Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Pennod 3 – Rhyddhad rhag Treth
Adran 26 – Rhyddhadau: cyffredinol

55.Mae’r adran hon yn cyflwyno’r bennod ar ryddhadau ac yn nodi’r rheolau cyffredinol a ganlyn: nid yw rhyddhadau yn gymwys ond mewn perthynas â gwarediadau a wneir ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig (felly nid ydynt yn gymwys mewn perthynas â gwarediadau heb eu hawdurdodi); pan fo rhyddhad yn gymwys, nid oes treth i’w chodi; ac ni fydd rhyddhad yn gymwys oni bai y caiff ei hawlio ar ffurflen dreth. Caiff ACC bennu ffurf y ffurflen dreth a’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys arni (o dan adran 191 o DCRhT), a bydd yn ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi gadw a storio’n ddiogel unrhyw gofnodion sy’n berthnasol i’r hawliad, yn unol ag adran 38 o DCRhT (6 mlynedd i ddyddiad dychwelyd y ffurflen dreth neu i ddyddiad cwblhau ymholiad).

Adran 27 – Deunydd a dynnir o wely afon, o wely’r mor neu o wely dyfroedd eraill

56.Mae’r rhyddhad hwn yn gymwys i warediad:

a.

deunydd a dynnir o wely dyfroedd penodol; a

b.

deunydd sy’n bodoli’n naturiol a dynnir o wely’r môr fel rhan o’r broses o gael deunyddiau megis tywod a graean.

57.Caiff y rhyddhad fod yn gymwys i ddeunyddiau a dynnir at unrhyw ddiben, gan gynnwys tynnu deunyddiau er budd mordwyaeth neu er mwyn atal llifogydd.

58.Mae’r rhyddhad hefyd yn cwmpasu unrhyw ddeunydd cymwys a ychwanegir at y deunydd sydd wedi ei garthu sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw’r deunydd sydd wedi ei garthu ar ffurf hylif (gan ganiatáu iddo, felly, gael ei waredu ar safle tirlenwi). Rhagwelir y byddai gan y deunydd cymwys a ychwanegir nodweddion sychu neu y byddai’n rhwymo’r lleithder gormodol sydd yn y gwastraff.

Adran 28 – Deunydd sy’n deillio o fwyngloddio a chwarela

59.Mae’r rhyddhad hwn yn gymwys i warediadau deunydd sy’n bodoli’n naturiol a echdynnwyd o’r ddaear o ganlyniad i fwyngloddio neu weithrediadau chwarela. Mae gwarediad deunydd o’r fath wedi ei rhyddhau rhag treth os nad yw’r deunydd wedi bod yn destun unrhyw broses ar wahân, neu os nad yw wedi ei addasu’n gemegol, rhwng ei echdynnu a’i waredu.

Adrannau 29 i 31 – Defnyddio deunydd mewn gwaith adfer safle cymeradwy; gwaith adfer safle: y weithdrefn wrth wneud cais am gymeradwyaeth; a gwaith adfer safle: amrywio cymeradwyaeth

60.Mae defnyddio deunyddiau mewn gweithgarwch adfer safle yn weithgarwch tirlenwi penodedig, felly mae i’w drin fel gwarediad trethadwy (gweler adran 8(3)(i)). Mae’r darpariaethau hyn yn darparu ar gyfer rhyddhau’r gwarediad rhag treth os yw’r deunydd wedi ei ffurfio o ddeunydd cymwys ac yn cael ei ddefnyddio i adfer safle tirlenwi awdurdodedig (neu ran ohono) at ddefnydd arall. Fodd bynnag, maent yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr safleoedd tirlenwi geisio cymeradwyaeth ar gyfer y gwaith adfer ymlaen llaw er mwyn gallu hawlio’r rhyddhad. Ni fydd defnyddio deunydd i adfer safle heb gymeradwyaeth gan ACC yn elwa ar y rhyddhad. Rhagwelir y bydd y darpariaethau hyn yn galluogi ACC i asesu’r deunydd a ddefnyddir i adfer safle yn drylwyr ac i sicrhau nad oes modd cam-fanteisio ar y rhyddhad.

61.Mae adran 29 yn darparu y caiff ACC gymeradwyo cyflawni gwaith adfer ar safle tirlenwi awdurdodedig. Fodd bynnag, cyn gwneud hynny, bydd angen i ACC fod wedi ei fodloni bod adfer y safle yn ofynnol o dan drwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle. Dim ond y swm angenrheidiol o ddeunydd i gydymffurfio â’r drwydded neu’r caniatâd a fydd yn elwa ar y rhyddhad.

62.Er bod rhaid i weithredwr safle tirlenwi wneud cais i ACC am gymeradwyaeth cyn i’r gwaith adfer ddechrau, nid oes angen i’r gweithredwr aros am gymeradwyaeth gan ACC cyn dechrau adfer y safle. Er enghraifft, gallai gweithredwr safle tirlenwi benderfynu bwrw ymlaen heb gymeradwyaeth er mwyn manteisio ar dywydd braf neu’r ffaith fod deunydd addas ar gael. Fodd bynnag, byddai gweithredwr y safle tirlenwi yn ysgwyddo’r risg ei hun wrth wneud hynny, oherwydd nid oes sicrwydd y byddai ACC yn cymeradwyo’r cais am gymeradwyaeth, er mwyn iddo allu hawlio rhyddhad adfer safle.

63.Mae adran 30 yn darparu ar gyfer adegau pan fo rhagor o wybodaeth yn ofynnol gan ACC er mwyn penderfynu a ddylid cymeradwyo cais i gyflawni gwaith adfer safle ai peidio, ac yn nodi’r paramedrau o ran sut y bydd hynny’n gweithio yn ymarferol. Caiff ACC a gweithredwr y safle tirlenwi gytuno i ymestyn cyfnod o amser a bennir gan yr adran hon.

64.Mae adran 31 yn cydnabod y gall gofynion y gwaith adfer safle a nodir yn y drwydded amgylcheddol neu’r caniatâd cynllunio newid, ac mae’n caniatáu i ACC amrywio’r gymeradwyaeth a roddir i adfer y safle. Gall amrywiad gael ei wneud o ganlyniad i gais gan weithredwr safle tirlenwi, neu gall ACC ei wneud. Os yw ACC yn amrywio’r gymeradwyaeth i adfer safle tirlenwi ohono’i hun, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad sy’n nodi manylion yr amrywiad i weithredwr y safle tirlenwi. Nid yw amrywio cymeradwyaeth i adfer safle yn effeithio ar allu gweithredwr y safle tirlenwi i hawlio rhyddhad ar gyfer y gwaith adfer a gyflawnwyd yn unol â’r gymeradwyaeth cyn iddi gael ei hamrywio.

Adran 32 - Ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli

65.Mae’r adran hon yn darparu rhyddhad ar gyfer gwaredu deunydd cymwys ar safle tirlenwi (neu ran ohono):

a.

pan fu’r safle tirlenwi (neu’r rhan ohono lle gwneir y gwarediad) yn fwynglawdd brig neu’n chwarel yn y gorffennol;

b.

pan fo’n un o ofynion y caniatâd cynllunio bod rhaid ail-lenwi’r safle (neu’r rhan ohono dan sylw) yn llwyr neu’n rhannol ar ôl y gweithrediadau cloddio brig neu chwarela; ac

c.

os na wnaed unrhyw warediadau trethadwy eraill ar y safle (neu ran ohono), ac eithrio gwarediadau sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad o dan adran 28 neu 32.

Adran 33 - Pŵer i addasu rhyddhadau

66.Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, greu, addasu neu ddileu rhyddhad; a darparu bod rhyddhad yn ddarostyngedig i amodau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources