Adran 43 – Y Ddeddf hon yn dod i rym
220.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y daw’r Ddeddf i rym.
221.Daw Rhan 1 o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Fodd bynnag, yn ymarferol, nid yw adran 2 yn cael unrhyw effaith ar unwaith, gan nad yw’n ei gwneud yn ofynnol i raglen gael ei llunio ond ar gyfer pob tymor yn y Cynulliad sy’n dechrau ar ôl i’r adran ddod i rym, a’i bod yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhaglen gael ei gosod gerbron y Cynulliad o fewn 6 mis ar ôl penodi Prif Weinidog yn dilyn etholiad cyffredinol yn y Cynulliad.
222.Daw Rhan 2 i rym drannoeth y Cydsyniad Brenhinol i’r graddau y mae’n gymwys i ddehongli a gweithredu’r Ddeddf ei hun. Daw’r pŵer yn adran 5(2) a (3) i ddiwygio Atodlen 1 i rym drannoeth y Cydsyniad Brenhinol hefyd, rhag ofn bod angen i’r Atodlen gael ei diwygio cyn iddi ddod i rym yn llawn.
223.Bydd gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn Rhan 2 i rym mewn perthynas â Deddfau Cynulliad eraill ac mewn perthynas ag is-offerynnau Cymreig. Disgwylir y bydd y gorchymyn yn dwyn Rhan 2 i rym yn llawn ar ddechrau blwyddyn galendr, fel bod modd dweud o’r flwyddyn a gynhwysir yn enw’r Ddeddf neu’r offeryn pa un a yw Rhan 2 yn gymwys iddi neu iddo ai peidio.
224.Daw Rhannau 3 a 4 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.