Pennod 4 – Casglu a Rheoli’r Dreth
Adrannau 34 i 38 – Cofrestru
67.Er mwyn galluogi ACC i gasglu a rheoli TGT yn effeithiol, mae’n bwysig ei fod yn gwybod pwy yw’r trethdalwyr. Mae adran 34 yn gosod dyletswydd ar ACC i gadw cofrestr o’r personau hynny sy’n gweithredu safleoedd tirlenwi awdurdodedig lle gwneir gwarediadau trethadwy. Ystyrir bod personau o’r fath yn cyflawni “gweithrediadau trethadwy” at ddibenion y Ddeddf hon. Rhaid i gofnod person ar y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2. Caiff ACC gyhoeddi unrhyw wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr er mwyn i fusnesau allu sicrhau eu bod yn anfon eu gwastraff i safleoedd tirlenwi awdurdodedig, ymysg pethau eraill.
68.Mae adran 35 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy fod wedi ei gofrestru gydag ACC. Rhaid i berson sy’n bwriadu cyflawni gweithrediadau trethadwy wneud cais i ACC i gael ei gofrestru ac mae’n rhaid iddo wneud hynny o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’n dechrau cyflawni’r gweithrediadau trethadwy.
69.Mae’n bwysig bod y gofrestr yn parhau’n gywir a’i bod yn adlewyrchu’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am weithredwyr safle tirlenwi. Felly, mae adran 36 yn ei gwneud yn ofynnol i berson cofrestredig, neu berson sydd wedi gwneud cais i gofrestru, roi gwybod i ACC am unrhyw newidiadau neu anghywirdebau yn yr wybodaeth y maent wedi ei darparu, a gwneud hynny mewn ffordd sy’n cydymffurfio â gofynion yr adran honno.
70.Mae adran 37 yn ei gwneud yn ofynnol i berson cofrestredig sy’n rhoi’r gorau i gyflawni gweithrediadau trethadwy wneud cais i ACC i ddileu ei gofrestriad, yn ddim hwyrach na 30 o ddiwrnodau wedi i’r gweithrediadau trethadwy ddod i ben.
71.Mae cosbau yn gysylltiedig â’r gofynion cofrestru yn adrannau 35 a 36. Gellir gweld y rhain yn adrannau 64 i 67 o’r Ddeddf.
72.Mae adran 38 yn diwygio adran 172(2) o DCRhT er mwyn i’r gweithdrefnau adolygu ac apelio yn Rhan 8 o’r Ddeddf honno fod yn gymwys i benderfyniadau sy’n ymwneud â chofrestru person gydag ACC at ddibenion TGT.
Adrannau 39 i 41 – Cyfrifo treth
73.Dylid darllen yr adrannau hyn o’r Ddeddf a’r nodiadau hyn ar y cyd â Phennod 3 o Ran 3 o DCRhT a’r nodiadau esboniadol perthnasol (paragraffau 46 a 47), sy’n mynd gyda DCRhT.
74.Mae adran 39 yn gosod dyletswydd ar weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig sy’n cyflawni gwarediadau trethadwy i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu. Rhaid i’r ffurflen dreth gynnwys asesiad o swm y dreth sydd i’w godi ar y gweithredwr a datgan bod yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y gweithredwr.
75.Rhaid dychwelyd ffurflenni treth, ynghyd ag unrhyw daliad treth, yn ddim hwyrach na diwrnod gwaith olaf y mis sy’n dilyn y mis y daw’r cyfnod cyfrifyddu i ben ynddo, oni bai bod y dyddiad hwnnw yn cael ei amrywio o dan adran 40. Er enghraifft, os daw cyfnod cyfrifyddu i ben ar 30 Mehefin, rhaid dychwelyd ffurflen dreth a thalu’r dreth erbyn diwrnod gwaith olaf mis Gorffennaf.
76.O ran gweithredwyr safleoedd tirlenwi cofrestredig, mae’r cyfnod cyfrifyddu cyntaf yn dechrau â’r diwrnod y maent yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy (neu, os yw’n hwyrach, y diwrnod y daw’n weithredwr cofrestredig) ac yn dod i ben â’r diwrnod y rhoddir gwybod iddynt amdano gan ACC. O hynny ymlaen, eu cyfnodau cyfrifyddu fydd pob cyfnod dilynol o 3 mis (oni bai bod y cyfnodau hynny yn cael eu hamrywio o dan adran 40).
77.O ran gweithredwyr safle tirlenwi nad ydynt yn gofrestredig, mae’r cyfnod cyfrifyddu cyntaf yn dechrau â’r diwrnod y maent yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy ac yn parhau hyd at ddiwedd y chwarter calendr y maent yn dechrau gwneud hynny (neu, os yw’n gynharach, y diwrnod cyn y diwrnod y daw’n weithredwr cofrestredig). O hynny ymlaen, pob chwarter calendr fydd y cyfnodau cyfrifyddu (sef cyfnodau o 3 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr).
78.Mae adran 40 yn rhoi’r pŵer i ACC amrywio hyd cyfnod cyfrifyddu a dyddiad ffeilio ffurflen dreth. Mae unrhyw amrywiad o’r fath i’w wneud drwy ddyroddi hysbysiad i weithredwr y safle tirlenwi.
79.Mae adran 41 yn darparu bod y dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y gwnaed y gwarediad ynddo. Fodd bynnag, ceir un eithriad i’r rheol hon: os yw gweithredwr safle tirlenwi yn dyroddi anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â gwarediad o fewn 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir y gwarediad, yna codir y dreth mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y dyroddir yr anfoneb ynddo. Felly, er enghraifft, pan fo cyfnodau cyfrifyddu gweithredwr safle tirlenwi yn chwarteri calendr ac y gwneir gwarediad trethadwy ar 28 Mehefin, gan ddyroddi anfoneb dirlenwi ar ei gyfer ar 1 Gorffennaf, y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer y dreth ar y gwarediad hwnnw fydd y chwarter calendr sy’n dod i ben ar 30 Medi yn hytrach na’r chwarter calendr sy’n dod i ben ar 30 Mehefin. Mae Atodlen 3 yn nodi’r wybodaeth y mae angen ei chynnwys ar anfoneb dirlenwi. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau i ddiwygio Atodlen 3.
Talu, adennill ac ad-dalu treth
Adran 42 – Talu treth
80.Mae is-adran (1) yn nodi bod rhaid i’r swm o dreth yr asesir ei fod i’w godi gael ei dalu erbyn dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth. Mae is-adran (2) yn nodi’r sefyllfa pan fo ffurflen dreth yn cael ei diwygio o dan adran 41 o DCRhT gan arwain at yr angen i dalu swm ychwanegol o dreth. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid talu’r dreth yn ddim hwyrach na’r dyddiad ffeilio, os caiff y diwygiad ei wneud cyn y dyddiad ffeilio, neu os gwneir y diwygiad yn ddiweddarach, rhaid talu’r dreth ar yr un pryd ag y gwneir y diwygiad.
Adran 43 – Dyletswydd i gadw crynodeb treth gwarediadau tirlenwi
81.Mae adran 43 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cyflawni gwarediadau trethadwy gadw crynodeb TGT mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu. Rhaid i’r cofnod hwn gofnodi swm y dreth sydd i’w godi ar y person a’r dreth a dalwyd gan y person hwnnw mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu. Mae gan ACC y pŵer i bennu ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r crynodeb TGT, a’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo. Mae’r crynodeb hwn i’n drin fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38 o DCRhT, sy’n ei gwneud yn ofynnol cadw cofnodion am 6 mlynedd ar ôl dychwelyd ffurflen dreth neu roi hysbysiad diwygio, oni bai bod ACC yn pennu cyfnod byrrach.
Adran 44 – Gohirio adennill
82.Mae adrannau 181A-181I o DCRhT yn nodi’r amgylchiadau lle caiff person wneud cais i ACC i ohirio adennill treth ddatganoledig tra bo’n aros am adolygiad neu apêl ynghylch penderfyniad ACC, y broses ar gyfer gwneud cais o’r fath ac effaith caniatáu cais i ohirio.
83.Mae adran 44 yn diwygio adran 181B o DCRhT at ddibenion ceisiadau gohirio sy’n ymwneud â TGT. Effaith y diwygiadau yw ei gwneud yn ofynnol i ACC, wrth ystyried cais i ohirio TGT, yn ogystal ag ystyried pa un a oes gan berson sail resymol dros ddatgan bod swm y dreth yn ormodol (fel y byddai’n digwydd gyda threthi datganoledig eraill), ystyried hefyd a fyddai adennill y swm yn achosi caledi ariannol. Felly, rhaid i gais person i ohirio nodi’r rhesymau pam fod y person hwnnw yn meddwl y byddai adennill y dreth yn achosi caledi ariannol iddo, yn ogystal â nodi’r swm y mae’n gofyn am ei ohirio, a pham ei fod yn meddwl bod swm y dreth y mae ACC yn ceisio ei adennill yn ormodol.
84.Gellir caniatáu cais i ohirio yn llawn pan fydd y profion yn adran 181B(4) o DCRhT, fel y’i diwygiwyd gan adran 44(3), wedi eu bodloni, neu gellir caniatáu’r cais hwnnw mewn perthynas â rhan o swm y mae anghytundeb yn ei gylch yn unol ag adran 181B(5) fel y’i diwygiwyd gan adran 44(4)(b).
Adran 45 – Dim gofyniad i ollwng neu ad-dalu treth oni thelir yr holl dreth
85.Mae adran 45 yn diwygio adran 67 o DCRhT. Mae’r diwygiad hwn yn sicrhau nad oes angen i ACC roi effaith i gais am ryddhad o dan adran 63 o DCRhT pan fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi yn mae’n ofynnol i’r ceisydd ei dalu heb ei dalu.