Adran 56 – Dyletswyddau gweithredwr mewn perthynas â man nad yw at ddibenion gwaredu
109.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar weithredwyr safleoedd tirlenwi i gydymffurfio â thelerau hysbysiad dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu. Mae is-adrannau (2) i (4) yn nodi’r amgylchiadau pan na fydd y ddyletswydd hon yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys achosion pan fo deunydd yn cael ei waredu yn rhywle arall ar y safle, fel y nodir yn is-adran (2), a phan fo deunydd a gludir i’r safle yn cael ei waredu neu ei symud o’r safle tirlenwi ar unwaith (er enghraifft, am ei fod yn llwyth wedi ei rannu), fel y nodir yn is-adran (3). Mae is-adran (4) yn darparu’r hyblygrwydd i ACC gytuno i ddeunydd gael ei drin mewn modd nad yw’n unol â thelerau’r dynodiad mewn achosion penodol. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys sefyllfa pan fo llwyth llosg yn cyrraedd y safle tirlenwi a bod angen ei drin ar unwaith.
110.Mae is-adran (5) yn caniatáu i gytundeb gan ACC o dan is-adran (4) fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau. Mae is-adran (5)(b) yn ystyried yn benodol y caiff cytundeb o’r fath ymwneud â storio symiau mawr o ddeunydd tebyg (y cyfeirir ato yn aml fel gwastraff swmpus), ac mae’n galluogi ACC i gytuno i drin symudiadau o’r man fel symudiadau gwastraff a storiwyd ynghynt.