Rhan 4 - Rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol
315.Mae’r trafodiad cyntaf a’r ail drafodiad wedi eu rhyddhau rhag treth trafodiadau tir yn unol â’r amodau a nodir yn Rhan 4, sef:
mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau os rhoddir yr adles oddi wrth B i A cyn diwedd 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith (h.y. y tri amod cyntaf yn Rhan 3); a
ar gyfer yr ail drafodiad, bodlonwyd yr holl amodau yn Rhan 3 a chydymffurfiwyd â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad cyntaf.
316.Mae paragraff 14 yn nodi’r amgylchiadau y caiff y rhyddhad ei dynnu’n ôl oddi tanynt.
317.O dan baragraff 17, nid yw rhyddhad ar gael, neu gellir ei dynnu yn ôl, mewn amgylchiadau pan fo deiliaid y bond yn caffael rheolaeth dros ased y bond neu’n ei reoli (yn yr un ffordd ag o dan baragraff 4, uchod).
Disodli ased
318.Mae darpariaethau paragraff 18 yn caniatáu disodli’r tir gwreiddiol fel ased bond gan fuddiant mewn tir arall, heb amharu ar yr hawl i ryddhad, drwy ddatgymhwyso’r gofyniad bod B yn dal y buddiant gwreiddiol fel ased bond nes y daw’r trefniadau i ben (cyhyd ag y cydymffurfir â’r holl amodau eraill yn y paragraff). Os yw’r tir amnewid yng Nghymru, bydd yn ddarostyngedig i bridiant newydd o blaid ACC (a chaiff y pridiant ar y tir gwreiddiol ei ollwng, yn ddarostyngedig i gydymffurfio â’r amodau). Os yw’r tir amnewid y tu allan i Gymru, ni fydd ACC yn cymryd pridiant tir drosto (ond serch hynny rhaid iddo fod wedi ei fodloni fod yr amodau mewn perthynas â’r tir gwreiddiol wedi eu bodloni cyn gollwng y pridiant hwnnw).