Cymhwyso’R Ddeddf
6.Treth ar drafodiadau tir yng Nghymru yw’r dreth trafodiadau tir. Pan fo trafodiad o’r fath yn “hysbysadwy” i ACC (sef yn fras, pan nad yw’r trafodiad wedi ei esemptio a bod swm y gydnabyddiaeth yn uwch na throthwy gofynnol), rhaid cyflwyno ffurflen dreth trafodiadau tir a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus. Cyfrifir y dreth sydd i’w chodi drwy gyfeirio at y gydnabyddiaeth a dalwyd, ond mae hyn yn ddarostyngedig i reolau arbennig mewn achosion penodol a’r ffaith fod rhyddhad ar gael ar gyfer mathau penodol o drafodiadau.
7.Ar ei lefel weithredu fwyaf sylfaenol, bydd y Ddeddf hon yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl pan fyddant yn prynu eiddo preswyl i fyw ynddo, neu unrhyw berson (e.e. fel rhan o fusnes) sy’n caffael eiddo amhreswyl.