Adran 16 – Ceisiadau i gofrestru
31.Mae adran 16 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Reoliadau 2001 mewn perthynas â cheisiadau i gofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru.
32.Mae adran 16(3)(a) yn diwygio rheoliad 26 fel ei fod yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeiswyr na allant ddarparu dyddiad geni ddatgan a ydynt o dan 16 oed, yn 16 neu’n 17 oed, neu’n 18 oed neu’n hŷn.
33.Effaith y diwygiad yn adran 16(3)(b) yw ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn Etholiadol gynnwys y wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ym mharagraff (1A) wrth ddylunio ffurflenni cais perthnasol.
34.Mae adran 16(3)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol gynnwys gwybodaeth ar y ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru sy'n nodi, yn achos cofrestru etholwyr llywodraeth leol, nad yw personau nad ydynt yn ddinasyddion tramor cymhwysol, dinasyddion y Gymanwlad, dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon a dinasyddion perthnasol yr Undeb yn gymwys i gofrestru i bleidleisio.
35.Mae adran 16(3)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol nodi yn y ffurflenni cais perthnasol sut y caiff gwybodaeth am ymgeiswyr i gofrestru sydd o dan 16 oed ei chadw a'i defnyddio.
36.Mae adran 16(3)(e) yn diwygio rheoliad 26 drwy ddileu'r gofyniad i ddarparu rhif Yswiriant Gwladol wrth wneud cais i gofrestru pan fo'r ymgeisydd o dan 16 oed.
37.Mae hefyd yn dileu’r gofyniad ar swyddogion cofrestru i roi esboniad i’r ymgeiswyr o’r gofrestr olygedig pan fo’r ymgeisydd o dan 16 oed a phan fo’r swyddog cofrestru wedi awdurdodi’r ymgeisydd i ddarparu’r wybodaeth sy’n ofynnol dros y ffôn neu’n bersonol. Y rheswm am hyn yw na fydd manylion pobl 14 neu 15 oed yn cael eu cynnwys yn y gofrestr olygedig.
38.Mae adran 16(4) yn diwygio rheoliad 26B. Pan fo’r ymgeisydd o dan 16 oed, nid yw pŵer y swyddog cofrestru i ofyn am wybodaeth ychwanegol o dan y rheoliad hwnnw’n gymwys os oes gwybodaeth ar gael i’r swyddog cofrestru o gofnodion addysgol, a phan fo’r wybodaeth honno’n bodloni’r swyddog cofrestru o ran hunaniaeth yr ymgeisydd a’i hawl i gael ei gofrestru.
39.Mae adran 16(5) yn dileu’r gofyniad yn rheoliad 28 bod rhaid i gais i gofrestru, ac unrhyw wrthwynebiad i gais o’r fath, fod ar gael i’w archwilio, pan wneir cais gan berson o dan 16 oed. Ni fydd manylion ceisiadau personau o dan 16 oed yn cael eu cyhoeddi.
40.Mae adran 16(6) yn darparu nad yw rheoliad 29ZA yn gymwys mewn achosion pan wneir cais i gofrestru gan berson o dan 16 oed. Mae Rheoliad 29ZA yn gwneud darpariaeth ynghylch dilysu gwybodaeth a ddarperir mewn cais i gofrestru sy’n cynnwys anfon y wybodaeth i’w gwirio ar sail cofnodion a gedwir gan Cyllid a Thollau EM a’r Adran Gwaith a Phensiynau.