Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Pennod 3 – Ymchwilio a Gwybodaeth
Adran 59 – Pwerau archwilio

115.Mae adran 59 yn gwneud diwygiadau i Bennod 4 o Ran 4 (Pwerau Ymchwilio ACC: Archwilio Mangreoedd ac Eiddo Arall) o DCRhT at ddibenion TGT. Dylid darllen yr adran hon o’r Ddeddf a’r nodiadau hyn ar y cyd â Phennod 4 o Ran 4 o DCRhT a’r nodiadau esboniadol (paragraffau 117 i 142) sy’n mynd gyda DCRhT.

116.Mae adran 103A o DCRhT (a fewnosodir gan y Ddeddf hon) yn darparu y gall ACC fynd i fangreoedd busnes trydydd partïon ac archwilio’r mangreoedd hynny (gan gynnwys yr asedau busnes a’r dogfennau busnes perthnasol sydd yn y mangreoedd) i gadarnhau rhwymedigaeth gweithredwr safle tirlenwi i dalu TGT. Diffinnir mangreoedd busnes yn adran 111 o DCRhT. Ni chaiff ACC ond archwilio dogfennau sy’n ymwneud â materion sy’n berthnasol i rwymedigaeth gweithredwr y safle tirlenwi i dalu TGT. Ni cheir arfer y pwerau hyn ond pan fo gan ACC reswm i gredu:

a.

bod person wedi ymwneud â gwarediad trethadwy yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth (gall hyn gynnwys gorsaf trosglwyddo gwastraff neu gludydd gwastraff); a

b.

bod yr archwiliad yn ofynnol er mwyn helpu ACC i gadarnhau rhwymedigaeth person arall i dalu TGT.

117.Gall methu â chaniatáu i ACC archwilio o dan y pŵer hwn arwain at gosb o dan adran 146 o DCRhT.

118.Rhagwelir y bydd y pŵer hwn yn cael ei ddefnyddio gan ACC pan fo ganddo reswm i gredu bod gweithredwr safle tirlenwi wedi darparu hunanasesiad nad yw’n gofnod cywir o’i rwymedigaeth i dreth, a phan fyddai archwilio mangre busnes y trydydd parti o gymorth i unrhyw ymchwiliad cysylltiedig. Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o drydydd partïon yn cydweithredu’n wirfoddol mewn ymchwiliadau o’r fath heb fod angen i ACC ddefnyddio’r pŵer hwn.

119.Mae adran 103B o DCRhT (fel y’i mewnosodir gan y Ddeddf hon) yn darparu, pan fo ACC yn ymchwilio i warediad heb ei awdurdodi (hynny yw, gwarediad trethadwy a wneir yn rhywle heblaw safle tirlenwi awdurdodedig - gweler Rhan 4), y gall ACC fynd i eiddo, gan gynnwys eiddo nad yw’n fangre busnes, a chynnal archwiliad (gan gynnwys archwilio asedau a dogfennau sydd yn y fangre) os oes gan ACC reswm i gredu:

a.

bod gwarediad wedi digwydd yn y fangre; neu

b.

bod y meddiannydd yn bodloni, neu y gallai fodloni, yr amod codi tâl (gweler adran 47) mewn perthynas â TGT ar y gwarediad sy’n destun yr ymchwiliad.

120.Bydd y pŵer hwn yn galluogi ACC i ymchwilio i warediadau heb eu hawdurdodi er mwyn penderfynu a ddylid dyroddi hysbysiad rhagarweiniol neu hysbysiad codi treth o dan Bennod 2 o Ran 4 o’r Ddeddf. Eto, gall methu â chaniatáu i ACC archwilio o dan y pŵer hwn arwain at gosb o dan adran 146 o DCRhT.

121.Ceir nifer o fesurau diogelwch ym Mhennod 4 o DCRhT sydd yr un mor gymwys i ddefnydd ACC o’i bwerau archwilio mewn perthynas â TGT. Er enghraifft, mae adran 103(2) o DCRhT yn nodi na all ACC ond arfer ei bwerau archwilio gyda chytundeb meddiannwr y fangre neu gymeradwyaeth y Tribiwnlys. Mae Atodlen 4 o’r Ddeddf hon yn diwygio adran 108(4) o DCRhT i sicrhau na chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwilio mangreoedd:

a.

onid yw ACC yn gallu bodloni’r tribiwnlys y bodlonir y gofyniad cymwys yn adran 108(4A) o DCRhT; a

b.

mewn achos pan fo ACC wedi gwneud cais am gymeradwyaeth y tribiwnlys heb ddyroddi hysbysiad o’r cais i’r trethdalwr neu feddiannydd y fangre, onid yw ACC hefyd yn gallu bodloni’r tribiwnlys y gallai rhoi hysbysiad ymlaen llaw o’r cais i’r trethdalwr lesteirio asesu a chasglu treth.

122.Mae’r adran hon hefyd yn gwneud nifer o fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i DCRhT at ddibenion TGT.

Adran 60 – Datgelu gwybodaeth i ACC

123.Mae adran 60 yn caniatáu i wybodaeth a geir gan awdurdodau lleol yng Nghymru neu Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gael ei datgelu i ACC i helpu ACC i gasglu a rheoli TGT, ac ymchwilio i atebolrwydd i dreth pan fo hynny’n angenrheidiol.

124.Nid yw adran 60 yn awdurdodi datgelu gwybodaeth i ACC pe byddai’r datgelu yn groes i Ddeddf Diogelu Data 1998 neu os yw wedi ei wahardd gan adrannau perthnasol o Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016.

125.Rhagwelir y caiff y pŵer hwn ei ddefnyddio pan fo awdurdod lleol neu CNC, fel rhan o’u swyddogaethau o ddydd i ddydd, yn nodi unrhyw weithgarwch, megis gwarediad heb ei awdurdodi, a allai arwain at rwymedigaeth i dalu TGT. Mae’r pŵer hwn yn caniatáu i’r cyrff hynny drosglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud â’r gweithgarwch ac unrhyw rwymedigaeth bosibl gysylltiedig i ACC fel y gellir ei defnyddio mewn ymchwiliad trethi neu gamau gorfodi trethi.

126.Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu unigolion eraill neu sefydliadau eraill y caniateir iddynt rannu gwybodaeth gydag ACC o dan yr adran hon. Gallai’r rhain gynnwys cyrff cyhoeddus megis Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, er enghraifft.

127.Ni ragwelir y bydd awdurdodau lleol nac CNC yn rhannu gwybodaeth fel mater o drefn gydag ACC ynghylch safleoedd tirlenwi awdurdodedig a’u gweithredwyr. Dylai’r gweithredwyr hyn eisoes fod yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arno i ACC drwy’r system gofrestru trethi a’u ffurflenni treth rheolaidd. Fodd bynnag, pan fo awdurdodau lleol neu CNC yn credu y gallai’r wybodaeth fod o ddiddordeb i ACC mewn perthynas â chasglu neu reoli’r dreth, gall fod yn bosibl i rannu’r wybodaeth hon gydag ACC, ac fe all hyn arwain at ymchwiliad trethi.

128.Mae Rhan 2 o DCRhT yn ymdrin â defnyddio a datgelu gwybodaeth a gedwir gan ACC, ac mae’n cynnwys darpariaeth arbennig i ddiogelu datgelu gwybodaeth a ddiogelir ynghylch trethdalwr. Mae’r rheolau hyn yn caniatáu i wybodaeth sensitif ynghylch trethdalwr a gedwir gan ACC gael ei datgelu i bersonau eraill neu i sefydliadau eraill o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Mae’r amgylchiadau hyn yn cynnwys pan fo’r datgeliad yn cael ei wneud at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol, neu er mwyn atal neu ganfod trosedd, neu i gynorthwyo mewn achosion sifil.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources