Adran 58 - Gweinyddu
231.Mae adran 58 yn gwneud darpariaeth ynghylch pwy a gaiff fod yn gyfrifol am weinyddu’r drefn o godi tâl am fagiau siopa. Mae’r adran hon yn darparu y caiff y rheoliadau bagiau siopa benodi unrhyw berson i fod yn weinyddwr ac y caiff roi pwerau i’r person hwnnw, a gosod dyletswyddau arno, at ddiben gweinyddu’r drefn. O dan Reoliadau 2010, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yw’r gweinyddwyr ar gyfer eu hardaloedd.
232.Er mwyn rhoi pwerau i’r gweinyddwr, a gosod dyletswyddau arno, o dan is-adran (3), mae is-adran (4) yn darparu y caiff y rheoliadau ddiwygio deddfiadau sy’n gymwys i’r gweinyddwr (megis deddfiadau ynghylch pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol). Diffinnir “deddfiad” yn adran 87. Caniateir rhoi swyddogaethau gorfodi i’r gweinyddwr o dan adran 60.