Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i

 Rhan 4.Anghymhwyso

95.Mae Rhan 4 o'r Ddeddf yn diwygio'r gyfraith ar anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o'r Senedd. Mae'r darpariaethau yn Rhan 4 yn adlewyrchu rhai o'r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol yn ei adroddiad ar anghymhwyso ym mis Gorffennaf 2014 – Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

96.Ar hyn o bryd, mae adran 16(1)(a) a (2) o Ddeddf 2006 yn darparu bod person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Senedd os yw'r person wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod o Dŷ'r Cyffredin. Mae Rhan 4 o'r Ddeddf yn diddymu'r darpariaethau hynny ac yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf 2006 sy'n nodi’r holl resymau dros anghymhwyso ar wyneb Deddf 2006 yn hytrach na thrwy gyfeirio at anghymhwyso person rhag bod yn aelod o Dŷ'r Cyffredin.

97.Mae Rhan 4 hefyd yn diwygio Deddf 2006 fel ei bod yn gwahaniaethu rhwng yr amgylchiadau sy’n rhwystr rhag ymgeisyddiaeth i’r Senedd a’r swyddi hynny sy’n rhwystr rhag bod yn Aelod o’r Senedd, ond nid rhag ymgeisyddiaeth. Yr olaf yw’r rhai yr ystyrir y gallent arwain at wrthdaro buddiant pe byddai person yn Aelod o’r Senedd ond lle y mae modd ymddiswyddo o’r swydd sy’n achosi’r gwrthdaro cyn tyngu’r llw neu gadarnhau teyrngarwch.

98.Dargedwir y trefniadau arbennig a wnaed eisoes mewn perthynas ag Aelodau Seneddol yn adrannau 17A a 17B o Ddeddf 2006. Mae'r adrannau hynny’n caniatáu i berson fod yn aelod o'r ddwy ddeddfwrfa am gyfnod cyfyngedig mewn rhai amgylchiadau. Mae’r Ddeddf yn diwygio Deddf 2006 fel y gwneir darpariaeth arbennig yn yr un modd mewn perthynas ag Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi ac aelodau o awdurdodau lleol yng Nghymru.

99.Bydd y newidiadau hyn yn cael effaith at ddibenion etholiad y Senedd a gynhelir ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny.

Adran 29 – Anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o’r Senedd

100.Mae adran 29 yn diwygio adran 16 o Ddeddf 2006 i greu gwahaniaeth rhwng anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o’r Senedd a rhag bod yn ymgeisydd ar gyfer etholiad i'r Senedd, ac anghymhwyso person rhag bod yn Aelod yn unig. Mae hefyd yn newid y ffordd y mae Deddf 2006 yn nodi’r rhesymau dros anghymhwyso.

101.Mae is-adran (2) yn mewnosod is-adran newydd (A1) yn adran 16 o Ddeddf 2006. Mae'n darparu y caiff person ei anghymhwyso rhag bod yn Aelod, a rhag bod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd os yw wedi’i gynnwys mewn unrhyw un o'r categorïau person a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1A newydd i Ddeddf 2006 neu’n dal unrhyw un o'r swyddi a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1A (a fewnosodwyd gan adran 29(7) o’r Ddeddf).

102.Mae is-adran (3) yn diwygio adran 16(1) o Ddeddf 2006 i ddarparu bod Aelodau o Dŷ’r Cyffredin, Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi, aelodau o gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru, aelodau o Senedd yr Alban, aelodau o Gynulliad Gogledd Iwerddon, Aelodau o Senedd Ewrop a phersonau a restrir mewn unrhyw Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wneir o dan adran 16(1)(b) o Ddeddf 2006, wedi’u hanghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Senedd, ond nad ydynt wedi'u hanghymhwyso rhag bod yn ymgeiswyr.

103.Mae is-adran (4) yn mewnosod is-adran (1A) newydd yn adran 16 o Ddeddf 2006 sy'n ei gwneud yn glir nad yw aelodau o Senedd yr Alban, aelodau o Gynulliad Gogledd Iwerddon, Aelodau o Senedd Ewrop a phersonau sy'n dal swydd a nodir mewn Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor wedi’u hanghymhwyso os yw'r person yn ymddiswyddo cyn tyngu’r llw (neu’r cadarnhad cyfatebol) fel Aelod o'r Senedd.

104.Mae is-adrannau (3)(c) a (5) hefyd yn dileu'r anghymwysiadau presennol sy'n gysylltiedig ag anghymwysiadau rhag bod yn Aelod o Dŷ'r Cyffredin. Mae adran 29 (3)(e) yn dileu paragraffau (c) i (e) o adran 16(1) o Ddeddf 2006. Mae paragraffau (c) a (d) yn anghymhwyso Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru rhag bod yn Aelodau o’r Cynulliad. Mae paragraff (e) yn anghymhwyso aelodau staff y Cynulliad. Mae adran 29 (5) yn dileu'r anghymwysiadau presennol ar gyfer rhai personau (Arglwydd Raglaw, Rhaglaw neu Uchel-Siryf) mewn perthynas ag etholaeth neu ranbarth etholiadol Senedd. Dargedwir yr anghymwysiadau a gafodd eu dileu gan adran 29(3), ond maent wedi’u cynnwys erbyn hyn gydag amgylchiadau eraill sy’n anghymhwyso yn Atodlen 1A i Ddeddf 2006. Mae Atodlen 1A yn darparu ar gyfer anghymhwyso personau sy'n dal swydd Arglwydd Raglaw, Rhaglaw neu Uchel-Siryf ar gyfer unrhyw ardal yng Nghymru.

105.Mae is-adran (7) yn cyflwyno'r Atodlen 1A newydd. Mae Rhan 1 o Atodlen 1A yn nodi categorïau o bersonau sydd wedi'u hanghymhwyso; mae Rhan 2 yn nodi swyddi sy'n anghymwyso. Ym mhob achos, maent yn anghymhwyso personau rhag bod yn ymgeiswyr, yn ogystal ag Aelodau o’r Senedd.

Adran 30 – Eithriadau a rhyddhad rhag anghymhwyso

106.Mae adran 30 yn diwygio adran 17 o Ddeddf 2006. Mae is-adran (2) yn dileu’r eithriad rhag anghymhwyso i Arglwyddi ac Arglwyddi Ysbrydol (archesgobion ac esgobion). Mae hefyd yn dileu'r eithriad ar gyfer anghymhwyso rhai o ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU a anwyd dramor nad oes eu hangen mwyach o ystyried diddymu adran 16(2) o Ddeddf 2006. Erbyn hyn, gwneir darpariaeth gyfatebol yn Atodlen 1A newydd i Ddeddf 2006.

107.Mae is-adran (3) yn diwygio adran 17(3) o Ddeddf 2006 fel y caiff y Senedd ddyfarnu rhyddhad a diystyru anghymhwysiad person rhag bod yn Aelod o'r Senedd os caiff ei anghymhwyso yn rhinwedd adran 16(1) o Ddeddf 2006, ond nid os caiff y person ei anghymhwyso hefyd rhag bod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd yn rhinwedd adran 16(A1).

Adran 31 – Eithriad rhag anghymhwyso yn rhinwedd bod yn Aelod Seneddol: newidiadau i ddyddiadau etholiadau cyffredinol Aelodau o'r Senedd

108.Mae adran 17B o Ddeddf 2006 yn darparu eithriad rhag anghymhwyso Aelod Cynulliad a ddychwelir fel Aelod Seneddol o fewn 372 o ddyddiau ar ôl etholiad cyffredinol nesaf Aelodau’r Cynulliad. At ddiben adran 17B o Ddeddf 2006, mae diwrnod disgwyliedig etholiad cyffredinol nesaf Aelodau'r Cynulliad i'w bennu drwy gyfeirio at yr amgylchiadau ar ddechrau diwrnod dychwelyd yr Aelod Cynulliad fel Aelod Seneddol. Cyfeirir at hyn fel “y cyfnod perthnasol”.

109.Mae adran 31 yn diwygio adran 17B o Ddeddf 2006 fel ei bod yn adlewyrchu'r gwelliannau a wneir gan Ddeddf Cymru 2017 i adrannau 3 a 4 o Ddeddf 2006, yn benodol mewn perthynas â'r dulliau ar gyfer newid y dyddiad pan ellir cynnal etholiad Cynulliad.

110.Mae adran 31 hefyd yn diwygio adran 17B(4) o Ddeddf 2006 i ddisodli cyfeiriad anghywir at Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor i broclamasiwn er mwyn sicrhau cysondeb ag adran 5 o Ddeddf 2006 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017.

Adran 32 – Eithriad rhag anghymhwyso yn rhinwedd bod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi

111.Mae adran 32 yn mewnosod adran 17C newydd i Ddeddf 2006. Nid oedd Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi wedi'u hanghymhwyso rhag bod yn Aelodau o’r Senedd o'r blaen yn rhinwedd adran 17(1) o Ddeddf 2006 (a ddiddymir gan adran 30(2) o'r Ddeddf hon). Yn y dyfodol, bydd Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi yn cael eu hanghymhwyso o dan adran 16(1)(zb) o Ddeddf 2006 (a fewnosodir gan adran 29(3)(b) o'r Ddeddf hon), yn ddarostyngedig i’r eithriadau a gyflwynir gan yr adran hon.

112.O dan adran 17(C)(1) o Ddeddf 2006, ni fydd Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi a ddychwelir mewn etholiad fel Aelod o’r Senedd yn cael eu hanghymhwyso yn ystod y cyfnod wyth diwrnod ar ôl iddynt gael eu dychwelyd. Bwriad y 'cyfnod gras' wyth diwrnod yw rhoi digon o amser i Aelodau sydd newydd eu hethol wneud cais am ganiatâd i fod yn absennol o Dŷ'r Arglwyddi. Caiff Tŷ’r Arglwyddi ddyfarnu caniatâd i fod yn absennol i Aelod pan nad yw’r Aelod yn gallu mynd i eisteddiadau’r Tŷ dros dro a phan fo gan yr Aelod ddisgwyliad rhesymol y bydd yn cymryd rhan yn nhrafodion y Tŷ eto yn y dyfodol.

113.Bydd adran 17(C)(2) newydd o Ddeddf 2006 yn darparu, yn yr un modd, na fydd Aelodau o'r Senedd sy'n dod yn Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi yn cael eu hanghymhwyso cyn diwedd y cyfnod wyth diwrnod sy’n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r person yn tyngu’r llw (neu'r cadarnhad cyfatebol) fel sy'n ofynnol yn ôl Deddf Llwon Seneddol 1866.

114.Mae adran 17(C)(3) newydd o Ddeddf 2006 yn darparu nad yw person wedi'i anghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Senedd os oes ganddo naill ai ganiatâd i fod yn absennol o Dŷ'r Arglwyddi, neu os yw wedi gwneud cais am ganiatâd nad yw wedi’i dynnu'n ôl na’i wrthod.

115.Bydd adran 17(C)(4) newydd o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn glir nad yw person sydd â chaniatâd i fod yn absennol o Dŷ'r Arglwyddi yn union cyn i Senedd y DU gael ei diddymu, wedi'i anghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Senedd ar unrhyw adeg rhwng diddymu hen Senedd y DU a diwedd y cyfnod wyth diwrnod sy’n dechrau gyda diwrnod cyfarfod cyntaf Senedd newydd y DU. Diben y ddarpariaeth hon yw rhoi digon o amser i Aelod o Dŷ'r Arglwyddi sydd â chaniatâd i fod yn absennol yn ystod un tymor yn Senedd y DU (ac sydd am barhau i fod yn absennol) adnewyddu ei ganiatâd i fod yn absennol o'r Tŷ ar ddechrau'r tymor newydd yn Senedd y DU.

Adran 33 – Eithriadau rhag anghymhwyso yn rhinwedd bod yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol

116.Mae adran 33 yn mewnosod adrannau 17D, 17E a 17F newydd yn Neddf 2006. Mae'r adrannau'n darparu ar gyfer rhai eithriadau rhag anghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Senedd yn rhinwedd bod yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

117.Byddai adran 17D newydd o Ddeddf 2006 yn darparu ar gyfer eithriad rhag anghymhwyso ar gyfer Aelodau sydd newydd eu hethol. Ni fyddai person a ddychwelir fel Aelod mewn etholiad i’r Senedd yn cael ei anghymhwyso nes i'r person hwnnw honni ei fod yn tyngu’r llw teyrngarwch (neu'r cadarnhad cyfatebol). Hefyd, ni fyddai Aelod o'r Senedd a ddychwelir fel aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru yn cael ei anghymhwyso nes i'r person hwnnw wneud datganiad derbyn.

118.Mae adran 17E newydd o Ddeddf 2006 yn darparu ar gyfer eithriad â therfyn amser rhag anghymhwyso os dychwelir aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru fel Aelod o'r Senedd; ac mae diwrnod disgwyliedig etholiad cyffredin nesaf aelodau'r cyngor o fewn 372 o ddiwrnodau i'r diwrnod dychwelyd. Mae adran 17E(2) yn darparu y bydd y 'cyfnod gras' rhag anghymhwyso yn dechrau ar y diwrnod dychwelyd ac yn gorffen ar y pedwerydd diwrnod ar ôl diwrnod etholiad cyffredinol arferol nesaf aelodau'r cyngor. Mae dyddiad disgwyliedig yr etholiad cyffredin nesaf i'w bennu drwy gyfeirio at yr amgylchiadau ar ddechrau'r diwrnod dychwelyd. Yr enw ar hyn yw “y cyfnod perthnasol”. Mae adran 17E(4) yn darparu, at ddibenion pennu dyddiad disgwyliedig yr etholiad cyffredinol arferol nesaf, na ddylid ystyried yr amrywiol bwerau i newid pryd y gellir cynnal yr etholiad.

119.Mae adran 17E newydd o Ddeddf 2006 yn darparu ar gyfer eithriad â therfyn amser rhag anghymhwyso os dychwelir Aelod o'r Senedd fel aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru; ac mae diwrnod disgwyliedig yr etholiad cyffredinol nesaf i’r Senedd o fewn 372 o ddiwrnodau i'r diwrnod dychwelyd. Mae adran 17F(2) yn darparu y bydd y 'cyfnod gras' rhag anghymhwyso yn dechrau ar y diwrnod dychwelyd ac yn gorffen yn union cyn diwrnod etholiad cyffredinol nesaf Aelodau o'r Senedd. Mae dyddiad disgwyliedig yr etholiad cyffredin nesaf i'w bennu drwy gyfeirio at yr amgylchiadau ar ddechrau'r diwrnod dychwelyd. Yr enw ar hyn yw “y cyfnod perthnasol”. Pan fo adran 5(2) neu (3) (etholiad cyffredinol eithriadol) o Ddeddf 2006 yn gymwys, yn ystod y cyfnod perthnasol, mae adran 17F(4) yn gwneud darpariaeth amrywiol o ran beth y bydd y “dyddiad disgwyliedig”. Mae adran 5 yn darparu dull i gynnal etholiad cyffredinol eithriadol cyn yr etholiad cyffredinol arferol nesaf a drefnir mewn amgylchiadau penodol.

120.Mae adran 5(2) yn gymwys os yw'r Cynulliad yn penderfynu, drwy fwyafrif o ddwy ran o dair o leiaf, y dylid ei ddiddymu ac mae adran 5(3) yn gymwys pan fydd y cyfnod y mae'n ofynnol i'r Cynulliad enwebu Prif Weinidog yn dod i ben heb i enwebiad o'r fath gael ei wneud. Mae adran 17F(5) yn darparu, at ddibenion pennu dyddiad disgwyliedig yr etholiad cyffredinol arferol nesaf, na ddylid ystyried yr amrywiol bwerau i newid pryd y gellir cynnal yr etholiad.

Adran 34 – Effaith anghymhwyso

121.Mae adran 34 yn diwygio adran 18 o Ddeddf 2006 i fewnosod is-adran (A1) newydd. Mae'r is-adran honno'n darparu, os bydd person sydd wedi'i anghymhwyso rhag bod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd yn cael ei enwebu fel ymgeisydd mewn etholiad, y bydd yr enwebiad yn ddi-rym.

122.Mae'r adran hefyd yn diddymu rhai darpariaethau yn adrannau 18 a 19 o Ddeddf 2006 nad oes eu hangen mwyach o ganlyniad i adran 29 o'r Ddeddf. Mae'r holl ddarpariaethau a ddiddymwyd yn ymwneud â'r posibilrwydd y caiff person ei anghymhwyso mewn perthynas ag etholaeth neu ranbarth etholiadol Senedd. Dim ond o dan adran 16(4) o Ddeddf 2006 sydd wedi’i diddymu gan adran 29(5) y mae'r posibilrwydd hwnnw'n codi.

Adran 35 – Diwygiadau canlyniadol

123.Mae'r adran hon yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2006, Deddf Ansolfedd 1986, Mesur 2009 a Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources