Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 320 (Cy.51) (C.10)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012

Gwnaed

8 Chwefror 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 24(2) a 26(3) o Fesur Addysg (Cymru) 2009(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Mesur 2009” (“the 2009 Measure”) yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 10 Chwefror 2012

2.  Daw'r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 1 (apelau a hawliadau addysg gan blant) o Fesur 2009 i rym ar 10 Chwefror 2012—

(a)adran 3 (cyfeillion achos);

(b)adran 7 (gweithdrefn y tribiwnlys);

(c)adran 8 (gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau);

(ch)adran 11 (gweithdrefn y tribiwnlys)(2);

(d)adran 12 (cyfeillion achos)(3);

(dd)adran 17 (treialu hawliau plentyn i apelio neu i wneud hawliad);

(e)adran 18 (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch apelau a hawliadau gan blentyn);

(f)adran 19 (dehongli adrannau 17 ac 18);

(ff)adran 23 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 a 4 o'r Atodlen; a

(g)paragraffau 1 a 4 o'r Atodlen.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Mawrth 2012

3.  Daw'r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 1 (apelau a hawliadau addysg gan blant) o Fesur 2009 i rym ar 6 Mawrth 2012—

(a)adran 1 (hawl plentyn i apelio mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig);

(b)adran 2 (hysbysu a chyflwyno dogfennau);

(c)adran 4 (cyngor a gwybodaeth);

(ch)adran 5 (datrys anghydfodau);

(d)adran 6 (gwasanaethau eirioli annibynnol);

(dd)adran 9 (hawl plentyn i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd);

(e)adran 10 (amser ar gyfer dwyn achos);

(f)adran 13 (cyngor a gwybodaeth);

(ff)adran 14 (datrys anghydfodau);

(g)adran 15 (gwasanaethau eirioli annibynnol);

(ng)adran 16 (rôl Gweinidogion Cymru);

(h)adran 23 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 2, 3 a 5 o'r Atodlen; a

(i)paragraffau 2, 3 a 5 o'r Atodlen.

Darpariaethau Trosiannol

4.  Ar unrhyw adeg pan fo rheoliadau o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn grym—

(a)mae adran 332A o Ddeddf Addysg 1996 yn parhau i fod yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru ac eithrio Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 4(2) o Fesur 2009 heb fod mewn grym;

(b)mae adran 332B o Ddeddf Addysg 1996 yn parhau i fod yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru ac eithrio Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 5(2) o Fesur 2009 heb fod mewn grym.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

8 Chwefror 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adrannau 24(2) a 26(3) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”). Y Gorchymyn hwn yw'r trydydd Gorchymyn Cychwyn i'w wneud o dan Fesur 2009.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau yn adrannau 3, 7, 8, 11, 12, 17, 18 a 19 o Fesur 2009 ar 10 Chwefror 2012 . Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn i rym adran 23 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 a 4 o'r Atodlen) a pharagraffau 1 a 4 o'r Atodlen i Fesur 2009.

Mae adran 3 yn galluogi plentyn i fod â pherson (o'r enw “cyfaill achos”) i gyflwyno sylwadau ar ran y plentyn i osgoi neu ddatrys anghydfodau â'r awdurdod lleol neu arfer hawl plentyn i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (“y Tribiwnlys”) mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig ar ran y plentyn.

Mae adran 7 yn diwygio gweithdrefn y Tribiwnlys mewn perthynas ag apelau.

Mae adran 8 yn diwygio'r weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Addysg 1996.

Mae adran 11 yn diwygio gweithdrefn y Tribiwnlys mewn perthynas â hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd.

Mae adran 12 yn galluogi plentyn i fod â chyfaill achos i gyflwyno sylwadau ar ran y plentyn i osgoi neu ddatrys anghydfodau â'r corff sy'n gyfrifol am ysgol neu arfer hawl plentyn i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd i'r Tribiwnlys ar ran y plentyn.

Mae adran 17 yn galluogi Gweinidogion Cymru i dreialu'r darpariaethau yn Rhan 1 o Fesur 2009.

Mae adran 18 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn yn ystod unrhyw dreial neu ar ôl unrhyw dreial am hawliau plant i wneud apelau a hawliadau.

Mae adran 19 yn cynnwys diffiniadau sy'n berthnasol i weithrediad adrannau 17 a 18.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau yn adrannau 1, 2, , 5, 6, 9, 10, 13, 14, 15 a 16 o Fesur 2009 ar 6 Mawrth 2012. Mae erthygl 3 hefyd yn dwyn i rym adran 23 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 2, 3, a 5 o'r Atodlen) a pharagraffau 2, 3, a 5 o'r Atodlen i Fesur 2009. Effaith cychwyn y darpariaethau hyn o'u cymryd ynghyd â rheoliadau a wneir o dan adran 17 o Fesur 2009 yw na fydd y darpariaethau hyn yn gymwys ond at ddibenion treialu yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Wrecsam. Ar ddiwedd y treialu bydd y darpariaethau yn gymwys yn awtomatig i Gymru gyfan:

(a)mae adran 1 yn rhoi hawl i blentyn apelio i'r Tribiwnlys mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig;

(b)mae adran 2 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i roi hysbysiad i'r plentyn, neu gyflwyno dogfen iddo ef, yn ogystal â'r rhiant;

(c)mae adran yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i drefnu bod cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig yn cael eu darparu i unrhyw blentyn yn ei ardal, unrhyw riant neu gyfaill achos i'r plentyn hwnnw;

(ch)mae adran 5 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau annibynnol i osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng yr awdurdod lleol a phlentyn a'r awdurdod lleol a rhiant plentyn;

(d)mae adran 6 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i drefnu gwasanaethau eiriol annibynnol ac i gyfeirio unrhyw blentyn yn ei ardal, neu gyfaill achos i'r plentyn hwnnw, at y gwasanaeth os ydynt yn gofyn amdano;

(dd)mae adran 9 yn rhoi hawl i blentyn i wneud hawliad i'r Tribiwnlys am wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion;

(e)mae adran 10 yn gwneud darpariaeth am derfynau amser i ddod â hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd gerbron y Tribiwnlys;

(f)mae adran 13 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i drefnu bod cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion yn cael eu darparu i unrhyw blentyn yn ei ardal ac i unrhyw gyfaill achos i'r plentyn hwnnw;

(ff)mae adran 14 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau annibynnol i osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng plentyn anabl a'r corff sy'n gyfrifol am yr ysgol;

(g)mae adran 15 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i drefnu gwasanaethau eiriol annibynnol ac i gyfeirio plentyn anabl yn ei ardal, neu gyfaill achos i'r plentyn hwnnw, at y gwasanaeth os ydynt yn gofyn amdano;

(ng)mae adran 16 yn rhoi pŵer cyfarwyddo i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 pan fydd awdurdod lleol yn gweithredu neu yn bwriadu gweithredu yn afresymol wrth gyflawni dyletswydd neu pan fydd wedi methu â chyflawni dyletswydd.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth drosiannol sy'n ymwneud â dyletswydd yr awdurdod lleol i wneud trefniadau i ddarparu cyngor a gwybodaeth a gwasanaethau datrys anghydfodau.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Ducpwyd darpariaethau canlynol Mesur 2009 i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethDyddiad CychwynO.S. Rhif
Adran 2011 Mehefin 20112011 Rhif 1468 (Cy.173) (C.56)
Adran 211 Medi 20112011 Rhif 1951 (Cy.215) (C.70)
Adran 221 Medi 20112011 Rhif 1951 (Cy.215) (C.70)
(1)

2009 mccc 5. Diwygiwyd adrannau 9 i 19, 26 a'r Atodlen i Fesur 2009 gan O.S. 2011/1651 (Cy. 187).

(2)

Diwygiwyd adran 11 gan O.S. 2011/1651, erthygl 5.

(3)

Diwygiwyd adran 12 gan O.S. 2011/1651, erthygl 6.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill