deddf Pridiannau Tir 1972 (p.61). Effaith cofrestru’r pridiant tir yw bod telerau cytundeb rheoli tir yn rhwymo unrhyw olynydd i’r person sydd â buddiant cymwys.

107.Diffinnir olynydd yn is-adran (4) sef, fel arfer, unrhyw berson sy’n prynu’r buddiant rhydd-ddaliadol neu lesddaliadol (am dymor o fwy na 7 mlynedd) mewn tir. Ni fydd telerau cytundeb yn rhwymo’r prynwr os nad yw’r buddiant wedi’i gofrestru fel pridiant tir Dosbarth D(ii).

108.Mae adran 17(2) yn gymwys i dir cofrestredig ac mae’n rhaid i’r buddiant sy’n cael ei greu o dan gytundeb rheoli tir adran 16 gael ei gofrestru drwy hysbysiad ar y teitl cofrestredig yn unol â Deddf Cofrestru Tir 2002 (p.9). Os nad yw’r buddiant wedi’i gofrestru fel hysbysiad ni fydd telerau’r cytundeb yn rhwymo’r olynydd yn y teitl.

109.Ar hyn o bryd, mae cytundeb a wneir o dan adran 39 o Ddeddf 1981 yn rhwymo perchnogion neu feddianwyr olynol / y dyfodol boed y tir wedi’i gofrestru ai peidio.

110.Ar yr amod fod CNC naill ai’n cofrestru’r buddiant o dan gytundeb naill ai fel hysbysiad o deitl ar y gofrestr yn achos tir cofrestredig, neu fel pridiant tir Dosbarth D(ii) yn achos tir heb ei gofrestru, caiff orfodi telerau cytundeb rheoli tir yn erbyn unrhyw berson sy’n caffael buddiant cymwys yn y tir.

111.Mae angen darllen adran 17 ar y cyd â’r diwygiadau canlyniadol y mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn eu gwneud.

Adran 18 – Cymhwyso Atodlen 2 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 i gytundebau rheoli tir

112.Mae’r adran hon yn galluogi personau penodol na fyddai ganddynt, o bosibl, y pŵer hwnnw fel arall, i ymrwymo i gytundebau rheoli tir adran 16 gydag CNC. Yr un personau yw’r rhain â’r personau sydd â’r pŵer i ymrwymo i gyfamodau neilltuo coedwigaeth o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 yn rhinwedd Rhan 1 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. Dim ond i denantiaid am oes tir setledig, tir sy’n eiddo i brifysgolion a cholegau penodol, a thir eglwysig penodol y mae’r adran hon yn berthnasol.

Adran 19 – Effaith cytundebau ar neilltuo priffordd a rhoi hawddfraint

113.Pan fo’r cyhoedd neu berson penodol wedi defnyddio hawl tramwy ar draws tir yn rhinwedd cytundeb rheoli tir adran 16, effaith yr adran hon yw nad yw’r defnydd o’r tir yn berthnasol wrth benderfynu o dan y gyfraith a yw’r tir i’w drin fel tir sydd wedi ei neilltuo fel priffordd neu a yw hawddfraint i’w drin fel pe bai wedi ei roi.

Adran 20 – Darpariaethau trosiannol

114.Mae’r adran yn darparu y caiff cytundebau rheoli tir a wnaed gan CNC o dan Ddeddf 1981, Deddf 1968 a Deddf 1949, cyn i’w bwerau o dan y Deddfau hynny gael eu disodli gan y pwerau yn adran 16 o’r Ddeddf hon, eu trin fel cytundebau rheoli tir o dan adran 16 o’r Ddeddf hon. Bydd adrannau 17 i 21 yn gymwys iddynt felly.

Adran 21 – Tir y Goron

115.Mae’r adran hon yn dweud pwy gaiff ymrwymo i gytundebau rheoli tir adran 16 ar ran y Goron.

116.Caiff CNC ymrwymo i gytundeb adran 16 mewn perthynas â thir y Goron ond mae adran 21 yn golygu ei bod yn ofynnol i’r awdurdod priodol naill ai wneud y cytundeb neu gymeradwyo’r cytundeb, gan ddibynnu a yw’r Goron yn dal y buddiant perthnasol mewn tir. Pennir yr awdurdod priodol ar sail pwy yw perchennog tir y Goron, a chaiff ei ddiffinio yn is-adran (4). Diffinnir “tir y Goron” yn is-adran (3).

117.Mae is-adran (5) yn darparu bod unrhyw gwestiwn ynghylch pwy yw’r awdurdod priodol yn cael ei gyfeirio at y Trysorlys.

Adran 22 – Pŵer i atal dros dro ofynion statudol ar gyfer cynlluniau arbrofol

118.Mae adran 22 yn galluogi Gweinidogion Cymru, o gael cais gan CNC, i wneud rheoliadau sy’n gallu atal dros dro ddarpariaeth statudol benodol y mae CNC yn gyfrifol amdani, er mwyn galluogi cynnal cynllun arbrofol fel y darperir ar ei gyfer o dan adran 23. Bydd y cynlluniau hyn yn galluogi CNC i dreialu dulliau newydd i’w helpu i gyflawni rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol, a gall gynnwys datblygu neu gymhwyso dulliau, cysyniadau neu dechnegau newydd, neu gymhwyso neu ddatblygu ymhellach ddulliau, gysyniadau neu dechnegau cyfredol.

119.Caiff rheoliadau o dan adran 22(1) roi eithriad rhag gofyniad, llacio gofyniad a’i gwneud yn ofynnol i’r person y mae’r eithriad neu’r llacio yn gymwys iddo gydymffurfio ag amodau a bennir mewn rheoliadau. Mae’r atal dros dro neu’r llacio wedi ei gyfyngu i gyfnod nad yw’n fwy na thair blynedd (ac y caniateir ei ymestyn unwaith am gyfnod pellach nad yw’n fwy na thair blynedd). Gweler adran 22(4) a (5).

120.Caiff y rheoliadau hefyd addasu deddfiad mewn modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol er mwyn gorfodi eithriad, llacio neu amodau, neu o ganlyniad i hynny. Mae paragraffau (c) a (d) yn darparu, pan fo gofyniad statudol yn cael ei atal dros dro neu’n cael ei lacio gan reoliadau o dan is-adran (1), y caniateir gosod amodau y mae’n rhaid i barti gydymffurfio â hwy, ac hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i drosglwyddo mesurau gorfodi cyfredol o’r deddfiad cyfredol.

121.Dim ond mewn perthynas â gofynion statudol y mae CNC yn gyfrifol amdanynt y caniateir gwneud rheoliadau. Diffinnir y gofynion hyn yn adran 22(9). Rhaid i’r gofyniad gael ei osod drwy ddeddfiad. CNC sy’n gyfrifol am y gofyniad statudol os yw’n ofyniad:

  • i gydymffurfio â safon neu ofyniad a osodir gan CNC;

  • i gael trwydded neu awdurdodiad arall gan CNC cyn gwneud rhywbeth;

  • y caiff CNC ei orfodi; neu

  • sy’n gymwys i CNC ac sy’n ymwneud â’r modd y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli a’u defnyddio, (neu at ba ddibenion y gwneir hynny).

122.Mae adran 22(2) yn darparu na chaiff y rheoliadau dynnu ymaith neu addasu swyddogaeth un o Weinidogion y Goron a oedd yn arferadwy cyn 5 Mai 2011, heb gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol.

123.Mae adran 22(3) yn darparu hefyd na chaniateir gwneud y rheoliadau onid yw Gweinidogion Cymru:

  • wedi eu bodloni bod y ddarpariaeth yn angenrheidiol er mwyn galluogi cynnal cynllun arbrofol (gweler adrannau 22(9) a 23) sy’n debygol o gyfrannu at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol (fel y’i diffinnir yn adran 3);

  • wedi eu bodloni nad yw’r rheoliadau yn cael yr effaith gyffredinol o gynyddu’r baich rheoliadol ar unrhyw berson;

  • wedi ymgynghori â’r rhai hynny y maent yn barnu bod darpariaethau’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt a’r personau y credant fod y cynllun arbrofol yn debygol o effeithio arnynt fel arall.

124.Mae’r rheoliadau’n ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol (gweler adran 25(3)) oni bai mai’r unig effaith sylweddol yw dirymu rheoliadau blaenorol o dan adran 22(1) – mewn achosion felly yr unig beth y mae angen ei wneud yw eu gosod yn y Cynulliad ar ôl iddynt gael eu gwneud, ac nid oes unrhyw ofyniad i gynnal ymgynghoriad. Gellid dirymu rheoliadau os yw cynllun arbrofol wedi dod i ben cyn y cyfnod tair blynedd cychwynnol neu cyn diwedd cyfnod unrhyw estyniad, sy’n golygu nad oes angen y rheoliadau mwyach.

125.Dim ond mewn perthynas â Chymru y caiff y rheoliadau fod yn gymwys.

126.Gallai cais oddi wrth CNC i reoliadau gael eu gwneud fod ar y sail, er enghraifft, y byddai angen, ar gyfer cynllun arbrofol arfaethedig penodol, cael eithriad rhag yr angen i gael cydsyniad penodol er mwyn gallu cyflawni gweithgaredd penodol. Efallai mai diben atal hynny dros dro fyddai treialu safonau cyffredin gofynnol, y gellid eu cymhwyso yn lle’r cydsyniad mewn amgylchiadau penodol neu ar gyfer gweithgareddau penodol.

127.Mae adran 22(8) yn ei gwneud yn ofynnol i CNC werthuso cynllun arbrofol y cafodd gofynion statudol eu hatal dros dro neu eu llacio mewn perthynas ag ef, a chyhoeddi gwerthusiad o’r cynllun.

128.Mae adran 22(9) yn diffinio cynllun arbrofol fel cynllun a gynhelir o dan drefniadau a wneir gan CNC o dan erthygl 10C o’r Gorchymyn Sefydlu, sy’n gynllun sydd wedi ei ddylunio i ddatblygu dulliau, cysyniadau neu dechnegau newydd neu addasedig, neu i ddatblygu neu brofi cynigion ar gyfer newid rheoliadol.

Adran 23 – Pŵer CNC i gynnal cynlluniau arbrofol etc

129.Mae’r adran hon yn rhoi darpariaeth yn lle erthygl 10C o’r Gorchymyn Sefydlu.

130.Effaith erthygl 10C (y mae adran 23 yn ei rhoi yn lle erthygl 10C), yw ymestyn swyddogaethau ymchwil cyffredinol CNC i gynnwys gwneud trefniadau ar gyfer cynnal cynlluniau arbrofol.

131.Mae erthygl 10C(1) yn rhoi pŵer i CNC (y cyfeirir ato fel “y Corff” yn y Gorchymyn Sefydlu) wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ymchwil a chynlluniau arbrofol sy’n berthnasol i arfer ei swyddogaethau. Caiff CNC neu bersonau eraill gyflawni ymchwil neu gynlluniau.

132.Mae erthygl 10C(3) yn darparu bod rhaid i CNC, pan fo’n arfer y swyddogaethau hyn mewn perthynas â chadwraeth natur, roi sylw i’r safonau cyffredin ar gyfer monitro cadwraeth natur, ymchwil i gadwraeth natur a gwaith dadansoddi’r wybodaeth sy’n deillio o hynny y gallai’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (fel y darperir o dan adran 34(2) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006) fod wedi’i sefydlu.

133.Diben erthygl 10C yw galluogi CNC i gynnal, cefnogi neu gomisiynu gwaith ymchwil yn ogystal â chynlluniau arbrofol neu arloesol, os yw’r cynlluniau hyn yn ffordd o dreialu dulliau newydd o gyflawni ei bwerau a’i rwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth mewn ffordd a all ei helpu i gyflawni ei ddiben cyffredinol o reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

134.Ar hyn o bryd mae gan CNC bwerau o dan adran 4 o Ddeddf Cefn Gwlad 1968 (“Deddf 1968”) i wneud a chynnal cynlluniau arbrofol a gynlluniwyd i hwyluso mwynhau cefn gwlad, neu i warchod neu wella ei harddwch neu ei amwynder naturiol. Mae’r pŵer hwn wedi’i gyfyngu, felly, i agwedd benodol ar gylch gwaith CNC. Mae erthygl 10C yn ymestyn cwmpas pŵer CNC i gynnal cynlluniau arbrofol. Caiff adran 4 o Ddeddf 1968 ei diddymu (gweler paragraff 2(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf).

135.At ddibenion erthygl 10C, cynllun sydd wedi ei ddylunio i ddatblygu neu i gymhwyso dulliau, cysyniadau neu dechnegau newydd neu addasedig, neu i ddatblygu neu brofi cynigion ar gyfer newid rheoliadol, yw cynllun arbrofol.

136.Caiff CNC dreialu datblygu neu gymhwyso dulliau, cysyniadau neu dechnegau newydd er mwyn gweithredu mewn modd sy’n helpu i gyflawni’r amcan o reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol. Gallai hyn gynnwys dulliau gweinyddol, technegol neu wyddonol o gyflawni’r amcan hwn. Un enghraifft o hyn fyddai treialu safonau neu amodau newydd, a allai arwain at ddatblygu deddfwriaeth sy’n darparu ar gyfer rheol gyfrwymol gyffredinol, hynny, yw treialu dulliau eraill o reoleiddio gweithgareddau.

137.Enghraifft o hyn fyddai pan fo CNC yn ceisio datblygu codau ymarfer statudol a all nodi safonau gofynnol ar gyfer gweithgareddau penodol, heb fod angen caniatâd na thrwydded, ac sy’n gallu sicrhau perfformiad o’r un safon, neu well. Efallai y bydd CNC yn awyddus i gynnal treial mewn maes penodol y mae datganiad ardal yn ei gwmpasu (fel y darperir yn adran 11 o’r Ddeddf) er mwyn nodi swyddogaeth adnoddau naturiol o ran helpu i leihau llifogydd (yn sgil swyddogaeth mawnogydd, er enghraifft).

138.Nid yw’r pŵer i gefnogi cynlluniau arbrofol yn erthygl 10C(2) wedi’i gyfyngu i gymorth ariannol ac felly gallai gynnwys darparu offer ac arbenigedd. Os yw CNC yn darparu cymorth ariannol, gall fod ar ffurf grant neu fenthyciad neu gyfuniad o’r ddau, a gall fod yn gysylltiedig ag amodau sy’n golygu bod angen ad-dalu’r grant i gyd neu ran ohono (erthyglau 10B(2) a (3) o’r Gorchymyn Sefydlu).

Adran 24 – Pŵer i ddiwygio cyfnodau ar gyfer paratoi a chyhoeddi dogfennau

139.Mae adrannau 8(3) i (5) a 9(5) yn nodi’r amserlenni ar gyfer cyhoeddi’r adroddiad terfynol a’r adroddiad drafft ar gyflwr adnoddau naturiol a’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol. Mae’r adran hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, newid yr amserlenni hynny. Mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag CNC cyn gwneud y rheoliadau.

Adran 25 – Rheoliadau o dan y Rhan hon

140.Mae’r adran hon yn pennu’r weithdrefn sydd i’w dilyn yn y Cynulliad wrth wneud rheoliadau o dan Ran 1 o’r Ddeddf. Mae’r holl reoliadau yn Rhan 1 yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol y Cynulliad. Fodd bynnag, nid yw rheoliadau a wneir o dan adran 22(1) yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol os mai’r pwrpas yw dirymu rheoliadau presennol a wneir o dan yr adran honno. Yn hytrach, rhaid eu gosod gerbron y Cynulliad yn unig (is-adran (4)).

141.Defnyddir y term y “weithdrefn gadarnhaol” i gyfeirio at offerynnau statudol y mae’n rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu cymeradwyo cyn iddynt ddod yn gyfraith.

142.Mae is-adran (2) yn rhoi’r hyblygrwydd i’r rheoliadau yn Rhan 1 gael eu cymhwyso’n wahanol o dan wahanol amgylchiadau a gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

Adran 27 – Mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

143.Mae’r adran hon yn cyflwyno Rhan 1 o Atodlen 2 i’r Ddeddf, sy’n nodi’r mân ddiwygiadau, y diwygiadau canlyniadol a’r diddymiadau mewn perthynas â deddfwriaeth arall sy’n gysylltiedig â darpariaethau Rhan 1 o’r Ddeddf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources