Rhyddhad ar gyfer eiddo a dderbynnir i dalu treth
419.Mae paragraff 6 o’r Atodlen hon yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir ar gyfer trafodiad tir sy’n ymwneud â throsglwyddo tir neu eiddo a dderbynnir i dalu treth o dan adran 9 o Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 (gwaredu eiddo a dderbynnir gan Gomisiynwyr). Rhaid i’r trafodiad tir yn y sefyllfa hon drosglwyddo’r buddiant trethadwy i berson a enwebir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru (adran 9(4) o’r Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol) neu sefydliad neu gorff a ddiffinnir yn adran 9(2) o’r Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol fel:
unrhyw amgueddfa, unrhyw oriel gelf, unrhyw lyfrgell neu unrhyw sefydliad tebyg arall sydd â’r diben o gadw casgliad o ddiddordeb hanesyddol, artistig neu wyddonol er budd y cyhoedd;
unrhyw gorff sydd â’r diben o ddarparu, gwella neu gadw amwynderau a fwynheir gan y cyhoedd neu sydd i’w mwynhau gan y cyhoedd, neu gaffael tir i’w ddefnyddio gan y cyhoedd; ac
unrhyw gorff y mae cadwraeth natur yn un o’i ddibenion.