Adran 59 – Pwerau archwilio
115.Mae adran 59 yn gwneud diwygiadau i Bennod 4 o Ran 4 (Pwerau Ymchwilio ACC: Archwilio Mangreoedd ac Eiddo Arall) o DCRhT at ddibenion TGT. Dylid darllen yr adran hon o’r Ddeddf a’r nodiadau hyn ar y cyd â Phennod 4 o Ran 4 o DCRhT a’r nodiadau esboniadol (paragraffau 117 i 142) sy’n mynd gyda DCRhT.
116.Mae adran 103A o DCRhT (a fewnosodir gan y Ddeddf hon) yn darparu y gall ACC fynd i fangreoedd busnes trydydd partïon ac archwilio’r mangreoedd hynny (gan gynnwys yr asedau busnes a’r dogfennau busnes perthnasol sydd yn y mangreoedd) i gadarnhau rhwymedigaeth gweithredwr safle tirlenwi i dalu TGT. Diffinnir mangreoedd busnes yn adran 111 o DCRhT. Ni chaiff ACC ond archwilio dogfennau sy’n ymwneud â materion sy’n berthnasol i rwymedigaeth gweithredwr y safle tirlenwi i dalu TGT. Ni cheir arfer y pwerau hyn ond pan fo gan ACC reswm i gredu:
bod person wedi ymwneud â gwarediad trethadwy yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth (gall hyn gynnwys gorsaf trosglwyddo gwastraff neu gludydd gwastraff); a
bod yr archwiliad yn ofynnol er mwyn helpu ACC i gadarnhau rhwymedigaeth person arall i dalu TGT.
117.Gall methu â chaniatáu i ACC archwilio o dan y pŵer hwn arwain at gosb o dan adran 146 o DCRhT.
118.Rhagwelir y bydd y pŵer hwn yn cael ei ddefnyddio gan ACC pan fo ganddo reswm i gredu bod gweithredwr safle tirlenwi wedi darparu hunanasesiad nad yw’n gofnod cywir o’i rwymedigaeth i dreth, a phan fyddai archwilio mangre busnes y trydydd parti o gymorth i unrhyw ymchwiliad cysylltiedig. Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o drydydd partïon yn cydweithredu’n wirfoddol mewn ymchwiliadau o’r fath heb fod angen i ACC ddefnyddio’r pŵer hwn.
119.Mae adran 103B o DCRhT (fel y’i mewnosodir gan y Ddeddf hon) yn darparu, pan fo ACC yn ymchwilio i warediad heb ei awdurdodi (hynny yw, gwarediad trethadwy a wneir yn rhywle heblaw safle tirlenwi awdurdodedig - gweler Rhan 4), y gall ACC fynd i eiddo, gan gynnwys eiddo nad yw’n fangre busnes, a chynnal archwiliad (gan gynnwys archwilio asedau a dogfennau sydd yn y fangre) os oes gan ACC reswm i gredu:
bod gwarediad wedi digwydd yn y fangre; neu
bod y meddiannydd yn bodloni, neu y gallai fodloni, yr amod codi tâl (gweler adran 47) mewn perthynas â TGT ar y gwarediad sy’n destun yr ymchwiliad.
120.Bydd y pŵer hwn yn galluogi ACC i ymchwilio i warediadau heb eu hawdurdodi er mwyn penderfynu a ddylid dyroddi hysbysiad rhagarweiniol neu hysbysiad codi treth o dan Bennod 2 o Ran 4 o’r Ddeddf. Eto, gall methu â chaniatáu i ACC archwilio o dan y pŵer hwn arwain at gosb o dan adran 146 o DCRhT.
121.Ceir nifer o fesurau diogelwch ym Mhennod 4 o DCRhT sydd yr un mor gymwys i ddefnydd ACC o’i bwerau archwilio mewn perthynas â TGT. Er enghraifft, mae adran 103(2) o DCRhT yn nodi na all ACC ond arfer ei bwerau archwilio gyda chytundeb meddiannwr y fangre neu gymeradwyaeth y Tribiwnlys. Mae Atodlen 4 o’r Ddeddf hon yn diwygio adran 108(4) o DCRhT i sicrhau na chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwilio mangreoedd:
onid yw ACC yn gallu bodloni’r tribiwnlys y bodlonir y gofyniad cymwys yn adran 108(4A) o DCRhT; a
mewn achos pan fo ACC wedi gwneud cais am gymeradwyaeth y tribiwnlys heb ddyroddi hysbysiad o’r cais i’r trethdalwr neu feddiannydd y fangre, onid yw ACC hefyd yn gallu bodloni’r tribiwnlys y gallai rhoi hysbysiad ymlaen llaw o’r cais i’r trethdalwr lesteirio asesu a chasglu treth.
122.Mae’r adran hon hefyd yn gwneud nifer o fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i DCRhT at ddibenion TGT.