Adran 31 – Cyllidebau carbon
153.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod, ar gyfer pob cyfnod cyllidebol o bum mlynedd, gyfanswm uchaf ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru, a elwir yn gyllideb garbon. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer pob cyfnod yn uwch na’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw. Y cyfnod cyllidebol cyntaf yw 2016 i 2020, a’r cyfnodau cyllidebol sy’n weddill yw pob cyfnod dilynol o bum mlynedd, gan ddod i ben â 2046-2050.
154.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod 2 gyllideb garbon olynol ar gyfer y cyfnodau 2016-2020 a 2021-2025 cyn diwedd 2018. Mae hefyd yn creu dyletswydd i osod cyllidebau carbon dilynol o leiaf 5 mlynedd cyn y cyfnod cyllidebol o dan sylw. Wrth wneud y rheoliadau sy’n gosod cyllidebau carbon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r materion y darperir ar eu cyfer yn adran 32(3). Rhaid i Weinidogion Cymru ofyn am gyngor gan y corff cynghori (adran 49(1)) cyn gosod y rheoliadau drafft i osod cyllideb garbon. Rhaid i gyngor y corff cynghori i Weinidogion Cymru gynnwys yn ogystal farn y corff ar y materion y darperir ar eu cyfer yn adran 50(2), gan gynnwys lefel briodol y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod.