Trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol
191.Pan fo cyrff cyhoeddus neu addysgol cymwys penodol (“A”) yn trosglwyddo buddiant i barti arall (“B”), sy’n cael ei lesio yn ôl gan B i A wedi hynny, mae paragraff 18 yn darparu nad yw’r canlynol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy:
(ar gyfer y prif drosglwyddiad) yr adles, gwaith adeiladu na darparu gwasanaethau gan B; nac
(ar gyfer yr adles) y prif drosglwyddiad, y trosglwyddiad o dir dros ben nac arian a delir i B am waith adeiladu neu am ddarparu gwasanaethau.