Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i

Rhan 5.Amrywiol

124.Mae’r Rhan hon yn gwneud diwygiadau amrywiol i Ddeddf 2006. Mae’n newid y dyddiad ar gyfer cyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad. Mae hefyd yn ei gwneud yn glir y caiff Comisiwn y Senedd godi tâl am ddarparu nwyddau neu wasanaethau i’r cyhoedd.

125.Mae hefyd yn cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi adroddiad ar weithredu rhai o ddarpariaethau'r Ddeddf hon.

Adran 36 – Amseriad cyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad cyffredinol

126.Mae adran 36 yn ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad cyffredinol arferol neu eithriadol o 7 i 14 diwrnod.

Adran 37 – Pwerau Comisiwn y Senedd: darparu nwyddau a gwasanaethau

127.Mae adran 37 yn amnewid paragraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006 i'w gwneud yn glir y caiff Comisiwn y Senedd godi tâl am ddarparu nwyddau neu wasanaethau.

Adran 38 – Adroddiad ar estyn yr hawl i bleidleisio a newid cymhwystra i fod yn Aelod o'r Senedd

128.Mae adran 38 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio adroddiad, ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Cynulliad ar weithredu darpariaethau yn y Ddeddf sydd yn:

  • estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd i bersonau sy'n 16 neu'n 17 oed;

  • estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd i bersonau sy'n ddinasyddion tramor cymhwysol;

  • caniatáu i ddinasyddion tramor cymhwysol fod yn Aelodau o'r Senedd,

  • anghymhwyso aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru rhag bod yn Aelodau o'r Senedd.

129.Rhaid llunio a chyhoeddi'r adroddiad o fewn chwe mis i ddiwedd y cyfnod adrodd.

130.Y cyfnod adrodd yw'r cyfnod pum mlynedd o ddiwrnod etholiad cyffredinol nesaf y Senedd a gynhelir ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny. Ar hyn o bryd, trefnir etholiad cyffredinol nesaf y Senedd ar gyfer mis Mai 2021.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources