Rhan 2 - Y rhyddhadau
Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i berson
303.Mae’r darpariaethau ym mharagraff 2 yn ymdrin â sefyllfaoedd pan fo sefydliad ariannol:
yn prynu prif fuddiant mewn tir oddi wrth berson (“P”) neu oddi wrth sefydliad ariannol arall sydd wedi prynu’r buddiannau o dan y mathau o drefniadau a drafodir ym mharagraff 2(1) yr ymrwymir iddynt rhyngddo a P (“y trafodiad cyntaf”);
yn lesu’r tir yn ôl i P; ac
yn ymrwymo i gytundeb lle bod gan P yr hawl i’w wneud yn ofynnol bod y sefydliad ariannol hwnnw yn trosglwyddo’r prif fuddiant yn ôl i P. Mae’r trafodiadau hynny wedi eu rhyddhau rhag treth trafodiadau tir, yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y paragraff.
304.Mae rhyddhad ar gael hefyd pan fo sefydliad ariannol yn prynu prif fuddiant gan sefydliad ariannol arall sydd wedi ymrwymo i drefniadau o’r fath gyda pherson.
Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a ailwerthir i berson
305.Mae’r darpariaethau ym mharagraff 3 yn ymdrin â sefyllfaoedd pan fo:
sefydliad ariannol yn prynu prif fuddiant mewn tir (“y trafodiad cyntaf”);
yn ei werthu i berson (“P”); ac
yn gyfnewid am hynny, mae P yn rhoi morgais cyfreithiol dros y tir i’r sefydliad ariannol.
306.Yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y paragraff, mae’r pryniant gan y sefydliad wedi ei ryddhau rhag treth trafodiadau tir os prynwyd y prif fuddiant oddi wrth P neu sefydliad ariannol arall sydd wedi prynu prif fuddiant newydd o dan drefniadau a grybwyllir ym mharagraff 2(1) rhynddo a P.
307.Mae’r gwerthiant gan y sefydliad ariannol wedi ei ryddhau rhag treth os cydymffurfir â’r amodau ym mharagraff 3(3).