Adran 31 – Eithriad rhag anghymhwyso yn rhinwedd bod yn Aelod Seneddol: newidiadau i ddyddiadau etholiadau cyffredinol Aelodau o'r Senedd
108.Mae adran 17B o Ddeddf 2006 yn darparu eithriad rhag anghymhwyso Aelod Cynulliad a ddychwelir fel Aelod Seneddol o fewn 372 o ddyddiau ar ôl etholiad cyffredinol nesaf Aelodau’r Cynulliad. At ddiben adran 17B o Ddeddf 2006, mae diwrnod disgwyliedig etholiad cyffredinol nesaf Aelodau'r Cynulliad i'w bennu drwy gyfeirio at yr amgylchiadau ar ddechrau diwrnod dychwelyd yr Aelod Cynulliad fel Aelod Seneddol. Cyfeirir at hyn fel “y cyfnod perthnasol”.
109.Mae adran 31 yn diwygio adran 17B o Ddeddf 2006 fel ei bod yn adlewyrchu'r gwelliannau a wneir gan Ddeddf Cymru 2017 i adrannau 3 a 4 o Ddeddf 2006, yn benodol mewn perthynas â'r dulliau ar gyfer newid y dyddiad pan ellir cynnal etholiad Cynulliad.
110.Mae adran 31 hefyd yn diwygio adran 17B(4) o Ddeddf 2006 i ddisodli cyfeiriad anghywir at Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor i broclamasiwn er mwyn sicrhau cysondeb ag adran 5 o Ddeddf 2006 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017.