Adran 55 – Dynodi Man nad yw at Ddibenion Gwaredu
102.Caiff man nad yw at ddibenion gwaredu ei chreu ar safle tirlenwi awdurdodedig naill ai oherwydd bod gweithredwr y safle tirlenwi yn gwneud cais i greu man nad yw at ddibenion gwaredu neu oherwydd bod ACC yn ei gwneud yn ofynnol i fan o’r fath gael ei greu.
103.Mae’r adran hon yn caniatáu i ACC ddynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig yn fan nad yw at ddibenion gwaredu drwy ddyroddi hysbysiad i weithredwr y safle. Fe’i bwriedir i alluogi ACC i wahaniaethu rhwng y gweithgarwch hwnnw ar safle tirlenwi a ystyrir yn warediadau trethadwy a’r dulliau hynny o ddefnyddio gwastraff nad ydynt yn drethadwy. Mae hyn yn bwysig i ganfod yr atebolrwydd cywir o ran treth.
104.Mae is-adran (3) yn nodi’r wybodaeth y caiff ACC ei phennu neu y mae’n rhaid iddo ei phennu yn yr hysbysiad dynodi i alluogi gweithredwr y safle tirlenwi i reoli’r man nad yw at ddibenion gwaredu. Ymhlith pethau eraill, rhaid i ACC nodi pa ddeunydd y mae’n rhaid ei ddodi mewn man a chaiff hefyd nodi pa ddeunydd na chaniateir ei ddodi mewn man; er enghraifft, gallai ACC ddyroddi hysbysiad sy’n nodi na chaniateir dodi deunydd cyfradd safonol mewn man nad yw at ddibenion gwaredu lle y mae deunydd cymwys yn cael ei storio.
105.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff yr hysbysiad gynnwys amodau neu eithriadau ac y caiff wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol. Er enghraifft, gallai amod ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi weithredu mewn ffordd sy’n dderbyniol o dan delerau ei drwydded amgylcheddol. Mae’r ddarpariaeth hon yn darparu hyblygrwydd i alluogi ACC i addasu dynodiad man nad yw at ddibenion gwaredu fesul achos, gan gydnabod bod pob safle tirlenwi yn wahanol.
106.Mae is-adrannau (5) i (7) yn rhoi pŵer i ACC amrywio neu ddileu hysbysiad dynodi ac yn nodi’r broses ar gyfer gwneud hynny. Yn yr un modd â dynodiad gwreiddiol man nad yw at ddibenion gwaredu, gall amrywio neu ddileu dynodiad ddeillio o ganlyniad i gais gan weithredwr y safle tirlenwi, neu gall ACC ei ysgogi.
107.Rhaid i geisiadau i wneud, i amrywio neu i ddileu hysbysiad dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig a chaiff ACC bennu ffurf, cynnwys a dull danfon hysbysiad o’r fath (o dan adran 191 o DCRhT). Mae is-adran (9) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad i weithredwr y safle tirlenwi os yw ACC yn gwrthod cais i wneud, i amrywio neu i ddileu hysbysiad dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu.
108.Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon i wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch yr hyn sydd i’w gynnwys mewn hysbysiad a ddyroddir o dan yr adran hon.