Adrannau 22-23 - Gwerth marchnadol tybiedig ac Eithriadau
34.Pan fo cwmni yn prynu tir oddi wrth berson cysylltiedig, neu fod y gydnabyddiaeth yn ddyroddi neu drosglwyddo cyfranddaliadau mewn unrhyw gwmni y mae’r person yn gysylltiedig ag ef, caiff y gydnabyddiaeth drethadwy ei chyfrifo yn unol â gwerth marchnadol y tir ac os yw’n gymwys, unrhyw rent a dalwyd o dan les os yw’r swm hwnnw yn uwch na’r hyn fyddai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad o dan reolau eraill y Ddeddf hon. Nid yw trafodiadau o’r fath i’w trin fel pe bai dim cydnabyddiaeth drethadwy. Nid yw adran 22 yn gymwys:
pan fo’r prynwr yn dal y tir neu’r eiddo fel ymddiriedolwr yng nghwrs busnes rheoli ymddiriedolaethau;
pan fo’r prynwr yn dal y tir neu’r eiddo fel ymddiriediolwr ac nad yw’n “gysylltiedig” â’r gwerthwr heblaw fel y darperir yn adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010, er enghraifft oherwydd bod y gwerthwr yn setlwr y setliad; neu,
pan fo’r gwerthwr yn gwmni, a bod y trafodiad o ganlyniad i ddosbarthu asedau’r cwmni (gan gynnwys dosbarthu asedau wrth ddiddymu’r cwmni) ac nad yw’r gwerthwr wedi hawlio rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r buddiant hwnnw o fewn 3 blynedd cyn y trafodiad.