Adran 6 – Gwaredu deunydd fel gwastraff
15.Effaith yr adran hon yw bod gwarediad deunydd yn warediad o wastraff os yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad yn bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu. Gellir dod i’r casgliad y bwriedir bwrw’r deunydd o’r neilltu ar sail amgylchiadau ei waredu, ac yn benodol ar sail y ffaith bod y deunydd wedi ei ddodi mewn man gwarediadau tirlenwi, megis gwagle a ddefnyddir yn gyffredinol ar gyfer gwarediadau tirlenwi ar safle. Un yn unig o’r pedwar amod y mae’n rhaid ei fodloni er mwyn i atebolrwydd i dreth godi (gweler adran 3) yw’r bwriad i fwrw o’r neilltu (pa un a ddeuir i gasgliad ynghylch y bwriad hwnnw ai peidio).
16.Nid yw’r ffaith bod person yn gwneud defnydd dros dro neu ddefnydd atodol o ddeunydd a ddodir mewn man gwarediadau tirlenwi, neu’n cael budd ohono (neu o unrhyw beth, megis nwy, a allyrrir ohono), yn rhwystro’r person hwnnw, o anghenraid, rhag bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu. Mae is-adran (3) yn egluro y gall person fwriadu bwrw deunydd o’r neilltu hyd yn oed os yw’n cael ei ddefnyddio. Mewn achos o’r fath (a phan fodlonir yr amodau eraill yn y adran 3), mae’r dreth i’w chodi ar waredu’r deunydd hwnnw.
17.Caiff rheoliadau addasu ystyr gwaredu deunydd fel gwastraff fel y’i nodir yn adran 6.