Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Adran 50 – Cyngor ynghylch rheoliadau arfaethedig sy’n ymwneud â thargedau a chyllidebau

205.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’n rhaid i’r corff cynghori ymateb i geisiadau o dan adran 49 am gyngor ar reoliadau arfaethedig.

206.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol, mewn perthynas â rheoliadau arfaethedig sy’n newid targed allyriadau 2050 neu’n gosod neu’n newid targedau allyriadau interim, fod rhaid i gyngor y corff cynghori gynnwys ei farn ynghylch a yw’r targed a gynigir gan Weinidogion Cymru y targed uchaf y gellir ei gyflawni, ac os nad ydyw, beth, ym marn y corff, yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.

207.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol, mewn perthynas â rheoliadau arfaethedig sy’n gosod neu’n newid cyllidebau carbon, i’r corff cynghori gynghori ar y lefelau y dylid eu pennu ar gyfer cyllidebau carbon ac i ba raddau y dylid cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod drwy ostwng swm allyriadau net Cymru neu drwy ddefnyddio unedau carbon a gredydir i gyfrif allyriadau net Cymru. Rhaid i’r corff cynghori gynghori ar y cyfraniad at gyrraedd cyllidebau carbon y dylai sectorau o economi Cymru y mae cynlluniau masnachu yn berthnasol iddynt (i gyd gyda’i gilydd) ei wneud, ac yn yr un modd sectorau eraill nad yw cynlluniau o’r fath yn berthnasol iddynt (i gyd gyda’i gilydd). Mae’n ofynnol hefyd i’r corff cynghori gynghori ar sectorau o economi Cymru sy’n cynnig cyfleoedd penodol i wneud cyfraniad at gyrraedd cyllidebau carbon drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

208.Mae i ‘cynllun masnachu’ at ddibenion yr adran hon yr ystyr a roddir gan adran 44 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Mae adran 44 o’r Ddeddf honno yn diffinio cynlluniau masnachu fel cynlluniau sydd naill ai:

  • yn cyfyngu ar weithgareddau sy’n allyrru nwyon tŷ gwydr neu sy’n arwain yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar allyriadau o’r fath (cynlluniau “capio a masnachu”, er enghraifft, sy’n capio allyriadau o fath penodol o weithgareddau ac yn caniatáu masnachu allyriadau o fewn y cap), neu

  • yn annog gweithgareddau sy’n lleihau, neu sy’n arwain yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol at leihau, allyriadau nwyon tŷ gwydr neu sy’n echdynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer.

209.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff cynghori, wrth gynghori Gweinidogion Cymru ar wneud rheoliadau a fydd yn newid targed allyriadau 2050 neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon, roi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources