Adran 38 – Y waelodlin
166.Mae’r adran hon yn diffinio’r “waelodlin” at ddibenion y Rhan hon o’r Ddeddf ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn diwygio’r waelodlin honno. Byddai hynny’n galluogi Gweinidogion Cymru i bennu’r flwyddyn waelodlin ar gyfer nwy tŷ gwydr sydd wedi ei ychwanegu gan reoliadau o dan is-adran 37(2) neu addasu’r flwyddyn waelodlin ar gyfer nwy tŷ gwydr sydd eisoes wedi ei restru. Ni chaiff Gweinidogion Cymru addasu’r flwyddyn waelodlin ar gyfer nwy tŷ gwydr onid ydynt wedi eu bodloni y byddai’n briodol gwneud hynny o ganlyniad i ddatblygiadau sylweddol yng nghyfreithiau neu bolisïau’r UE neu gyfreithiau neu bolisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.