Rhan 6 - Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
363.Mae Rhan 6 yn nodi’r darpariaethau y gall trafodiadau sy’n ymwneud â darparwyr tai cymdeithasol gael eu rhyddhau rhag treth trafodiadau tir oddi tanynt pan fo amodau cymhwyso yn cael eu bodloni.
364.Caiff landlord cymdeithasol cofrestredig hawlio rhyddhad rhag treth trafodiadau tir pan fo’n ymrwymo i drafodiad tir fel prynwr, a:
bod y landlord cymdeithasol cofrestredig yn cael ei reoli gan ei denantiaid (hynny yw, bod y mwyafrif o aelodau’r bwrdd yn denantiaid sy’n meddiannu eiddo sy’n berchen iddo neu a reolir ganddo);
bod y gwerthwr yn gorff cymwys; neu
bod y trafodiad wedi ei ariannu gyda chymorth cymhorthdal cyhoeddus.
365.Mae paragraff 19(3) yn darparu dehongliad ac yn nodi ystyr y termau “aelod o’r bwrdd”, “cymhorthdal cyhoeddus” a “corff cymwys” at ddibenion y Rhan hon. Diffinnir “landlord cymdeithasol cofrestredig” fel corff a gofrestrwyd fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gedwir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996.