Pennod 5 – Cosbau ychwanegol o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
Adrannau 74 i 76 – Cosbau am fethiannau lluosog i ddychwelyd ffurflenni treth; methu â thalu treth mewn pryd; a methiannau lluosog i dalu treth mewn pryd
143.Dylid darllen yr adrannau hyn o’r Ddeddf a’r nodiadau hyn ar y cyd â Rhan 5 o DCRhT a’r nodiadau esboniadol (paragraffau 147 i 151), sy’n cyd-fynd â DCRhT.
144.Mae adran 74 yn diwygio DCRhT ac yn darparu ar gyfer gosod cosbau uwch pan fo person sydd wedi methu â dychwelyd ffurflen dreth TGT mewn pryd yn methu, wedi hynny, â dychwelyd ffurflenni TGT eraill mewn pryd o fewn y cyfnod cosbi. Mae’r cyfnod cosbi yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio ar gyfer y ffurflen dreth gyntaf sy’n hwyr, ac, oni bai y caiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b), yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach.
145.Mae adran 75 yn diwygio DCRhT i ddarparu mai swm y gosb mewn cysylltiad â methu â thalu TGT mewn pryd yw 1% o swm y dreth sydd heb ei thalu.
146.Mae adran 76 yn diwygio DCRhT ac yn darparu ar gyfer gosod cosbau uwch pan fo person sydd wedi methu â thalu TGT mewn pryd yn methu, wedi hynny, â thalu symiau pellach o TGT mewn pryd o fewn y cyfnod cosbi. Mae’r cyfnod cosbi yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer y swm cyntaf o dreth sydd heb ei thalu (gweler Tabl A1 yn adran 122 o DCRhT) ac, oni bai y caiff ei ymestyn o dan adran (2)(b), yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach.