Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Pennod 4 – Cosbau o dan y Ddeddf hon

129.Y terfyn amser ar gyfer asesu’r rhan fwyaf o’r cosbau o dan y Ddeddf hon yw 12 mis, gan ddechrau â’r diwrnod yr oedd ACC yn credu am y tro cyntaf fod y person wedi torri’r gofyniad perthnasol, neu wedi methu â chydymffurfio ag ef. Yn achos cosbau dyddiol am fynd yn groes i’r gofynion cofrestru, rhaid asesu’r gosb o fewn y cyfnod o 12 mis gan ddechrau â’r diwrnod y mae’r gosb yn berthnasol iddi.

Adrannau 61 i 63 – Cosbau sy’n ymwneud â chyfrifo pwysau trethadwy deunydd

130.Mae adran 61 yn darparu bod gweithredwr safle tirlenwi sy’n methu â phennu pwysau deunydd mewn gwarediad trethadwy yn unol ag adran 20 yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r methiant yn ymwneud ag ef.

131.Pan fo gweithredwr safle tirlenwi yn cymhwyso disgownt heb fod â chymeradwyaeth i wneud hynny o dan adran 21, neu’n cymhwyso disgownt sy’n fwy na’r disgownt a gymeradwyir o dan adran 21, mae adran 62 yn darparu bod gweithredwr y safle tirlenwi yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo yn y naill neu’r llall o’r ffyrdd hynny.

132.Mae adran 63 yn caniatáu cyfuno asesiad o gosb ag asesiad treth, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i asesiad o gosb gael ei wneud o fewn 12 mis i’r adeg yr oedd ACC yn credu am y tro cyntaf fod y gweithredwr yn agored i gosb.

133.Mae’r cosbau hyn yn gymwys i weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn unig.

Adrannau 64 i 67 – Cosbau sy’n ymwneud â chofrestru

134.Mae adran 64 yn darparu bod person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy heb fod yn gofrestredig yn agored i gosb o £300 (y “gosb gofrestru”). Pan fo person yn parhau i gyflawni gweithrediadau trethadwy, heb fod yn gofrestredig, 10 o ddiwrnodau ar ôl dyroddi yr hysbysiad am y gosb gofrestru, bydd y person hwnnw yn agored i gosb bellach neu gosbau pellach nad yw neu nad ydynt yn fwy na £60 am bob diwrnod y mae’n parhau i wneud hynny.

135.Mae adran 65 yn nodi eithriad i’r rheolau hyn. Pan fo person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy heb fod yn gofrestredig, gan dorri adran 35, mae’n darparu na fydd y person hwnnw yn agored i gosb o dan adran 64 os yw’n gallu bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y toriad.

136.Mae adran 66 yn darparu bod person sy’n methu â chydymffurfio ac unrhyw un o’r gofynion sy’n ymwneud â chofrestru a nodir yn is-adran (2) yn agored i gosb nad yw’n fwy na £300 yn ddarostyngedig i is-adran (2).

Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu
Adran 68 – Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

137.Mae’r adran hon yn darparu y bydd gweithredwr safle tirlenwi sy’n methu â chydymffurfio â thelerau hysbysiad sy’n dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu (fel sy’n ofynnol gan adran 56) neu sy’n methu â chadw cofnodion mewn perthynas â deunydd a ddodir yn y man a’u storio’n ddiogel (fel sy’n ofynnol gan adran 57) yn agored i gosb nad yw’n fwy na £3000.

138.Ni roddir cosb mewn cysylltiad â methu â chadw cofnodion neu fethu â storio cofnodion yn ddiogel os yw gweithredwr y safle tirlenwi yn darparu tystiolaeth arall sy’n profi er boddhad ACC unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi.

139.Gwneir darpariaeth ar wahân yn adran 8(2)(g) ar gyfer achosion pan gedwir deunydd mewn man nad yw at ddibenion gwaredu am gyfnod hirach nag sy’n cael ei ganiatáu. Mewn achos o’r fath, tybir y bydd gwarediad trethadwy wedi ei wneud ac felly gall fod yn ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi dalu treth ar y gwarediad, yn ogystal â bod yn agored i gosb o dan adran 68.

Adran 69 – Asesu cosbau o dan adran 68

140.Mae’r adran hon yn galluogi cyfuno asesiad o gosb o dan adran 68 ag asesiad treth. Er enghraifft, os yw gweithredwr y safle tirlenwi yn methu â chydymffurfio â thelerau hysbysiad sy’n dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu, yn enwedig pan fo’r methiant yn ymwneud â lleoliad deunydd, caiff ACC bennu bod gwarediad trethadwy wedi ei gyflawni, a dyroddi asesiad treth o dan DCRhT ar yr un adeg y mae’n asesu’r gosb o dan adran 68 mewn cysylltiad â’r un methiant.

Cyffredinol
Adran 72 – Atebolrwydd cynrychiolwyr personol

141.Pan fo gweithredwr safle tirlenwi wedi marw, mae adran 72 yn caniatáu i unrhyw gosb a all fod wedi ei hasesu ar y gweithredwr gael ei hasesu ar gynrychiolwyr personol y gweithredwr.

Adran 73 – Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbau

142.Mae adran 73 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol drwy reoliadau ynghylch y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau a symiau cosbau o dan y Bennod hon o Ran 5 o’r Ddeddf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources