Adran 43 – Datganiadau ar gyfer blynyddoedd targed interim a 2050
180.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad ar gyfer pob blwyddyn darged interim ac ar gyfer 2050.
181.Mae is-adrannau (2) i (4) yn ei gwneud yn ofynnol cynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn y datganiadau ar gyfer pob un o’r blynyddoedd targed priodol:
o dan is-adran (2), mewn perthynas â phob un o’r nwyon tŷ gwydr, gyfanswm allyriadau Cymru, echdyniadau Cymru ac allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn;
o dan is-adran (3), gyfanswm yr unedau carbon a gredydwyd i gyfrif allyriadau net Cymru ac a ddidynnwyd ohono, a manylion am nifer yr unedau a’r math o unedau;
o dan is-adran (4), swm cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn.
182.Mae is-adran (5) yn darparu bod y penderfyniad ynghylch a yw’r targedau interim neu darged 2050 wedi eu cyrraedd i’w wneud drwy gyfeirio at yr wybodaeth a ddarperir yn y datganiad ar gyfer y flwyddyn darged y mae’n ymwneud â hi.
183.Mae is-adran (6) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys eglurhad o’r rhesymau pam eu bod yn ystyried bod y targedau wedi eu cyrraedd, neu nad ydynt wedi eu cyrraedd.
184.Rhaid i ddatganiad o dan yr adran hon gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ôl y flwyddyn y mae’n ymwneud â hi; er enghraifft, rhaid i’r datganiad ar gyfer 2020 gael ei osod cyn diwedd 2022 (is-adran (1)(b)).
185.Mae is-adran (7) yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfuno datganiad o dan yr adran hon â’r datganiad ar gyfer cyfnod cyllidebol carbon (o dan adran 41) sy’n ymwneud â blwyddyn y targed perthnasol.