Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Awdurdodi gwaith

88Gofyniad i waith gael ei awdurdodi

(1)Ni chaiff person gyflawni gwaith y mae’r adran hon yn gymwys iddo, neu beri i waith o’r fath gael ei gyflawni, oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi o dan adran 89.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)i waith ar gyfer addasu neu estyn adeilad rhestredig mewn unrhyw ffordd a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig;

(b)i waith ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig.

(3)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys—

(a)i waith mewn perthynas ag adeilad sy’n heneb gofrestredig (ond gweler adran 11);

(b)i waith mewn perthynas ag adeilad crefyddol esempt;

(c)i waith ar gyfer dymchwel adeilad sydd ar gau ar gyfer addoli rheolaidd gan y cyhoedd, neu ran o adeilad o’r fath, yn unol â darpariaeth a wneir o dan Ran 6 o Fesur Cenhadaeth a Bugeiliol 2011 (Rhif 3) gan gynllun bugeiliol adeiladau eglwysi neu gynllun bugeiliol (gwaredu adeiladau eglwysi);

(d)i waith a gyflawnir gan neu ar ran y Goron o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 117(4) (gwaith brys).

89Awdurdodi gwaith drwy gydsyniad adeilad rhestredig

(1)Mae gwaith y mae adran 88 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi—

(a)os yw cydsyniad ysgrifenedig i’w gyflawni wedi ei roi gan yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal neu gan Weinidogion Cymru, a

(b)os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho).

(2)Pan—

(a)bo gwaith y mae adran 88 yn gymwys iddo wedi ei gyflawni heb gael ei awdurdodi o dan is-adran (1), a

(b)bo’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer y gwaith,

mae’r gwaith wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad hwnnw.

(3)Cyfeirir at gydsyniad o dan is-adran (1) neu (2) yn y Ddeddf hon fel cydsyniad adeilad rhestredig.

Ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig

90Gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig

(1)Rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gael ei wneud i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal, oni bai ei fod yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru yn unol—

(a)â rheoliadau a wneir o dan adran 105 (ceisiadau gan awdurdodau cynllunio neu’r Goron),

(b)ag adran 106 (ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron),

(c)ag adran 305 neu 306 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (ceisiadau gan awdurdodau tai lleol am gydsyniad i ddymchwel adeiladau mewn cysylltiad â chaffael tir ar gyfer ei glirio), neu

(d)ag unrhyw ddeddfiad arall.

(2)Rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gynnwys—

(a)digon o wybodaeth i adnabod yr adeilad rhestredig y mae’n ymwneud ag ef, gan gynnwys plan,

(b)unrhyw blaniau eraill ac unrhyw luniadau eraill sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef, ac

(c)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys cais (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu berson arall);

(b)sut y mae rhaid gwneud cais.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud cais o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau gynnwys gyda’r cais ddatganiad ynghylch—

(a)sut y bydd y gwaith yn effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a

(b)y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt (fel y’i pennir yn y rheoliadau)—

(i)yr egwyddorion dylunio sydd wedi eu cymhwyso i’r gwaith;

(ii)sut yr ymdriniwyd â materion sy’n ymwneud â mynediad i’r adeilad.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys datganiad sy’n ofynnol o dan is-adran (4);

(b)dogfennau neu ddeunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys gyda chais.

(6)Ni chaiff awdurdod cynllunio ystyried cais a wneir iddo am gydsyniad adeilad rhestredig os yw’r cais yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan yr adran hon neu odani.

91Hysbysiad o gais i berchnogion adeilad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i geisydd am gydsyniad adeilad rhestredig—

(a)rhoi hysbysiad o’r cais i bob person (ac eithrio’r ceisydd) sydd ar ddyddiad a bennir yn y rheoliadau yn berchennog ar unrhyw ran o’r adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef, a

(b)cynnwys gyda’r cais dystysgrif a ddyroddir gan y ceisydd sy’n datgan y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion yn y rheoliadau.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys hysbysiad neu dystysgrif (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu berson arall);

(b)sut y mae rhaid rhoi hysbysiad (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol ei gyhoeddi).

(3)Ni chaniateir i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gael ei ystyried os na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion a osodir o dan is-adran (1) neu (2).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, pan fo hysbysiad wedi ei roi o gais yn unol â gofynion a osodir o dan yr is-adrannau hynny—

(a)na chaniateir penderfynu’r cais yn ystod cyfnod a bennir yn y rheoliadau;

(b)bod rhaid i’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, wrth benderfynu’r cais, ystyried sylwadau a gyflwynir yn ystod y cyfnod hwnnw gan unrhyw berson sy’n berchennog ar unrhyw ran o’r adeilad rhestredig.

(5)Mae’n drosedd i berson, wrth ymhonni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir o dan is-adran (1) neu (2)—

(a)dyroddi tystysgrif sy’n cynnwys datganiad y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol, neu

(b)yn ddi-hid ddyroddi tystysgrif sy’n cynnwys datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(7)Yn yr adran hon ystyr “perchennog” yw—

(a)perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol, neu

(b)tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.

Ymdrin â cheisiadau am gydsyniad

92Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chais

(1)Rhaid i awdurdod cynllunio ymdrin â chais am gydsyniad adeilad rhestredig a wneir i’r awdurdod oni bai—

(a)ei bod yn ofynnol iddo beidio ag ystyried y cais o dan adran 90(6) neu 91(3), neu ei fod yn gwrthod gwneud hynny o dan adran 93 (ceisiadau tebyg), neu

(b)ei bod yn ofynnol iddo atgyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru o dan adran 94.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gosod gofynion sy’n ymwneud â chyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a wneir i awdurdodau cynllunio neu Weinidogion Cymru;

(b)gosod gofynion ar gyfer ymgynghori neu hysbysu mewn perthynas â cheisiadau;

(c)darparu na chaniateir penderfynu cais yn ystod cyfnod a bennir yn y rheoliadau;

(d)ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio neu Weinidogion Cymru, wrth benderfynu ceisiadau, ystyried ymatebion gan bersonau yr ymgynghorir â hwy neu a hysbysir;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch o fewn pa gyfnod o amser y mae rhaid i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru ymdrin â chais.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio i hysbysu personau a bennir yn y cyfarwyddyd—

(a)am gais a wneir i’r awdurdod am gydsyniad adeilad rhestredig, a

(b)am y penderfyniad a wneir gan yr awdurdod ar y cais.

(4)Caiff cyfarwyddyd ymwneud—

(a)ag achos penodol, neu

(b)ag achosion sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

93Pŵer i wrthod ystyried ceisiadau tebyg

(1)Caiff awdurdod cynllunio wrthod ystyried cais am gydsyniad adeilad rhestredig os yw’r amod cyntaf a’r ail amod wedi eu bodloni.

(2)Yr amod cyntaf yw bod unrhyw un neu ragor o’r canlynol wedi digwydd yn ystod y 2 flynedd sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn cael y cais—

(a)bod Gweinidogion Cymru wedi gwrthod cais tebyg am gydsyniad adeilad rhestredig a gyfeiriwyd atynt o dan adran 94,

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwrthod—

(i)apêl o dan adran 100(2) yn erbyn gwrthod cais tebyg am gydsyniad adeilad rhestredig, neu

(ii)apêl o dan adran 100(3) sy’n ymwneud â chais tebyg, neu

(c)bod yr awdurdod cynllunio wedi gwrthod dau neu ragor o geisiadau tebyg am gydsyniad adeilad rhestredig ac ym mhob achos—

(i)ni fu apêl i Weinidogion Cymru, neu

(ii)mae unrhyw apêl i Weinidogion Cymru wedi ei thynnu’n ôl.

(3)Yr ail amod yw bod yr awdurdod cynllunio yn ystyried na fu unrhyw newid sylweddol mewn unrhyw ystyriaethau perthnasol ers—

(a)i Weinidogion Cymru wrthod y cais tebyg, mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2)(a),

(b)i Weinidogion Cymru wrthod yr apêl, mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2)(b), neu

(c)i’r awdurdod cynllunio wrthod cais tebyg yn fwyaf diweddar, mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2)(c).

(4)At ddibenion yr adran hon mae cais yn debyg i gais arall os (a dim ond os) yw’r awdurdod cynllunio yn ystyried bod yr adeilad rhestredig a’r gwaith y mae’r ceisiadau yn ymwneud â hwy yr un fath neu’r un fath i raddau helaeth.

94Atgyfeirio cais at Weinidogion Cymru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio i atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig atynt i’w benderfynu yn lle ymdrin â’r cais ei hun.

(2)Caiff cyfarwyddyd ymwneud â chais penodol, neu â cheisiadau mewn perthynas ag adeiladau a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Rhaid i awdurdod cynllunio atgyfeirio cais y mae cyfarwyddyd o dan yr adran hon yn gymwys iddo at Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i awdurdod cynllunio atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig at Weinidogion Cymru i’w benderfynu, heb gael cyfarwyddyd i wneud hynny, os ceisir y cydsyniad o ganlyniad i gynigion a gynhwysir mewn cais am orchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42) (gorchmynion sy’n ymwneud ag adeiladu neu weithredu rheilffyrdd, tramffyrdd, dyfrffyrdd mewndirol etc.).

(5)Mae Pennod 2 o Ran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyried ceisiadau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(6)Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gais yn derfynol.

95Hysbysu Gweinidogion Cymru cyn rhoi cydsyniad

(1)Ni chaiff awdurdod cynllunio y gwneir cais am gydsyniad adeilad rhestredig iddo roi cydsyniad oni bai—

(a)ei fod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru am y cais, gan roi manylion y gwaith y ceisir cydsyniad ar ei gyfer, a

(b)bod yr amod cyntaf neu’r ail amod wedi ei fodloni.

(2)Yr amod cyntaf yw bod yr 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru wedi dod i ben heb i Weinidogion Cymru naill ai—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod i atgyfeirio’r cais atynt o dan adran 94, neu

(b)hysbysu’r awdurdod bod angen rhagor o amser arnynt i ystyried pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan yr adran honno.

(3)Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi hysbysu’r awdurdod nad ydynt yn bwriadu ei gyfarwyddo i atgyfeirio’r cais atynt.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu nad yw is-adran (1) yn gymwys i geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio—

(a)nad yw is-adran (1) i fod yn gymwys i gais i’r awdurdod am gydsyniad adeilad rhestredig, neu

(b)bod is-adran (1) i fod yn gymwys i gais i’r awdurdod er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (4) neu gan gyfarwyddyd o dan baragraff (a).

(6)Caiff cyfarwyddyd ymwneud—

(a)â chais penodol am gydsyniad adeilad rhestredig, neu

(b)â cheisiadau sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd,

ac mae’n cael effaith mewn perthynas ag unrhyw gais nad yw’r awdurdod wedi ei benderfynu.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru bennu disgrifiad o geisiadau o dan is-adran (4) neu (6)(b) drwy gyfeirio at farn unrhyw berson, argaeledd cyngor arbenigol mewn perthynas â’r ceisiadau, neu unrhyw amgylchiad arall.

96Rhoi neu wrthod cydsyniad

(1)Wrth benderfynu cais am gydsyniad adeilad rhestredig, caiff awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi neu wrthod cydsyniad.

(2)Wrth ystyried pa un ai i roi cydsyniad adeilad rhestredig, rhaid i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu—

(a)yr adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef,

(b)safle’r adeilad, ac

(c)unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sydd gan yr adeilad.

(3)Mae cydsyniad adeilad rhestredig yn cael effaith er budd yr adeilad rhestredig a’r tir y mae arno, a phob person sydd â buddiant yn yr adeilad a’r tir am y tro; ond mae hyn yn ddarostyngedig i delerau’r cydsyniad.

Rhoi cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i amodau

97Pŵer i roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau

(1)Caniateir rhoi cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i amodau.

(2)Caniateir i amod, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol—

(a)i nodweddion penodol yr adeilad rhestredig gael eu diogelu, naill ai fel rhan ohono neu ar ôl cael eu datgysylltu ohono;

(b)i unrhyw ddifrod a achosir i’r adeilad gan y gwaith gael ei unioni ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau;

(c)i’r adeilad neu unrhyw ran ohono gael ei ailadeiladu neu ei hailadeiladu ar ôl cyflawni unrhyw waith, gan ddefnyddio deunyddiau gwreiddiol i’r graddau y bo’n ymarferol a chan wneud unrhyw addasiadau, a bennir yn yr amodau, i’r tu mewn i’r adeilad.

(3)Caniateir rhoi cydsyniad hefyd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i fanylion penodedig y gwaith (pa un a ydynt wedi eu nodi mewn cais am gydsyniad ai peidio) gael eu cymeradwyo’n ddiweddarach.

(4)Rhaid i amod a osodir o dan is-adran (3)—

(a)yn achos cydsyniad a roddir gan awdurdod cynllunio, ei gwneud yn ofynnol cael cymeradwyaeth yr awdurdod hwnnw;

(b)yn achos cydsyniad a roddir gan Weinidogion Cymru, bennu pa un ai cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio neu gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru sy’n ofynnol.

(5)Rhaid i gydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig gael ei roi yn ddarostyngedig i amod na chaniateir i’r gwaith ddechrau—

(a)hyd nes bod hysbysiad o’r cynnig i ddymchwel yr adeilad wedi ei roi i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a

(b)hyd nes, ar ôl rhoi’r hysbysiad hwnnw, fod y Comisiwn Brenhinol—

(i)wedi cael mynediad rhesymol i’r adeilad am o leiaf 1 mis at ddiben ei gofnodi, neu

(ii)wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod wedi cwblhau cofnodi’r adeilad neu nad yw’n dymuno ei gofnodi.

(6)Os rhoddir cydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig heb yr amod sy’n ofynnol gan is-adran (5), mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn ddarostyngedig i’r amod hwnnw.

(7)Caniateir i gydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig hefyd gael ei roi yn ddarostyngedig i amod na chaniateir i’r gwaith ddechrau hyd nes—

(a)bod contract ar gyfer gwaith i ailddatblygu’r safle wedi ei wneud, a

(b)bod caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer y gwaith ailddatblygu hwnnw.

(8)Nid yw is-adrannau (5) a (6) yn atal amodau eraill rhag cael eu gosod at ddiben galluogi cofnodi adeilad rhestredig.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi cyfeiriadau at gorff arall yn lle’r cyfeiriadau yn is-adran (5) at Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

98Amod ynghylch y cyfnod y mae rhaid i’r gwaith ddechrau ynddo

(1)Rhaid i gydsyniad adeilad rhestredig gael ei roi yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr amod ac sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y cydsyniad.

(2)Os rhoddir cydsyniad heb yr amod sy’n ofynnol gan is-adran (1), mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau o fewn 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i rhoddwyd.

(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys

(a)i gydsyniad o dan adran 89(2) (cydsyniad ar gyfer gwaith sydd wedi ei gyflawni eisoes);

(b)i gydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig (gweler adran 113).

99Cais i amrywio neu ddileu amodau

(1)Pan fo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau, caiff unrhyw berson sydd â buddiant yn yr adeilad rhestredig wneud cais i’r amodau gael eu hamrywio neu eu dileu.

(2)Rhaid i’r cais nodi pa amrywiad neu ddilead o amodau y gwneir cais amdano.

(3)Mae adrannau 90 i 95 (ac eithrio adran 90(4) a (5)(a)) yn gymwys i gais o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig.

(4)Ar gais o dan yr adran hon, caiff yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, yn ogystal ag amrywio neu ddileu amodau’r cydsyniad, osod amodau newydd sy’n ganlyniadol ar yr amrywiad neu’r dilead.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig.

Apelau i Weinidogion Cymru

100Yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio neu fethiant awdurdod cynllunio i wneud penderfyniad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cais wedi ei wneud i awdurdod cynllunio—

(a)am gydsyniad adeilad rhestredig,

(b)i amodau cydsyniad adeilad rhestredig gael eu hamrywio neu eu dileu, neu

(c)i fanylion gwaith o dan amod mewn cydsyniad adeilad rhestredig gael eu cymeradwyo.

(2)Caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru os yw’r awdurdod cynllunio—

(a)yn gwrthod y cais, neu

(b)yn caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau neu, yn achos cais i amodau gael eu hamrywio neu eu dileu, yn ei ganiatáu ac yn gosod amodau newydd.

(3)Caiff y ceisydd hefyd apelio i Weinidogion Cymru os nad yw’r awdurdod cynllunio wedi gwneud dim un o’r canlynol o fewn y cyfnod penderfynu—

(a)rhoi hysbysiad i’r ceisydd o’i benderfyniad ar y cais, neu

(b)yn achos cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu i amodau gael eu hamrywio neu eu dileu, rhoi hysbysiad i’r ceisydd ei fod—

(i)wedi arfer ei bŵer o dan adran 93 i wrthod ystyried y cais, neu

(ii)wedi atgyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru o dan adran 94.

(4)Yn is-adran (3) ystyr “y cyfnod penderfynu” yw—

(a)y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu

(b)cyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig rhwng y ceisydd a’r awdurdod cynllunio.

101Y weithdrefn ar gyfer gwneud apêl

(1)Rhaid gwneud apêl o dan adran 100 drwy gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru.

(2)Caiff y seiliau dros apelio a ddatgenir yn yr hysbysiad gynnwys (ar eu pen eu hunain neu gyda seiliau eraill)—

(a)honiad nad yw’r adeilad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac y dylai gael ei ddadrestru, neu

(b)yn achos adeilad sy’n ddarostyngedig i warchodaeth interim neu restru dros dro, honiad na ddylai’r adeilad gael ei restru.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf hysbysiad o apêl (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu berson arall);

(b)gwybodaeth y mae rhaid iddi gael ei chynnwys gyda hysbysiad o apêl;

(c)y ffordd a’r cyfnod y mae rhaid cyflwyno hysbysiad o apêl ynddi neu o’i fewn (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i estyn y cyfnod).

(4)Mae adran 91 (hysbysiad i berchnogion adeilad) yn gymwys mewn perthynas ag apelau o dan adran 100 sy’n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig neu i amodau gael eu hamrywio neu eu dileu, ond fel pe bai cyfeiriadau at gais a cheisydd yn gyfeiriadau at apêl ac apelydd.

(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir gan reoliadau o dan is-adran (3)(c) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth—

(a)yn achos apêl o dan is-adran (2) o adran 100, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cael hysbysiad o’r penderfyniad;

(b)yn achos apêl o dan is-adran (3) o’r adran honno, ddiwedd y cyfnod penderfynu (sydd â’r un ystyr ag yn yr is-adran honno).

102Cyfyngiad ar amrywio cais ar ôl cyflwyno hysbysiad o apêl

(1)Unwaith y bydd hysbysiad o apêl o dan adran 100 wedi ei gyflwyno, ni chaniateir amrywio’r cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef ac eithrio o dan amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Pan fo cais yn cael ei amrywio o dan yr adran hon, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod rhaid ymgynghori ymhellach mewn perthynas â’r cais.

103Penderfyniad ar gais ar ôl cyflwyno hysbysiad o apêl

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person sydd wedi gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig yn apelio o dan adran 100(3) (methiant i roi hysbysiad o benderfyniad).

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r apêl cyn diwedd y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ac sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o apêl.

(3)Caiff yr awdurdod cynllunio roi hysbysiad o’i benderfyniad ar y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4)Os yw’r awdurdod yn rhoi hysbysiad yn unol ag is-adran (3) mai gwrthod y cais yw ei benderfyniad—

(a)rhaid trin yr apêl fel apêl o dan adran 100(2) yn erbyn y gwrthodiad, a

(b)rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r apelydd i ddiwygio’r seiliau dros apelio.

(5)Os yw’r awdurdod yn rhoi hysbysiad yn unol ag is-adran (3) mai caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau yw ei benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r apelydd—

(a)i fwrw ymlaen â’r apêl fel apêl o dan adran 100(2) yn erbyn caniatáu‘r cais yn ddarostyngedig i amodau, a

(b)i ddiwygio’r seiliau dros apelio.

104Penderfynu apêl

(1)Ar apêl o dan adran 100 caiff Gweinidogion Cymru—

(a)caniatáu neu wrthod yr apêl, neu

(b)gwrthdroi neu amrywio unrhyw ran o benderfyniad yr awdurdod cynllunio ar y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef (pa un a yw’r apêl yn ymwneud â’r rhan honno ai peidio),

a chânt ymdrin â’r cais fel pe bai wedi ei wneud iddynt hwy.

(2)Pan wnaed yr apêl o dan adran 100(3) (methiant i roi hysbysiad o benderfyniad) ac nad yw’r awdurdod cynllunio wedi rhoi hysbysiad o dan adran 103(3), mae i’w thybio at ddibenion is-adran (1) i’r awdurdod benderfynu gwrthod y cais.

(3)Ar apêl o dan adran 100 caiff Gweinidogion Cymru hefyd arfer eu pŵer o dan adran 76 i ddadrestru’r adeilad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef.

(4)Mae Pennod 2 o Ran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyried apelau (gan gynnwys darpariaeth iddynt gael eu penderfynu gan bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru).

(5)Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ar apêl yn derfynol.

Achosion arbennig

105Ceisiadau gan awdurdodau cynllunio a’r Goron

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu nad yw darpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon i fod yn gymwys, neu ei bod i fod yn gymwys gydag addasiadau, i gais a grybwyllir yn is-adran (2) a wneir—

(a)gan awdurdod cynllunio, neu

(b)gan neu ar ran y Goron.

(2)Mae’r ceisiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn geisiadau—

(a)am gydsyniad adeilad rhestredig,

(b)i amodau cydsyniad adeilad rhestredig gael eu hamrywio neu eu dileu, neu

(c)i fanylion gwaith o dan amod mewn cydsyniad adeilad rhestredig gael eu cymeradwyo.

(3)Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu i gais gael ei wneud i Weinidogion Cymru.

106Ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron

(1)Caiff awdurdod priodol y Goron wneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig i Weinidogion Cymru (yn lle gwneud cais i awdurdod cynllunio)—

(a)os yw’r adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef ar dir y Goron, a

(b)os yw awdurdod priodol y Goron yn ardystio—

(i)bod y gwaith y ceisir cydsyniad ar ei gyfer o bwysigrwydd cenedlaethol, a

(ii)ei bod yn angenrheidiol i’r gwaith gael ei gyflawni fel mater o frys.

(2)Cyn gwneud y cais, rhaid i awdurdod priodol y Goron gyhoeddi hysbysiad mewn un neu ragor o bapurau newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol yr adeilad rhestredig—

(a)sy’n disgrifio’r gwaith arfaethedig, a

(b)sy’n datgan ei fod yn cynnig gwneud y cais i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(3)Pan fo awdurdod priodol y Goron yn gwneud cais o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo roi i Weinidogion Cymru ddatganiad o’i seiliau dros wneud y cais;

(b)caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol iddo roi iddynt unrhyw wybodaeth bellach y maent yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’w galluogi i benderfynu’r cais.

(4)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael dogfen neu ddeunydd arall yn rhinwedd is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru roi copi o’r ddogfen neu’r deunydd arall ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn ardal leol y gwaith arfaethedig.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau, gyhoeddi hysbysiad o’r cais ac o’r ffaith bod dogfennau a deunydd arall ar gael i edrych arnynt.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ynghylch y cais—

(a)yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal, a

(b)unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau.

(7)Mae Pennod 2 o Ran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyried ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(8)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i’r graddau y mae dogfen neu ddeunydd arall yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 178 (cyfyngu mynediad at dystiolaeth ar sail diogelwch gwladol).

(9)Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gais yn derfynol.

(10)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at reoliadau yn gyfeiriadau at reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Addasu a dirymu cydsyniad adeilad rhestredig

107Addasu a dirymu cydsyniad

(1)Pan fo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi ar gais neu apêl o dan y Rhan hon, caiff yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal neu Weinidogion Cymru drwy orchymyn addasu neu ddirymu’r cydsyniad i unrhyw raddau.

(2)Caniateir i orchymyn sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer unrhyw waith gael ei wneud ar unrhyw adeg cyn cwblhau’r gwaith, ond nid yw’n effeithio ar gydsyniad ar gyfer gwaith sydd wedi ei gyflawni cyn i’r gorchymyn gymryd effaith.

(3)Yn Atodlen 8—

(a)mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau y mae rhaid eu dilyn cyn i orchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio o dan yr adran hon gymryd effaith (naill ai gyda chadarnhad gan Weinidogion Cymru neu hebddo);

(b)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn y mae rhaid ei dilyn cyn i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan yr adran hon.

108Digollediad pan fo cydsyniad yn cael ei addasu neu ei ddirymu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei addasu neu ei ddirymu gan orchymyn o dan adran 107—

(a)sydd wedi ei wneud gan awdurdod cynllunio ac wedi ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru, neu

(b)sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae gan unrhyw berson sydd â buddiant yn yr adeilad rhestredig y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef hawlogaeth, wrth wneud hawliad i’r awdurdod cynllunio, i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod—

(a)am unrhyw wariant yr eir iddo gan y person wrth gyflawni gwaith y mae addasu neu ddirymu’r cydsyniad yn peri ei fod yn waith ofer;

(b)am unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r addasu neu’r dirymu.

(3)At ddibenion yr adran hon mae gwariant yr eir iddo wrth lunio planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n baratoadol i unrhyw waith, i’w drin fel pe bai’n wariant yr eir iddo wrth gyflawni’r gwaith.

(4)Yn ddarostyngedig i hynny, nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad—

(a)â gwaith a gyflawnir cyn rhoi’r cydsyniad adeilad rhestredig sydd wedi ei addasu neu ei ddirymu, neu

(b)â cholled neu ddifrod arall (ac eithrio colled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r cydsyniad gael ei roi.

(5)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae addasu neu ddirymu’r cydsyniad yn cymryd effaith.

(6)Yn is-adran (2) ystyr “yr awdurdod cynllunio” yw—

(a)yr awdurdod cynllunio a wnaeth y gorchymyn o dan adran 107, neu

(b)os gwnaed y gorchymyn gan Weinidogion Cymru, yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef yn ei ardal.

Hawl perchennog adeilad rhestredig i’w gwneud yn ofynnol prynu buddiant

109Hysbysiad prynu pan fo cydsyniad wedi ei wrthod, wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau, wedi ei addasu neu wedi ei ddirymu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, fo cydsyniad yn cael ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau, neu

(b)bo gorchymyn o dan adran 107 yn addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig.

(2)Os yw perchennog ar yr adeilad rhestredig y mae’r cais neu’r gorchymyn yn ymwneud ag ef yn honni—

(a)bod y set gyntaf o amodau wedi ei bodloni mewn perthynas â’r adeilad, a

(b)bod y set gyntaf a’r ail set o amodau wedi eu bodloni mewn perthynas ag unrhyw dir cysylltiedig,

caiff y perchennog gyflwyno hysbysiad prynu i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal.

(3)Mae hysbysiad prynu yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio brynu buddiant y perchennog yn yr adeilad rhestredig a’r tir cysylltiedig.

(4)Y set gyntaf o amodau yw—

(a))bod yr adeilad rhestredig a’r tir cysylltiedig y cyflwynir yr hysbysiad mewn cysylltiad â hwy yn annefnyddiadwy yn eu cyflwr presennol,

(b)mewn achos pan fo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi‍ yn ddarostyngedig i amodau neu wedi ei addasu drwy osod amodau, nad yw’n bosibl gwneud yr adeilad na’r tir yn ddefnyddiadwy drwy gyflawni’r gwaith y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef yn unol â’r amodau, ac

(c)pa un bynnag, nad yw’n bosibl gwneud yr adeilad na’r tir‍ yn ddefnyddiadwy drwy gyflawni unrhyw waith arall y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig ar ei gyfer neu y mae’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru wedi ymrwymo i roi cydsyniad adeilad rhestredig ar ei gyfer.

(5)Yr ail set o amodau yw—

(a)na ellir gwahanu’n sylweddol y defnydd o’r tir cysylltiedig oddi wrth y defnydd o’r adeilad rhestredig, a

(b)y dylid trin y tir cysylltiedig, ynghyd â’r adeilad, fel un daliad.

(6)Yn yr adran hon ac yn Atodlen 9—

  • ystyr “defnyddiadwy” (“usable”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig neu dir cysylltiedig, yw bod modd gwneud defnydd rhesymol fuddiol ohono;

  • ystyr “tir cysylltiedig” (“associated land”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig, yw tir—

    (a)

    sy’n cynnwys yr adeilad, sy’n cydffinio ag ef neu sy’n gyfagos iddo, a

    (b)

    a berchnogir gyda’r adeilad.

(7)Wrth benderfynu a‍ yw adeilad rhestredig a’r tir cysylltiedig yn ddefnyddiadwy yn eu cyflwr presennol, rhaid anwybyddu defnydd arfaethedig o‘r adeilad neu’r tir pe bai’n golygu—

(a)cyflawni gwaith y mae cydsyniad adeilad rhestredig, nad yw wedi ei roi ac nad yw awdurdod cynllunio na Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i’w roi, yn ofynnol ar ei gyfer, neu

(b)cyflawni datblygiad nad yw caniatâd cynllunio wedi ei roi ar ei gyfer ac nad yw awdurdod cynllunio na Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i roi caniatâd ar ei gyfer.

(8)Nid yw adeilad rhestredig yn‍ annefnyddiadwy yn ei gyflwr presennol—

(a)os achoswyd cyflwr presennol yr adeilad gan doriad o adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu o amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo, a

(b)pe gellid gwneud yr adeilad‍ yn ddefnyddiadwy drwy gymryd camau sy’n ofynnol neu a allai fod yn ofynnol gan hysbysiad gorfodi o dan adran 123.‍

110Hysbysiad prynu mewn cysylltiad â thir y Goron

(1)Ni chaiff perchennog buddiant preifat yn nhir y Goron gyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â’r buddiant hwnnw oni bai—

(a)bod y perchennog wedi cynnig gwaredu’r buddiant i awdurdod priodol y Goron am bris sy’n hafal i’r digollediad (ac os na chytunir arno, mae i’w benderfynu yn yr un ffordd â’r digollediad) a fyddai’n daladwy am y buddiant pe bai’n cael ei gaffael yn unol â hysbysiad prynu, a

(b)bod awdurdod priodol y Goron wedi gwrthod y cynnig.

(2)Dim ond awdurdod priodol y Goron a gaiff gyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth mewn tir—

(a)sy’n rhan o Ystad y Goron,

(b)sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Ei ystadau preifat,

(c)sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu

(d)sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw.

(3)Ni chaniateir cyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth mewn unrhyw dir arall.

111Darpariaeth bellach ynghylch cyflwyno hysbysiad prynu

(1)Rhaid cyflwyno hysbysiad prynu o fewn 12 mis sy’n dechrau—

(a)yn achos hysbysiad sy’n ymwneud â phenderfyniad i wrthod cydsyniad adeilad rhestredig neu i’w roi yn ddarostyngedig i amodau, â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, neu

(b)yn achos hysbysiad sy’n ymwneud â gorchymyn o dan adran 107 sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig, â’r diwrnod y mae’r gorchymyn yn cymryd effaith.

(2)Mewn achos pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu apêl yn erbyn penderfyniad gan awdurdod cynllunio i wrthod cydsyniad adeilad rhestredig neu i’w roi yn ddarostyngedig i amodau, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at y diwrnod y gwneir y penderfyniad i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu’r apêl.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg estyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno hysbysiad prynu mewn achos penodol, os ydynt wedi eu bodloni bod rhesymau da dros wneud hynny.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid cyflwyno hysbysiad prynu.

(5)Pan fo hysbysiad atgyweirio wedi ei gyflwyno i berchennog ar adeilad rhestredig o dan adran 138, nid oes gan y perchennog hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â’r adeilad—

(a)cyn diwedd y 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad atgyweirio, neu

(b)os‍ dechreuir caffael yr adeilad yn orfodol o dan adran 137 yn ystod y cyfnod hwnnw, oni bai bod y caffaeliad gorfodol yn cael ei derfynu.

(6)Ni chaiff perchennog ar adeilad rhestredig sydd wedi cyflwyno hysbysiad prynu ddiwygio’r hysbysiad; ond nid yw hynny yn atal y perchennog rhag cyflwyno hysbysiad prynu pellach sy’n ymwneud â’r un penderfyniad neu’r un gorchymyn.

(7)Os yw perchennog yn cyflwyno hysbysiad prynu pellach sy’n ymwneud â’r un penderfyniad neu’r un gorchymyn, mae’r hysbysiad cynharach i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl oni bai bod yr hysbysiad diweddarach yn datgan nad yw’r perchennog yn bwriadu ei dynnu’n ôl.

(8)At ddibenion is-adran (5)—

(a)mae caffaeliad gorfodol yn cael ei ddechra‍u—

(i)gan awdurdod cynllunio pan fydd yn cyflwyno’r hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67);

(ii)gan Weinidogion Cymru pan fyddant yn cyflwyno’r hybysiad sy’n ofynnol gan baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno;

(b)mae caffaeliad gorfodol yn cael ei derfynu—

(i)yn achos caffaeliad gan awdurdod cynllunio, pan fydd y gorchymyn prynu gorfodol wedi ei dynnu’n ôl neu pan fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â’i gadarnhau;

(ii)yn achos caffaeliad gan Weinidogion Cymru, pan fyddant yn penderfynu peidio â gwneud y gorchymyn prynu gorfodol.

112Camau gweithredu yn dilyn cyflwyno hysbysiad prynu

Mae Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd gan awdurdodau cynllunio a Gweinidogion Cymru yn dilyn cyflwyno hysbysiad prynu.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources