Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Pennod 6 – Achosion Arbennig
Grwpiau corfforaethol
Adrannau 77 a 78 – Dynodi grŵp o gwmnïau; ac amodau ar gyfer dynodi yn aelod o grŵp

147.Mae adran 77 yn caniatáu i ACC ddynodi dau neu ragor o gyrff corfforaethol yn grŵp at ddibenion y dreth. Effaith dynodi grŵp yw y caiff aelod cynrychiadol y grŵp ei drin, at ddibenion y dreth, fel gweithredwr safle tirlenwi y safleoedd sy’n cael eu gweithredu gan aelodau’r grŵp. Yn unol â hynny, bydd rhaid i swm o dreth, cosb neu log y byddai’n ofynnol fel arall i aelod o’r grŵp ei dalu o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir tra bo’n aelod o’r grŵp gael ei dalu, yn hytrach, gan yr aelod cynrychiadol. Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â rhwymedigaeth aelodau o grŵp ar y cyd ac yn unigol.

148.Er mwyn cael dynodiad grŵp, mae angen gwneud cais i ACC. Rhaid i ACC fod wedi ei fodloni bod y cais yn cael ei wneud gyda chytundeb pob aelod arfaethedig o’r grŵp. Ni chaniateir gwneud dynodiad grŵp oni fo holl aelodau’r grŵp yn cyflawni gweithrediadau trethadwy neu’n bwriadu gwneud hynny. Rhaid i bob aelod o’r grŵp fod o dan reolaeth yr un corff corfforaethol, unigolyn neu unigolion. Os yw ACC yn gwrthod cais grŵp, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am y gwrthodiad.

Adran 79 – Amrywio neu ganslo dynodiad

149.Pan fo grŵp wedi ei ddynodi, caiff ACC amrywio’r dynodiad drwy ychwanegu neu dynnu ymaith aelod o’r grŵp neu drwy newid yr aelod cynrychiadol. Mae gan ACC hefyd y pŵer i ddiddymu dynodiad grŵp. Gall ACC amrywio neu ddiddymu dynodiad grŵp ar ei gymhelliad ei hun neu yn dilyn cais gan yr aelod cynrychiadol. Caniateir hefyd i unrhyw aelod o’r grŵp wneud cais i amrywio dynodiad grŵp pan fo’r cais hwnnw yn ymwneud â’r ffaith bod yr aelod hwnnw yn dymuno cael ei dynnu ymaith o’r dynodiad grŵp.

150.Rhaid i ACC amrywio neu ddiddymu’r dynodiad grŵp os yw’n fodlon nad yw amodau’r dynodiad yn cael eu bodloni mwyach.

151.Mae ACC yn amrywio neu’n diddymu drwy ddyroddi hysbysiad i bob aelod o’r grŵp, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu hychwanegu at y grŵp neu eu tynnu ymaith ohono. Os yw ACC yn gwrthod amrywio neu ddiddymu’r dynodiad grŵp, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am y gwrthodiad.

Adran 80 – Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi grwpiau o gwmnïau

152.Mae adran 80 yn diwygio adran 172(2) o DCRhT fel bod y gweithdrefnau adolygu ac apelio yn Rhan 8 o’r Ddeddf honno yn berthnasol i benderfyniadau sy’n ymwneud â dynodi grŵp at ddibenion TGT.

Partneriaethau a chyrff anghorfforedig
Adrannau 82 i 84 – Cofrestru partneriaethau a chyrff anghorfforedig a newidiadau mewn aelodaeth; dyletswyddau a rhwymedigaethau partneriaethau a chyrff anghorfforedig; a phŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â phartneriaethau a chyrff anghorfforedig

153.Pan fo dau berson neu ragor yn rhedeg busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, mae adran 82 yn darparu y caiff ACC gofrestru’r personau yn eu henwau eu hunain neu yn enw’r bartneriaeth neu’r corff. Os cofrestrir yn enw’r bartneriaeth neu’r corff a bod ei haelodaeth neu ei aelodaeth yn newid, rhaid bod o leiaf un o’r aelodau wedi bod yn aelod o’r bartneriaeth neu’r corff cyn y newid er mwyn i’r cofrestriad barhau’n ddilys.

154.Yn unol ag adran 36 o’r Ddeddf, rhaid rhoi gwybod i ACC am unrhyw newidiadau i aelodaeth partneriaeth neu gorff anghorfforedig, ac effaith adran 82(4) yw bod person yn cael ei drin fel petai’n parhau i fod yn aelod o bartneriaeth neu gorff hyd nes y rhoddir gwybod i ACC fel arall.

155.Pan fo unrhyw beth yn ofynnol neu y caniateir ei wneud gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n rhan o bartneriaeth neu gorff anghorfforedig o dan y Ddeddf hon neu DCRhT, mae adran 83 yn darparu bod rhaid iddo gael ei wneud gan bob person sy’n bartner yn y bartneriaeth neu’n aelod rheoli o’r corff ar yr adeg y caiff ei wneud, neu y mae’n ofynnol ei wneud, neu mewn perthynas â hwy. Fodd bynnag, caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob partner neu aelod rheoli gael ei wneud yn hytrach gan unrhyw un neu ragor ohonynt.

156.Mae rhwymedigaeth i dalu swm o dreth, cosb neu log o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir gan bersonau sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig yn rhwymedigaeth ar y cyd ac yn unigol i bob person sy’n bartner yn y bartneriaeth neu’n aelod o’r corff ar yr adeg y gwneir y peth neu’r adeg nas gwneir.

157.Mae adran 84 yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a all ychwanegu at ddarpariaethau ynglŷn ag achosion, eu diddymu neu eu diwygio, pan fo personau yn rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig.

Personau sy’n rhedeg busnes tirlenwi yn newid
Adrannau 85 ac 86 – Marwolaeth, analluedd ac ansolfedd; a phŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â marwolaeth, analluedd ac ansolfedd

158.Mae adrannau 85 ac 86 yn berthnasol pan fo gweithredwr safle tirlenwi yn marw, yn mynd yn analluog neu’n dod yn destun gweithdrefn ansolfedd a bod person arall yn rhedeg busnes tirlenwi’r gweithredwr hwnnw. Mae’r darpariaethau yn adran 85 yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n rhedeg y busnes tirlenwi roi gwybod i ACC o fewn 30 o ddiwrnodau i’r diwrnod y dechreuodd y person redeg y busnes tirlenwi. Ar ôl cael hysbysiad, neu ar ei gymhelliad ei hun, caiff ACC drin y person sy’n rhedeg y busnes tirlenwi fel petai’n weithredwr y safle tirlenwi at ddibenion y dreth. Mae’r adran hon hefyd yn gwneud darpariaeth o ran pryd y mae’n rhaid i driniaeth o’r fath ddod i ben.

159.Mae adran 86 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a all ychwanegu at, diddymu neu ddiwygio darpariaethau ynghylch achosion pan fo person sydd wedi rhedeg busnes tirlenwi yn marw, yn mynd yn analluog neu’n dod yn destun gweithdrefn ansolfedd.

Adran 87 – Pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo busnesau fel busnesau gweithredol

160.Mae adran 87 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn rheoliadau ynghylch cymhwyso’r Ddeddf a DCRhT mewn achosion pan fo busnes tirlenwi yn cael ei drosglwyddo o un person i un arall fel busnes gweithredol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources